id
large_stringlengths 47
47
| url
large_stringlengths 44
185
| text
large_stringlengths 24k
380k
| language
large_stringclasses 1
value | token_count
int64 10k
149k
| dump
large_stringlengths 15
15
| page_average_lid_score
float64 0.88
1
|
|---|---|---|---|---|---|---|
<urn:uuid:b28366b1-185d-44a2-bfeb-d63054e031b3>
|
https://cdn.nationalarchives.gov.uk/documents/archives/archive-service-accreditation-eligibility-welsh-june-2018.pdf
|
Achrediad Gwasanaethau Archifau:
Meini Prawf Cymhwyster
Mehefin 2018
Cymhwyster ar gyfer Achrediad Gwasanaethau Archifau
Mae Achredu Gwasanaethau Archif ar gael i wasanaethau archif cymwys yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Mae chwe maen prawf cymhwyster ar gyfer Achrediad Gwasanaethau Archifau. Mae'n rhaid i'r rheiny sy'n bwriadu ymgeisio am y cynllun gadarnhau eu bod yn bodloni pob un o'r chwe maen prawf neu (lle y nodir hynny) drafod meysydd o ansicrwydd gyda'u corff asesu er mwyn cadarnhau eu bod yn gymwys cyn bwrw ymlaen.
Ceir manylion llawn y meini prawf cymhwyster yng ngweddill y canllawiau hyn er mwyn cynorthwyo gwasanaethau archifau sy'n ansicr a ydynt yn gymwys ai peidio.
MAEN PRAWF 1- Diffiniad o Archif:
- Er mwyn ymgeisio am Achrediad Gwasanaethau Archifau, dylai eich sefydliad feddu ar gasgliad sy'n bodloni'r diffiniad a ganlyn o archif:
"Deunyddiau sydd wedi'u creu neu'u derbyn gan berson, gan deulu neu sefydliad, boed yn gyhoeddus neu'n breifat, wrth weithredu eu busnes ac wedi'u gwarchod oherwydd y gwerth parhaus sydd iddynt neu fel tystiolaeth i swyddogaethau a chyfrifoldebau'r sawl a'u creodd, yn enwedig y deunyddiau hynny a gedwir gan ddefnyddio egwyddorion tarddiad, trefn wreiddiol a rheolaeth gyfunol; cofnodion parhaol." (y Gymdeithas Archifwyr Americanaidd)
Arweiniad
Mae'r Achrediad Gwasanaethau Archifau ar agor yn unig i sefydliadau sy'n meddu ar gasgliadau sy'n bodloni'r diffiniad o archif. Mae arweiniad pellach i'w gael yn y ddogfen ganllawiau What is an archive? Nid yw gwasanaethau Rheoli 1 Cofnodion yn dod o fewn cwmpas y cynllun.
Sampl o Gwestiynau
C1. Archifydd Casgliadau Arbennig mewn Prifysgol ydw i a'r casgliad mwyaf sydd gennym yw ffotograffau a gyflwynwyd fel rhodd gan academydd a oedd wedi tynnu lluniau o'r tu mewn a'r tu allan i'r rhan fwyaf o eglwysi plwyf yn Lloegr. Mae nifer o'i ffotograffau wedi'u defnyddio yn ei lyfrau sy'n ymwneud â hanes pensaernïol eglwysi. Rhoddwyd i ni hefyd ei lyfrgell swmpus ar hanes tirlun a phensaernïaeth Lloegr. Mae mwyafrif y llyfrau wedi'u labelu'n drwm â nodiadau ac yn cynnwys sylwadau sy'n berthnasol i'r adeiladau yn y lluniau. A yw hyn yn bodloni'r maen prawf?
A. Ydi. Gellir diffinio'r ffotograffau a'r llyfrau anodedig fel archif: maent wedi'u creu gan yr academydd wrth iddo fynd o gwmpas ei fusnes personol ac maent yn cynnwys gwybodaeth sydd o werth parhaol. Fodd bynnag, heb y nodiadau a ychwanegwyd yn y llyfrau, byddent yn cael eu hystyried, yn syml iawn, fel llyfrgell bersonol ac ni fyddent yn bodloni'r maen prawf.
C2. Rwyf yn llyfrgellydd astudiaethau lleol ac mae ein casgliad yn cynnwys llawer o ddeunydd ffotograffig, gan gynnwys: ffotograffau a negatifau o stiwdio ffotograffiaeth leol; ffotograffau a dynnwyd gan gymdeithas ffotograffiaeth leol; cyfres fawr o gardiau post ffotograffig sy'n dyddio o rhwng 1900 a 1954; ac amrywiol ffotograffau a gyflwynwyd gan aelodau'r cyhoedd sy'n cynnwys delweddau o leoedd,
1Diffiniwyd gan ISO 15489 : Maes rheolaeth sy'n gyfrifol am reolaeth effeithlon a systematig y gwaith o greu, derbyn, cynnal a chadw, defnyddio a lleoli cofnodion, gan gynnwys prosesu ar gyfer dal a chynnal tystiolaeth a gwybodaeth am weithgareddau a thrafodion busnes ar ffurf cofnodion
adeiladau a digwyddiadau arwyddocaol yn yr ardal. Mae hwn yn gasgliad archifau/llyfrgell cymysg. A yw'n bodloni'r meini prawf?
A. Ydi. Ni chewch eich diystyru o'r maen prawf hwn os nad yw'r casgliad cyfan yn bodloni'r gofynion. Mae ffotograffau'r stiwdio ffotograffig a'r gymdeithas ffotograffig yn bodloni'r meini prawf fel tystiolaeth o weithgareddau'r ddau sefydliad. Fodd bynnag, ni fyddai'r cardiau post gwag, a fyddai wedi cael eu cynhyrchu mewn niferoedd sylweddol, yn cyfateb i'r diffiniad o archif. Mae'r ffotograffau a gyflwynwyd gan y cyhoedd yn peri ychydig mwy o broblem. Pan fo aelod o'r cyhoedd wedi cyflwyno eu harchif o ffotograffau personol fel rhodd (wedi'u labelu â gwybodaeth gyd-destunol) a'i gadw fel casgliad ar wahân, byddai'n bodloni'r meini prawf. Fodd bynnag, os yw ffotograffau (yn enwedig y rhai heb wybodaeth gyd-destunol) gan wahanol adneuwyr wedi'u grwpio at ei gilydd mewn modd artiffisial i lunio un casgliad mawr, ni fyddai hynny'n cyfateb i'r diffiniad o archif.
C3. Rwyf yn guradur oriel gelf. Yn ogystal â chofnodion sy'n ymwneud â'r gwaith o reoli'r oriel a'i chasgliad, rydym hefyd yn meddu ar gasgliad cyflawn o ddeunydd arddangos sy'n dyddio'n ôl i 1900. Ar gyfer pob arddangosfa newydd yn yr oriel, byddwn yn cadw copi o gatalog yr arddangosfa, deunydd hysbysebu (e.e. taflenni a phosteri), capsiynau'r arddangosfa ac, yn fwy diweddar, ffurflenni arfarnu. Mae llawer o'r deunydd hwn wedi'i brintio, a yw'n parhau i fodloni'r maen prawf?
A. Ydi. O'u hystyried fesul un, mae'n bosib na fyddai pob eitem yn cael ei ystyried yn archif. Fodd bynnag, mae'r ffaith bod yr oriel wedi dod â'r elfennau hyn at ei gilydd fel tystiolaeth o'i swyddogaethau, yn golygu eu bod yn archif.
C4. Grŵp gwirfoddol ydym sy'n rheoli archif gymunedol hanes lleol. A yw archifau cymunedol yn bodloni'r maen prawf?
A. Ydynt. Cyn belled ag y bo'r casgliad yn cyfateb i'r diffiniad o archif, mae eich casgliad yn bodloni'r maen prawf hwn hefyd.
C5. Rwyf yn llyfrgellydd astudiaethau lleol ac rydym yn meddu ar amrywiaeth o fapiau Arolwg Ordnans ar gyfer Cymru a Lloegr, gan gynnwys mapiau Arolwg Ordnans cynnar; casgliad o ffacsimilïau o fapiau hanesyddol; a chasgliad mawr o brintiau topograffaidd o'r ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. A yw hyn yn bodloni'r maen prawf?
A. Nac ydi. Gallai'r casgliad fod o werth mawr ar gyfer ymchwil, ond nid yw'n cyfateb i gasgliad o archifau. Nid yw'r mapiau Arolwg Ordnans, y ffacsimilïau a'r printiau yn gofnodion unigryw a gellid cael mynediad atynt mewn mannau eraill. Pe bai'r casgliad wedi cynnwys llawer o fapiau gwreiddiol mewn llawysgrif, neu fapiau Arolwg Ordnans wedi'u labelu â nodiadau at ddiben tystiolaeth (e.e. anodiadau gan dirfeddiannwr i ddangos y tir yn eu meddiant), byddai'n gymwys am Achrediad Gwasanaethau Archifau.
C6. Rwyf yn archifydd mewn amgueddfa achrededig sy'n cadw casgliadau
sylweddol o gofnodion sydd o ddiddordeb hanesyddol. Mae gennym ddull integredig o reoli casgliadau ac nid ydym yn cadw gwasanaeth archifau ar wahân y gellid ei adnabod mewn cyllidebau neu brosesau rheoli eraill. A ydym ni'n gymwys i ymgeisio?
A. Ydych. Cyn belled ag y boch yn bodloni pob un o'r meini prawf cymhwyster, nid yw'r modd o reoli yn berthnasol. Mae'r diffiniad o 'wasanaeth archifau' at ddiben achrediad yn un cynhwysol, sy'n cwmpasu pob un o'r gwasanaethau sy'n cadw casgliadau archifol o bwys. Nid oes unrhyw fwriad i eithrio gwasanaethau llyfrgell neu dreftadaeth integredig, na threfniadau cyd-reoli eraill.
MAEN PRAWF 2 – Maint eich casgliad(au) o archifau:
- Dylai eich casgliad(au) o archifau fodloni, neu ragori ar, un o'r canlynol:
o c. 4000 o eitemau
o c. 50 o fetrau llinol
o c. 4.2 o fetrau ciwbig
o c. 20 GB
Arweiniad
Mae'r maen prawf hwn yn defnyddio maint y casgliad i ddiffinio gwasanaethau cymwys ac arweiniad YN UNIG ydyw. Mae'n ceisio cyfyngu nifer y gwasanaethau cymwys i'r rhai sydd â daliadau sylweddol o archifau ac i roi arweiniad ynghylch yr adegau y mae casgliadau cymysg yn gymwys. Wrth gyfrifo maint y casgliadau, dylech gynnwys casgliadau o archifau yn unig.
Os nad yw eich casgliad o archifau yn bodloni'r meini prawf a amlinellir ond eich bod o'r farn ei fod yn arwyddocaol wnewch chi, os gwelwch chi'n dda, ofyn am gyngor. Caiff cyrff asesu ddefnyddio disgresiwn wrth benderfynu ynghylch cymhwyster.
Sampl o Gwestiynau
C1. Mae ein harchif busnes yn cwmpasu 65 metr llinol, ond mae'r rhan fwyaf ohono ar ffurf cyfrolau mawr (llyfrau llythyrau, cyfrifon, cyfriflyfr cyfranddaliadau ayb.) Mae'n debyg na fyddem yn cyrraedd y 4000 eitem o bell ffordd. A ydyw, er hynny, yn bodloni'r maen prawf hwn?
A. Ydi. Un maen prawf maint yn unig y mae'n rhaid i chi ei fodloni. Nid yw'r ffaith fod eich casgliad yn cynnwys cyfrolau yn bennaf yn gwneud unrhyw wahaniaeth.
C2. Rydym yn cadw 35 metr o archifau, ond rydym yn ffitio 6 o flychau ar bob silff 1 metr. A yw hyn yn bodloni'r maen prawf?
A. Ydi. At ddibenion Achrediad Gwasanaethau Archifau awgrymwn y byddai metr llinol yn cyfateb i 4 blwch. Fel y cyfryw, mae eich daliadau yn cyfateb i 52.5 metr llinol (35 x 6 ÷ 4 = 52.5) ac yn gymwys ar gyfer Achrediad.
C3. 28 metr llinol yn unig yw eich casgliad o archifau. Hwn yw ein hunig gasgliad ac nid wyf yn siŵr o nifer yr eitemau sydd ynddo. Mae'r papurau o arwyddocâd hanesyddol cenedlaethol a chânt eu defnyddio'n rheolaidd at ddibenion ymchwil. A yw hyn yn bodloni'r maen prawf hwn?
A. Mae'n bosib. Dylech gysylltu â'ch corff asesu i gael cyngor. Dan rai amgylchiadau, gallai casgliadau sydd ag arwyddocâd hanesyddol iddynt, ond nad ydynt yn bodloni'r maen prawf o ran maint, fod yn gymwys i ymgeisio.
C4. Rwy'n gyfarwyddwr amgueddfa ac mae gennym oddeutu 25 metr o gasgliadau archifau. Fodd bynnag, mae gennym hefyd gasgliad mawr o archifau sefydliadol yr amgueddfa ei hun. Mae'r casgliad hwn yn cynnwys ein cofnodion hanesyddol, ein cofnodion ariannol, deunyddiau arddangosfeydd, cofnodion, dogfennau'n cefnogi gwrthrychau a deunydd cyhoeddusrwydd. Os ydym yn cynnwys y casgliad hwn, byddai ein daliadau archifol yn cyfateb i 55 metr llinol. A gawn ni gynnwys archifau'r sefydliad i fodloni'r maen prawf ar gyfer Achrediad Gwasanaethau Archifau?
A. Cewch. Gellir cynnwys archifau sefydliadol amgueddfeydd yn y maen prawf sy'n ymwneud â maint. Maent yn adnodd gwerthfawr ac yn dogfennu hanes yr amgueddfa.
C5. Mae ein casgliad o waith celf hysbysebion yn cyfateb i oddeutu 80 metr llinol o rediad silffoedd. Rhwng 3 a 5 eitem yn unig sydd ym mhob blwch a byddwn yn rhoi 3 o flychau ar bob silff. O ystyried mai 9 eitem yn unig sydd i bob rhediad silff o un metr llinol, a yw'n parhau i fodloni'r maen prawf?
A. Mae'n bosib. Bydd angen i chi gysylltu â'ch corff asesu perthnasol er mwyn cyflwyno eich achos ond, o dan rai amgylchiadau, gallai rhai casgliadau ag iddynt arwyddocâd hanesyddol fod yn gymwys i ymgeisio er nad ydynt yn bodloni'r maen prawf o ran maint.
MAEN PRAWF 3 – Darparu Mynediad:
- Mae'n rhaid i chi ddarparu rhywfaint o fynediad at eich casgliadau o archifau y tu hwnt i aelodau o'ch sefydliad neu'ch corff eich hunan.
Arweiniad
Mae'r maen prawf hwn yn ceisio sicrhau fod y cyfranogwyr yn y cynllun hwn sy'n derbyn arian cyhoeddus yn cynnig mynediad o ryw fath i aelodau'r cyhoedd. Dylai'r mynediad hwn fod yn gymesur ac yn briodol i fath a graddfa'r gwasanaeth archifau a gall fod ar sawl ffurf.
Sampl o Gwestiynau
C1. Mae ein casgliad o archifau yn perthyn i fusnes preifat. Ein prif ddefnyddwyr felly yw staff proffesiynol o fewn y corff. Mae'r mynediad i'r cyhoedd yn gyfyngedig iawn. Yn aml iawn, byddwn yn ymgymryd ag ymchwil i ddefnyddwyr ac yn e-bostio ymateb. A ydym yn bodloni'r maen prawf hwn?
A. Ydych. Mae'r Achrediad Gwasanaethau Archifau yn cydnabod fod gwahanol gymunedau 2 yn perthyn i wahanol fathau o archifau a sefydliadau. Fel egwyddor, fodd bynnag, mae'r Achrediad yn annog pob ymgeisydd i gynnig rhyw fath o fynediad i'r cyhoedd, mynediad sy'n briodol i'w hamgylchiadau arbennig hwy. Gallai mynediad cyfryngol o'r math hwn fod yn briodol i rai Gwasanaethau Archifau.
C2. Grŵp gwirfoddol ydym sy'n rheoli archif gymunedol. Pobl leol yn bennaf yw eich grŵp o ddefnyddwyr ac maent yn grŵp eithaf bach, er ein bod yn awyddus i ymgysylltu â chynulleidfa ehangach. Ydyn ni'n bodloni'r maen prawf hwn?
A. Ydych. Mae'r Achrediad Gwasanaethau Archifau yn mesur pa mor effeithiol yr ydych yn ymgysylltu â'ch cymuned ac yn darparu fframwaith cadarn ar gyfer ymestyn a datblygu eich cynulleidfaoedd.
C3. Mae ein casgliad o ystadau ym mherchenogaeth teulu o dirfeddianwyr. Rydym yn cynnig mynediad at y casgliad y tu allan i'r teulu, ond y mae wedi'i gyfyngu. Rydym yn disgwyl i ymchwilwyr ddarparu llythyr o argymhelliad gan academydd cyn y caniateir iddynt gael mynediad at yr archif. A ydym ni'n bodloni'r maen prawf hwn?
A. Ydych. Mae eich trefniadau mynediad yn cynnig lefel o fynediad y tu hwnt i'ch sefydliad. Fodd bynnag, mae'r Achrediad Gwasanaethau Archifau yn annog ymgeiswyr i ehangu ystod eu cynulleidfa, pryd bynnag y bo hynny'n briodol ac ar lefel gymesur.
2 Mae'r safon yn seiliedig ar y cysyniad o gymuned y sefydlwyd y gwasanaeth archifau i'w gwasanaethu, yn ôl y diffiniad yn Standard for Access to Archives – Grŵp Ansawdd y Gwasanaethau Cyhoeddus
C4. Rwy'n archifydd i elusen lles plant. Mae rhan fwyaf ein cofnodion yn cynnwys gwybodaeth bersonol sydd gaeedig i'r cyhoedd yn gyffredinol. Fodd bynnag, yr ydym yn caniatáu mynediad at grŵp llai o gofnodion nad ydynt o natur sensitif. A ydym ni'n bodloni'r maen prawf hwn?
A. Ydych. Mae'r Achrediad Gwasanaethau Archifau yn ei gwneud yn ofynnol i'r rhai sy'n dal archifau ddarparu lefelau o fynediad i'r cyhoedd sy'n briodol i natur pob sefydliad. O ystyried y math o gorff yr ydych chi'n gweithio ynddo, byddai'n ymddangos fod y lefelau mynediad yn briodol.
C5. Mae ein harchif yn eiddo i ysgol breifat hirsefydledig. Ar hyn o bryd nid ydym yn darparu mynediad i'r cyhoedd yn gyffredinol. Mae hawl gan gyn-ddisgyblion i ddefnyddio'r archifau ac, o bryd i'w gilydd, rydym yn caniatáu mynediad i academyddion. Fodd bynnag, teimlaf fod y casgliad o werth hanesyddol mawr ac y dylai fod ar gael i'r cyhoedd. Yn anffodus, mae'n rhaid i benderfyniadau fel y rhain fynd drwy bwyllgor, a gallai cryn amser fynd heibio cyn cael penderfyniad. Ydym ni, er hynny, yn bodloni'r maen prawf hwn?
A. Ydych. Mae eich trefniadau mynediad yn darparu mynediad cyfyngedig i ddefnyddwyr y tu hwnt i'ch sefydliad. Fodd bynnag, mae'r Achrediad Gwasanaethau Archifau yn annog ymgeiswyr i gynnig lefel o fynediad i amrywiaeth eang o ddefnyddwyr. Mae'r ffaith eich bod yn bwriadu ymestyn eich trefniadau mynediad yn gam pendant tuag at gyrraedd y nod hwnnw. Hefyd, bydd yr Achrediad Gwasanaethau Archifau yn rhoi i chi erfyn eiriolaeth ddarbwyllol i'w gyflwyno i'ch corff llywodraethu mewn perthynas ag ehangu mynediad; a rhown fframwaith cadarn i chi ar gyfer ymestyn a datblygu eich cynulleidfa.
C6. Rwy'n archifydd a rheolwr cofnodion rhan-amser mewn prifysgol. Ar hyn o bryd, rhoddir mynediad i'r cyhoedd, ond caiff ei gyfyngu i un diwrnod yr wythnos yn unig. Yn anffodus mae elfen cadw cofnodion fy rôl yn golygu na allaf gynnig mwy o fynediad ar hyn o bryd. Pan wyf ar wyliau, nid oes neb i gymryd fy lle, ac ni allaf gynnig gwasanaeth i'r cyhoedd yn ystod y cyfnodau hyn. Ydym ni, er hynny, yn bodloni'r maen prawf hwn?
A. Ydych. Mae'r Achrediad Gwasanaethau Archifau yn ei gwneud yn ofynnol i'r rhai sy'n cadw archifau i ddarparu lefelau o fynediad i'r cyhoedd sy'n briodol i natur pob sefydliad. Fodd bynnag, mae'r Achrediad yn mesur pa mor effeithiol yr ydych chi'n ymgysylltu gyda'ch defnyddwyr ac yn darparu fframwaith cadarn ar gyfer ymestyn cynulleidfa drwy amryw o ddulliau, gan gynnwys mynediad o bell a digido.
MAEN PRAWF 4 Cofnodion gwreiddiol:
- Nid yw ystorfeydd sydd â dim ond deunyddiau analog wedi'u digido yn gymwys ar gyfer y Cynllun Achredu hwn.
Arweiniad
Mae Achredu Gwasanaethau Archifau wedi'i gynllunio i gefnogi sefydliadau sydd â gofal hirdymor dros archifau. Mae'r maen prawf hwn yn eithrio sefydliadau sydd ond yn cadw deunyddiau wedi'u digido o'r cynllun Achredu Gwasanaethau Archifau. Diffinnir y rhain fel a ganlyn:
Deunyddiau wedi'u digido: term sy'n cwmpasu deunydd digidol (boed wedi'i ddiffinio fel 'archif' neu beidio) sydd wedi'i greu o ganlyniad i drosi deunyddiau analog i ffurf ddigidol.
Sampl o Gwestiynau
C1. Rwyf yn Gadeirydd grŵp hanes lleol ac fe gafodd ein casgliad ei greu drwy ddigido eitemau yr oedd y cyhoedd wedi dod â nhw i mewn yn ystod dyddiau agored. Mae'r deunydd ar gael drwy wefan y prosiect yn unig. A ydym yn bodloni'r maen prawf hwn?
A. Nac ydych. Mae mynediad o bell yn sicr yn ffordd glodwiw o alluogi mynediad at eich casgliad ac mae'n derbyn cefnogaeth yr Achrediad Gwasanaethau Archifau. Fodd bynnag, at ddibenion Achrediad, dylai eich gwasanaeth gadw rhai casgliadau ffisegol.
C2. Rwy'n archifydd mewn gwasanaeth archifau awdurdod lleol. Rydym wedi digido ein daliadau papur mwyaf poblogaidd yn helaeth er mwyn gwella cyflwr eu cadwraeth ac i hyrwyddo mynediad eang i'r cyhoedd. A yw'r maen prawf hwn yn golygu nad yw'r casgliadau digidol hyn yn cael eu hystyried dan achrediad?
A. Nac ydi. Mae'r Achrediad Gwasanaethau Archifau yn rhagweld y bydd llawer o wasanaethau yn defnyddio digido fel ffordd o wella cadwraeth ac/neu fynediad at gasgliadau analog. Fe'ch anogir i esbonio dull eich gwasanaeth yn y meysydd priodol ar eich cais, a hefyd i drafod cadwraeth eich casgliadau fel y bo'n briodol.
C3. Rwy'n rheoli gwefan sy'n dwyn ynghyd ddeunydd digidol yn ymwneud ag awdur penodol, sef deunydd sy'n dod o wasanaethau archifau ar draws y byd, ac rydyn ni'n cyfeirio ato fel 'archif ar-lein'. Rydym yn dilyn arferion da wrth greu deunydd digidol ac yn anelu at gadw ein delweddau i'r hirdymor. A ydyn ni'n bodloni'r maen prawf hwn?
A: Nac ydych. Mae Achrediad y Gwasanaethau Archifau am gefnogi gwasanaethau sy'n cadw deunyddiau gwreiddiol yn y tymor hir, boed yn analog neu yn ddigidolanedig. Er bod cadw dirprwyon digidol yn effeithiol yn sicr yn ganmoladwy, nid yw gweithgaredd o'r fath yn cwmpasu ystod lawn swyddogaethau gwasanaeth archifau ac felly mae y tu allan i gwmpas y rhaglen hon.
MAEN PRAWF 5 - Staffio:
- Mae'n rhaid i'ch gwasanaeth archifau fod dan reolaeth staff cymwys 3 , sydd â mynediad at arbenigedd archifol proffesiynol sy'n briodol i fath a natur y sefydliad a'r casgliad.
Arweiniad
Mae Safon yr Achrediad Gwasanaethau Archifau a'r canllawiau yn rhoi gwybodaeth bellach ynghylch y lefelau staffio angenrheidiol h.y. mae disgwyl y bydd pob gwasanaeth archifau sy'n derbyn arian cyhoeddus yn cyflogi un neu ragor o aelodau staff sydd â chymwysterau proffesiynol. Caiff lefelau staff eu gwerthuso fel rhan o'r broses asesu.
Sampl o Gwestiynau
C1. Rydym yn archwilio modelau ar gyfer cyflawni ein gwasanaethau archifau awdurdod lleol at y dyfodol. Un o'r opsiynau yw cyflwyno'r gwasanaeth drwy ddefnyddio gwirfoddolwyr yn unig. A fyddem ni'n gymwys am Achrediad Gwasanaethau Archifau o dan y maen prawf hwn?
A. Na fyddech. Mae'r Achrediad Gwasanaethau yn cydnabod y bydd gweithlu o wirfoddolwyr sydd wedi'u rheoli'n dda, mewn rhai achosion, ynghyd ag arbenigedd archifol proffesiynol priodol, yn gallu bodloni'r diffiniad o staff cymwys. Fodd bynnag, er mwyn bodloni Safon yr Achrediad Gwasanaethau Archifau, mae gofyn i awdurdodau lleol fodloni gofynion Safon yr Achrediad Gwasanaethau Archifau ar gyfer staffio gwasanaethau archifau yn y sector cyhoeddus yn unol â'r disgrifiad yng Ngofyniad 1.6 a chanllawiau ategol. Ni fyddai model i wirfoddolwyr yn unig yn cydymffurfio.
C2. Rwy'n rheolwr cofnodion i brifysgol. Y fi sy'n gyfrifol am ofalu am yr archif. Fodd bynnag, nid yw'n rhan o'm swydd-ddisgrifiad ac nid oes aelod staff swyddogol wedi'i neilltuo ar gyfer y gwaith. Rwy'n ymgymryd â'r gwaith oherwydd fy mod yn teimlo ei bod yn bwysig i'r casgliad gael ei reoli, ond ni allaf dreulio cymaint o amser yn gwneud hyn ag yr hoffwn. A ydym yn bodloni'r maen prawf?
3 Yn unol â'r disgrifiad yn PAS 197 "Person cymwys – un sy'n meddu ar hyfforddiant, gwybodaeth, profiad, arbenigedd, sgiliau, a/neu gyneddfau eraill sy'n angenrhediol ac yn ddigonol i gyflawni'r dasg a ddyrennir iddynt mewn modd diogel ac effeithiol "
A. Mae'n bosib. Os cysylltwch chi â'ch corff asesu perthnasol, byddant yn medru asesu eich sefyllfa ar sail unigol. Bydd Achrediad Gwasanaethau Archifau yn darparu erfyn eiriolaeth effeithiol i helpu eich corff llywodraethu ddeall pwysigrwydd y maen prawf hwn.
C3. Rwy'n rheolwr cofnodion ar gyfer cwmni cyfyngedig. Hyd at 2 flynedd yn ôl, yr oedd archifydd yno i reoli'r casgliad o archifau. Fodd bynnag, ar ôl i'n harchifydd adael, cafodd pob swydd newydd eu rhewi. Nid oes gennym aelod staff penodol i reoli'r casgliad ac mae'n bosib na fydd gennym aelod staff o'r fath yn y dyfodol agos. O bryd i'w gilydd, byddaf yn darparu mynediad i'r casgliad yn fewnol, ond y mae pob mynediad allanol wedi dod i ben. A ydym ni'n bodloni'r maen prawf hwn?
A. Nac ydych. At ddibenion Achrediad Gwasanaethau Archifau, mae angen person â chyfrifoldebau a ddirprwywyd yn swyddogol (boed am dâl neu fel arall). Pe bai eich cwmni'n penderfynu dyrannu rhywfaint o'ch amser, neu amser aelodau staff eraill, i reoli'r casgliad, yna byddech yn bodloni'r maen prawf.
C4. Rwy'n llyfrgellydd prifysgol ac mae gennyf gyfrifoldeb hefyd am archifau'r brifysgol. Fodd bynnag, y cynorthwyydd llyfrgell sy'n ymgymryd â'r gwaith beunyddiol o reoli'r casgliad, gan roi hanner ei hamser i'r casgliad (1 diwrnod yr wythnos). Nid oes gan y cynorthwyydd llyfrgell na minnau unrhyw hyfforddiant archifol proffesiynol. A ydym ni'n bodloni'r maen prawf hwn?
A. Mae'n bosib. Mae'r Achrediad Gwasanaethau Archifau yn deall na fydd gan rai o'r sefydliadau sy'n cadw archifau staff â chymwysterau proffesiynol i reoli eu casgliadau, ond mae gennych rywfaint o hyfforddiant archifol. Byddech yn gymwys pe bai gennych ryw ffurf ar gyngor neu gymorth archifol. Os cysylltwch chi â'r corff asesu perthnasol, byddant yn gallu asesu eich sefyllfa ar sail achos unigol a rhoi gwybod i chi a ydych yn gymwys ai peidio.
C5. Rwy'n guradur mewn amgueddfa awdurdod lleol ac fe wnaethom geisio cyllid i gatalogio a phecynnu ein prif gasgliad o archifau 5 mlynedd yn ôl. Archifwyr proffesiynol a ymgymerodd â'r gwaith a chynhyrchwyd catalog trylwyr. Ers hynny, nid oes aelod staff wedi'i benodi i reoli'r archif. Mae'r catalog ardderchog yn golygu y gall unrhyw aelod staff ganfod dogfennau neu ateb ymholiadau, felly nid yw'r angen i neilltuo cyfrifoldeb wedi codi. A ydym ni'n bodloni'r maen prawf hwn?
A. Mae'n bosib. Os cysylltwch chi â'ch corff asesu perthnasol, byddant yn gallu asesu eich sefyllfa ar sail achos unigol a rhoi gwybod i chi a ydych yn gymwys ai peidio.
MAEN PRAWF 6 - Storio:
- Rhaid i'ch gwasanaeth archif fod â gofod storio diogel, penodol ar gyfer y cofnodion sydd yn eich meddiant.
Arweiniad
Mae'r maen prawf hwn yn ceisio sicrhau bod gan y gwasanaethau sy'n ymgeisio sylfaen gadarn i ofalu am y casgliadau. Er mwyn storio cofnodion yn ddiogel, mae angen gofod storio penodol â chlo, gyda silffoedd wedi'u gosod, ar gyfer casgliadau analog. Dylai casgliadau digidol gael eu gwarchod rhag mynediad anawdurdodedig.
Mae Safon a chanllawiau'r Achrediad Gwasanaethau Archifau yn rhoi gwybodaeth bellach ar ansawdd ddisgwyliedig y storfeydd gan gynnwys rheoli'r amgylchedd a dileu peryglon cadwraeth tymor hir. Bydd ansawdd y ddarpariaeth storio yn cael ei gwerthuso fel rhan o'r broses asesu.
Sampl o Gwestiynau
C1. Rwy'n archifydd mewn llyfrgell arbenigol. Mae gennym gasgliadau archif fel rhan o'r llyfrgell, ar silff agored yn ein hystafell ddarllen. Mae staff yn yr ystafell ddarllen bob amser pan fo darllenwyr yn bresennol. A ydym ni'n bodloni'r maen prawf hwn?
A. Nac ydych. Nid yw'r ddarpariaeth storio yn ddigon diogel i amddiffyn y cofnodion unigryw sydd yn eich meddiant. Gan fod y gofod at ddefnydd cymysg, mae'n annhebygol y byddai modd i chi ddatblygu elfennau eraill o ofal am y casgliad fel diogelu rhag tân, golau, lefelau tymheredd a lleithder amhriodol, a ffactorau risg eraill a allai fygwth cadwraeth yr archifau yn y tymor hir.
C2. Rwy'n archifydd mewn gwasanaeth awdurdod lleol. Mae gennym nifer o gasgliadau digidol ar gyfryngau symudol fel CD ROMs sy'n cael eu cadw yn ein hystafell ddiogel, ond nid oes gennym eto ddull i storio ar weinydd diogel i sicrhau cadwraeth ddigidol yn y tymor hir. A ydym ni'n bodloni'r maen prawf hwn?
A. Ydych. Fel y gwyddoch, nid yw'r ddarpariaeth hon yn ddelfrydol ar gyfer storio a chadw deunyddiau digidol yn y tymor hir. Mae'r Achrediad Gwasanaeth Archifau yn gofyn i bob gwasanaeth archifau sy'n dal deunyddiau digidol ddatblygu strategaeth briodol ar gyfer storio deunydd digidol o fewn 5 mlynedd. Rydym yn eich annog i ystyried sut i ddechrau ar y gwaith. Fodd bynnag, nid yw eich sefyllfa bresennol yn rhwystr rhag ymgeisio am Achrediad Gwasanaeth Archifau.
C3. Rwy'n Gadeirydd cymdeithas hanes lleol. Mae gennym gasgliad o gofnodion perthnasol i'n hardal leol. Fodd bynnag, nid oes gennym storfa benodol. Mae aelodau'r pwyllgor rheoli yn storio cofnodion yn eu cartrefi cystal ag y bo modd. A ydym ni'n bodloni'r maen prawf hwn?
A. Nac ydych. Nid yw'r lefel hon o ddarpariaeth yn cynnig gofod storio penodol
lle gellid darparu lefel addas o ofal am y casgliad.
C4. Rwy'n archifydd mewn amgueddfa achrededig. Mae'n storfeydd yn cynnwys casgliadau o wrthrychau cymysg - gan gynnwys tecstilau a gwrthrychau metel a phren - ac archifau. Rydym yn rheoli'r amgylchedd yn unol â manyleb sy'n adlewyrchu'n casgliadau cymysg. A ydym ni'n bodloni'r maen prawf hwn?
A. Ydych. Mae'r Achrediad Gwasanaeth Archifau yn cydnabod bod rheolaeth integredig yn ateb priodol mewn rhai sefydliadau. Wrth storio casgliadau cymysg mewn gofod storio diogel, penodol mae modd darparu gofal effeithiol iawn os yw anghenion yr holl gasgliadau yn cael eu hystyried yn ddigonol yn y gwaith cynllunio.
C5. Rwy'n archifydd mewn archifdy bach llywodraeth leol. Mae gennym ddwy ystafell ddiogel, ond nid yw'r naill na'r llall yn bodloni pob agwedd o'r PD5454:2012. Mae gennym raglen lawn i asesu a rheoli risg, rydym wedi pacio'r holl ddeunyddiau ac rydym yn ceisio gwella'r rheolaeth amgylcheddol. A ydym ni'n bodloni'r maen prawf hwn?
A. Ydych. Rydych chi'n gymwys ar gyfer y cynllun hwn. Mae'r Achrediad Gwasanaeth Archifau yn ceisio helpu gwasanaethau archifau i wella'u gofal am eu casgliadau. Wrth wneud cais am statws achrededig, bydd ansawdd y storfa a phriodoldeb y rheolaeth risg yn cael eu hasesu, ac fe fyddwn yn cynnig adborth. Os bydd elfen sylweddol o'r storfa yn methu bodloni PD5454: 2012 wrth i chi wneud eich cais, a bod y peryglon o ganlyniad heb eu rheoli'n effeithiol, mae'n annhebygol y gellid achredu'ch gwasanaeth. Fodd bynnag, mae croeso i chi weithio tuag at wella'ch gofal am eich casgliad gyda'r nod o ymgeisio am achrediad.
|
cym_Latn
| 10,697
|
CC-MAIN-2022-33
| 0.99999
|
<urn:uuid:ca22ff6c-6e64-42af-903d-16315d156d0d>
|
https://orca.cardiff.ac.uk/id/eprint/111439/7/Canlyniadau%20arolwg%20o%20gymorth%20i%20gartrefi%20gofal%20oedolion%20yng%20Nghymru%2014.05.18.pdf
|
Canlyniadau arolwg o gymorth i gartrefi gofal oedolion yng Nghymru: persbectif darparwr gofal lliniarol arbenigol.
Cydnabyddiaethau
Diolch
Diolch o galon i'r staff gofal lliniarol arbenigol a wnaeth yr adroddiad hwn yn bosibl drwy gwblhau'r arolwg.
Awduron
Alisha Newman
Cydymaith Ymchwil, Canolfan Ymchwil Gofal Lliniarol Marie Curie, Caerdydd.
Gemma Allnatt
Cynorthwy-ydd Ymchwil, Canolfan Ymchwil Gofal Lliniarol Marie Curie, Caerdydd.
Yr Athro Annmarie Nelson
Cyfarwyddwr Gwyddonol, Canolfan Ymchwil Gofal Lliniarol Marie Curie, Caerdydd.
Dr Anthony Byrne
Cyfarwyddwr Clinigol, Canolfan Ymchwil Gofal Lliniarol Marie Curie, Caerdydd.
Canolfan Gydlynu
Canolfan Ymchwil Gofal Lliniarol Marie Curie, Caerdydd.
Comisiynwyd gan
Y Bwrdd Gofal Diwedd Oes. Ariennir y Bwrdd Gofal Diwedd Oes gan Lywodraeth Cymru.
Cyhoeddwyd ar ran Bwrdd Gofal Diwedd Oes Cymru gan
Canolfan Ymchwil Gofal Lliniarol Marie Curie,
Llawr Cyntaf,
Neuadd Meirionnydd,
Parc y Mynydd Bychan,
Caerdydd.
CF14 4YS.
Mai 2018.
Cynnwys
1. Cefndir a rhesymeg
Mae poblogaeth Cymru'n tyfu ond hefyd yn heneiddio. Yn 2016 roedd 21% o boblogaeth Cymru'n 65 oed neu hŷn. Bydd hyn yn codi i bron 25% erbyn 2026 a mwy na 28% erbyn 2036. (1)
Gan fod iechyd yn aml yn dirywio gydag oedran, (2) bydd angen i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol addasu i fodloni galw newidiol poblogaeth hŷn sy'n tyfu. (3) Mae darparu gofal o ansawdd uchel felly'n bwnc pwysig i ddarparwyr a chomisiynwyr gofal yng Nghymru. Gall hyn fod yn arbennig o bwysig yn yr ardaloedd sydd â'r poblogaethau hŷn mwyaf. Ym Mhowys, er enghraifft, disgwylir i bobl 65+ oed gyfrif am 37.8% o'r boblogaeth erbyn 2036. (1)
Mae mwy na 22,217 o leoedd mewn cartrefi gofal preswyl oedolion hŷn yng Nghymru. (4) Dangosodd y Cyfrifiad diweddaraf (2011) fod 76.5% o breswylwyr cartrefi gofal Cymru yn 65+ oed a bod pedwar o bob 10 preswylydd (44.9%) yn 85 neu'n hŷn, (5) grŵp sy'n debygol o fod yn fwy agored i gyflyrau sy'n gofyn am lefelau uchel o gymorth. (2)
Mae cyfran y boblogaeth sy'n marw mewn cartrefi gofal yn tyfu. (6) Digwyddodd 16% o'r holl farwolaethau a gofrestrwyd yng Nghymru yn 2016 mewn cartref gofal, (7) ond nid yw'r ffigur hwn yn cydnabod y preswylwyr hynny a gafodd ofal lliniarol a diwedd oes mewn cartref gofal cyn cael eu symud i leoliad arall, fel ysbyty, a marw yno. Gyda chyfran mor uchel o farwolaethau yng Nghymru yn digwydd mewn cartref gofal, mae darparu gofal diwedd oes o ansawdd uchel yn y lleoliad hwn yn bwysig iawn.
Er bod gwaith wedi'i wneud i ddeall gweithgarwch gwasanaeth gofal lliniarol arbenigol yn well drwy'r arolwg Set Ddata Sylfaenol (SDdS) blynyddol, I nid ydym yn gwybod llawer am y cymorth sy'n cael ei ddarparu mewn cartrefi gofal. Felly, nod yr adroddiad hwn yw cynyddu dealltwriaeth o sut mae gwasanaethau gofal lliniarol arbenigol yn cefnogi cartrefi gofal oedolion yng Nghymru.
I 'Casglwyd y Set Ddata Sylfaenol ar gyfer Gwasanaethau Gofal Lliniarol Arbenigol gan y Cyngor Gofal Lliniarol Cenedlaethol fesul blwyddyn, gyda'r nod o ddarparu darlun cywir o weithgarwch gwasanaethau gofal lliniarol hosbis ac arbenigol.' Ceir rhagor o wybodaeth yn: NCPC (2017) Minimum Data Set [Ar-lein] Lloegr: NCPC [Gwelwyd 22 Awst 2017] Ar gael yn: http://www.ncpc.org.uk/minimum-data-set
2. Crynodeb o ganfyddiadau ac argymhellion
Drwy'r arolwg, cyfleodd darparwyr Gofal Lliniarol Arbenigol (GLlA) sy'n gweithio yn y gymuned eu hymrwymiad i'w gwaith gyda phreswylwyr a staff cartrefi gofal. Nododd y mwyafrif berthnasau gwaith cadarnhaol gyda chartrefi gofal, ond gwnaeth rhai gydnabod y gallai'r rhwydwaith o gartrefi y maent yn ei gefnogi fod yn ehangach. Gwnaeth darparwyr gydnabod heriau i ddarparu GLlA mewn cartrefi gofal a chynnig awgrymiadau adeiladol ar gyfer eu goresgyn.
I. Nodweddion gwasanaeth
Roedd y naw gwasanaeth a gynrychiolir yn yr adroddiad hwn wedi'u lleoli mewn chwe o'r saith Bwrdd Iechyd Lleol (BILl) ac roedd pob un ohonynt wedi bod yn rhedeg am o leiaf ddeng mlynedd. Disgrifiodd dwy ran o dair o gyfranogwyr yr arolwg eu hunain fel hosbis, a dywedodd y gweddill eu bod yn Uned Gofal Lliniarol Arbenigol.
Dywedodd pum darparwr eu bod yn cael eu comisiynu i ddarparu gwasanaethau yn y gymuned yn gyffredinol. Cafodd yr un pum gwasanaeth eu comisiynu'n benodol i ddarparu cymorth i gartrefi gofal. Esboniodd rhai ymatebwyr nad yw cartrefi gofal yn cael eu manylu yn eu contractau a'u cytundebau yn aml, ond nad oes ots am hyn a bod cymorth yn cael ei roi a'i lywio gan anghenion cleifion. Fodd bynnag, dywedodd rhai eu bod am gael adnoddau pwrpasol ar gyfer gwaith targedig gyda chartrefi gofal.
II. Darparu gwasanaeth
Roedd cwmpas y gwasanaethau'n eang ac yn cynnwys cymorth addysg, hyfforddiant, clinigol, ymarferol, cymdeithasol, emosiynol, seicolegol ac ysbrydol. Dywedodd rhai ymatebwyr fod gwasanaethau'n cael eu darparu gan dimau staff amlddisgyblaethol.
Roedd pob un o'r naw darparwr yn cynnig cymorth clinigol i gartrefi gofal, gan gynnwys cyngor dros y ffôn. Roedd ymweliadau rheolaidd a brys yn cael eu darparu gan fwy na hanner yr ymatebwyr.
Roedd addysg a hyfforddiant ffurfiol yn cael eu cynnig i gartrefi gofal/staff gan saith o'r naw gwasanaeth. Roedd hyn yn cynnwys sesiynau i gefnogi blaengynllunio gofal a phenderfyniadau, hyfforddiant clefyd-benodol, rheoli symptomau, defnydd o yrwyr chwistrell, galar, colled a phrofedigaeth. Cynigiwyd dewislen o hyfforddiant sy'n gysylltiedig â chyfathrebu hefyd.
Roedd pob un o'r naw darparwr yn cynnig hyfforddiant anffurfiol â lefel uchel o orgyffwrdd â'r pynciau ffurfiol a restrir uchod. Disgrifiodd y darparwyr eu haddysgu anffurfiol fel 'ad hoc', 'yn cael ei arwain gan anghenion' ac 'yn gysylltiedig ag arfer'. Tybiwyd bod dull anffurfiol yn lleihau rhwystrau i addysg ar gyfer gweithlu cartref gofal sydd â throsiant uchel.
III. Cofnodi ac adrodd
Defnyddiodd y mwyafrif o ddarparwyr ddulliau cofnodi amrywiol i ddogfennu eu gwaith clinigol. Roedd y rhain yn cynnwys cofnodion papur a oedd yn cael eu dal gan gartrefi gofal a hosbisau a chofnodion digidol, gyda dros hanner yn defnyddio System Gwybodaeth Rhwydweithiau Canser Cymru (CaNISC).
Roedd y diffyg dull safonedig o gofnodi ymysg darparwyr ac, mewn rhai achosion, y diffyg data yn golygu nad oedd yn bosibl mesur nifer y cartrefi gofal a gefnogwyd yn glir, na'r lefel o gymorth a roddwyd i staff a phreswylwyr. Effeithiwyd ar argaeledd data ar fan marw preswylwyr cartrefi gofal hefyd.
IV. Heriau a ffactorau galluogi
Roedd y trosiant uchel o staff gofal a lefelau staffio yn heriau mawr sy'n effeithio ar allu cartrefi gofal i ryddhau staff i fynychu addysg a hyfforddiant. Roedd rhai'n tybio bod hyn yn effeithio ar allu staff cartrefi gofal. Nodwyd bod prinder staff GLlA yn her hefyd. Awgrymwyd y byddai timau GLlA sydd wedi'u staffio'n llawn, yn cynnwys cyllido rôl weinyddol a staff â chyfrifoldeb penodol am weithio gyda chartrefi gofal, yn galluogi cymorth gwell.
Cynyddu cyllid oedd y ffactor galluogi y soniwyd amdano'n fwyaf rheolaidd ar gyfer darparu cymorth o ansawdd uchel i gartrefi gofal a phreswylwyr. Awgrymwyd grantiau tymor hwy sy'n rhoi'r amser i adeiladu perthnasau cyn bod angen canlyniadau. Hefyd, tybiwyd y byddai dull gweithredu mwy anffurfiol gan staff GLlA yn eu galluogi i ymgysylltu'n fwy effeithiol â staff cartrefi gofal.
Roedd rhai'n credu bod diffyg cyllid/comisiynu gwasanaethau yn effeithio ar reoleidd-dra a chysondeb addysg a hyfforddiant. Tybiwyd bod addysg a hyfforddiant hygyrch yn helpu o ran adeiladu perthnasau a goresgyn rhai o'r heriau a nodwyd.
V. Canlyniadau'r arolwg
Er bod cyfyngiadau i'r data meintiol, gwnaeth adroddiadau ysgrifenedig darparwyr helpu i ddangos gwahaniaethau o ran y data sy'n cael ei gasglu yn ymwneud â chymorth i gartrefi gofal a phreswylwyr. Mae eu cyfraniadau testun rhydd wedi gwella ein dealltwriaeth o gymorth GLlA yng nghartrefi gofal Cymru a thynnu sylw at yr heriau a'r ffactorau galluogi posibl o ran darparu cymorth o ansawdd uchel mewn cartrefi gofal o bersbectif darparwr GLlA.
VI. Argymhellion
Ni ellir casglu argymhellion o'r data a roddwyd gan y sampl fechan o ddarparwyr Cymreig ar ei phen ei hun. Fodd bynnag, mae'r themâu a nodwyd yn nata Cymru yn adlewyrchu ac yn ategu canlyniadau sampl fwy o lawer o ddarparwyr GLlA yn Lloegr, a gasglwyd ar yr un pryd drwy'r un arolwg. (8) Felly, dylai'r argymhellion canlynol gael eu hystyried yng nghyd-destun polisi, comisiynu a gwasanaeth Cymru:
* Dylai Darparwyr GLlA gyfuno i asesu ymarferoldeb sefydlu dull unedig o gasglu data a fydd yn ein galluogi i feintioli, adrodd ar a deall y lefel o gymorth a ddarperir i gartrefi gofal a phreswylwyr.
* Dylai comisiynwyr dargedu cyllid a chymorth GLlA at gartrefi gofal a phreswylwyr drwy nodi'r lleoliad gofal hwn mewn contractau a chytundebau lle y bo'n briodol.
* Dylai comisiynwyr a darparwyr adolygu mesurau perfformiad gwasanaeth GLlA i sicrhau, lle y bo'n briodol, fod canlyniadau a adroddir gan y claf a'r gofalwr yn cael eu cynnwys.
* Dylai darparwyr GLlA, comisiynwyr a chartrefi gofal gydweithio i godi ymwybyddiaeth a chyflawni cymwyseddau craidd. Dylent benderfynu ar y ffordd orau o ddarparu addysg a hyfforddiant i fodloni anghenion staff cartrefi gofal gan ystyried heriau lleol.
* Dylai Grwpiau Comisiynu Clinigol ac Awdurdodau Lleol ystyried eu rôl fel comisiynwyr gwasanaethau o ran annog cartrefi gofal i ymgysylltu ag addysg a hyfforddiant GLlA. Gallai hyn gynnwys gweithio gyda'i gilydd a gyda pherchnogion a rheolwyr cartrefi gofal i ystyried pa mor ymarferol yw gwella sut mae cartrefi gofal yn ymgysylltu â hyfforddiant GLlA drwy nodi'r cymwyseddau craidd gofynnol mewn contractau a chytundebau.
* Mae angen ymchwilio ymhellach gyda staff cartrefi gofal i astudio eu persbectif ar yr heriau a'r ffactorau galluogi i ddarparu cymorth GLlA mewn cartrefi gofal.
3. Dulliau
a) Strategaeth samplu a nodweddion gwasanaethau cyfranogol
Ein nodd oedd arolygu sampl o 31 o ddarparwyr Cymreig a oedd wedi'u cofrestru gyda'r Cyngor Gofal Lliniarol Cenedlaethol (CGLlC) fel darparwyr cymorth gofal lliniarol arbenigol cymunedol.
Cymerwyd y sampl o gronfa ddata o wasanaethau GLlA sy'n cael ei chadw gan CGLlC ar gyfer gweinyddu'r arolwg Set Ddata Sylfaenol (SDdS) ar gyfer Gwasanaethau Gofal Lliniarol Arbenigol. Y gyfradd ymateb ar gyfer y cohort hwn oedd 23% (saith).
Gallai'r penderfyniad i dargedu dim ond y rheini a oedd wedi'u cofrestru â CGLlC yn hanesyddol fod wedi eithrio gwasanaethau newydd neu anhysbys. Felly, rhoddwyd cyhoeddusrwydd ehangach i'r arolwg drwy wefannau, cyfryngau cymdeithasol a rhwydweithiau Marie Curie, Canolfan Ymchwil Canser Cymru, CGLlC, Hospice UK a'r Bwrdd Diwedd Oes i geisio cyrraedd cynulleidfa ehangach. Arweiniodd hyn at ddau ymatebydd ychwanegol. Felly, cyfanswm nifer yr ymatebwyr oedd naw.
b) Meini prawf cynhwysiant a chydsyniad i gymryd rhan
Gwnaethom wahodd darparwyr GLlA sy'n gweithio'n uniongyrchol gyda chartrefi gofal yn y gymuned i gwblhau'r arolwg. Gwnaeth pob ymateb fodloni'r maen prawf hwn. Ni chafodd unrhyw ymatebion eu heithrio neu eu tynnu'n ôl.
Cymerodd yr ymatebwyr ran yn yr arolwg o'u gwirfodd, a gallent ddewis peidio ag ateb unrhyw rai o gwestiynau'r arolwg. Drwy gymryd rhan yn yr arolwg, cytunodd y darparwyr gwasanaeth y gallai eu hymatebion, gan gynnwys dyfyniadau dienw o destun, gael eu rhannu drwy'r adroddiad hwn.
c) Diffiniadau
Cartrefi gofal: Mae'r diffiniadau a ddefnyddiwyd i ddisgrifio'r ddau brif fath o gartref gofal yn yr adroddiad hwn yn cyfuno'r derminoleg a ddefnyddir gan y Comisiwn Ansawdd Gofal (CAG) ac a ddeellir mewn arfer cymunedol. (9) Y rhain yw:
- Cartref nyrsio (Cartref gofal â nyrsio)
- Cartref preswyl (Cartref gofal heb nyrsio).
Cyfranogwyr yr Arolwg: Drwy gydol yr adroddiad defnyddir y termau darparwyr gwasanaeth, ymatebwyr a phoblogaeth yr arolwg i ddisgrifio'r rheini a gymerodd ran yn yr arolwg.
Gofal Lliniarol: Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi diffinio gofal lliniarol fel a ganlyn*: Mae gofal lliniarol yn ddull gweithredu sy'n gwella ansawdd bywyd cleifion a'u teuluoedd sy'n wynebu'r broblem sy'n gysylltiedig â salwch sy'n bygwth bywyd drwy atal a lleihau dioddefaint drwy nodi cynnar ac asesu a thrin poen a phroblemau eraill, boed yn gorfforol, seicogymdeithasol ac ysbrydol, yn ddi-fai.
Mae gofal lliniarol yn rhoi rhyddhad rhag poen a symptomau trallodus eraill; mae'n atgyfnerthu bywyd ac yn ystyried marwolaeth fel proses arferol; nid yw'n ceisio cyflymu nac oedi marwolaeth; mae'n integreiddio'r agweddau seicolegol ac ysbrydol ar ofal claf; mae'n cynnig system gymorth i helpu cleifion i fyw mor actif â phosibl tan eu marwolaeth; mae'n cynnig system gymorth i helpu'r teulu i ymdopi yn ystod salwch y claf ac yn eu profedigaeth eu hunain; mae'n defnyddio dull tîm o fynd i'r afael ag anghenion cleifion a'u teuluoedd; mae'n gwella ansawdd bywyd a gall hefyd gael dylanwad cadarnhaol ar gwrs salwch; gellir ei ddefnyddio'n gynnar yng nghwrs y salwch, ar y cyd â therapïau eraill sydd â'r bwriad o ymestyn bywyd, ac yn cynnwys yr
ymchwiliadau hynny sydd eu hangen i ddeall a rheoli cymhlethdodau clinigol yn well. Gall gofal lliniarol gael ei ddarparu gan amrywiaeth o staff iechyd a gofal cymdeithasol a hynny ochr yn ochr â thriniaeth sydd â'r bwriad o wrthdroi cyflyrau penodol. (10)
*Mae diffiniad Sefydliad Iechyd y Byd o ofal lliniarol wedi'i gyfieithu o'r Saesneg i'r Gymraeg. I weld y disgrifiad llawn fel y'i ysgrifennwyd ewch i http://www.who.int/cancer/palliative/definition/en/
d) Casglu data
Casglwyd data sylfaenol drwy arolwg ar-lein, a ddatblygwyd ac a weinyddwyd gan ddefnyddio adnodd Arolwg Ar-lein Bryste (BOS). Roedd yr arolwg ar agor am gyfanswm o 62 o ddiwrnodau rhwng Tachwedd 2016 ac Ionawr 2017.
Cynhyrchodd yr holiaduron a gwblhawyd wybodaeth fesuradwy am y cymorth y mae darparwyr gofal lliniarol arbenigol yn ei gynnig i gartrefi gofal. Roedd rhai o gwestiynau'r arolwg yn gategorïaidd, gan alluogi ymatebwyr i ddewis ateb o restr o atebion a luniwyd ymlaen llaw, e.e. a oeddent wedi neu heb eu comisiynu i ddarparu cymorth GLlA i gartrefi gofal. Roedd cwestiynau eraill yn gwahodd ymatebion testun rhydd, gan alluogi darparwyr i roi adroddiadau testun rhydd, fel disgrifiad o'u perthynas â'r cartrefi gofal y maent yn eu cefnogi.
e) Trosglwyddo, dadansoddi a chyflwyno data
Cafodd yr holl ymatebion dilys i'r arolwg eu lawrlwytho o BOS mewn fformat Excel a'u labelu â rhif ymateb. Yna cafodd data'r ymatebion ei rannu'n ddwy ffeil ar wahân yn ôl math data: data ansoddol a data meintiol.
Cafodd data ansoddol ei lanlwytho ar feddalwedd NVivo 11 sy'n cefnogi trefnu a dadansoddi data distrwythur/ansoddol. Cafodd y data ei ddadansoddi a'i ddisgrifio drwy Content Analysis. Cafodd y data a gatalogiwyd ei ddarllen linell wrth linell a chafodd data perthnasol ei wahanu a'i ddehongli a rhoddwyd cod neu gategori iddo a oedd mor agos â phosibl i'r deunydd testun rhydd a ddarparwyd. Lle y bo'n briodol, cafodd amlder categorïau/unedau data â chod ei gyfrif i alluogi'r data i gael ei fesur a'i adrodd. (11)
Mae dyfyniadau o ymatebion testun rhydd wedi'u cynnwys yn yr adroddiad i ychwanegu cyd-destun at y drafodaeth a chyfleu tôn ac iaith y darparwyr. I gynorthwyo'r darllenydd, mae rhai cywiriadau gramadegol wedi'u gwneud; gwnaed hyn yn ofalus iawn i sicrhau nad oedd ystyr y testun yn cael ei newid.
Cafodd data meintiol ei lanlwytho i feddalwedd SPSS 23 sy'n cefnogi dadansoddiad ystadegol o ddata. Defnyddiwyd ystadegau disgrifiadol i ddisgrifio data meintiol. Oherwydd maint bach y sampl, gallai'r arsylwadau a adroddwyd fel canrannau yn unig gamarwain y darllenydd. Rhoddir cyfrif am ddata coll drwy gydol yr adroddiad.
4. Nodweddion gwasanaethau cyfranogol
Mae'r adran hon yn disgrifio nodweddion y gwasanaethau a gymerodd ran yn yr arolwg.
a) Math o wasanaeth
Gofynnom i ddarparwyr pa un o'r ddau opsiwn canlynol sy'n disgrifio eu gwasanaeth orau: Uned Gofal Lliniarol Arbenigol (UGLlA) neu Hosbis.
Atebodd pob un o'r naw ymatebydd (100%) y cwestiwn hwn. Disgrifiodd chwe ymatebydd eu gwasanaeth fel Hosbis a thri fel UGLlA.
b) Statws cwblhau ar gyfer arolwg Set Ddata Sylfaenol 2015/16
Gan mai nod yr arolwg hwn o gymorth GLlA i gartrefi gofal oedd ehangu ar y wybodaeth a gasglwyd am leoliadau gofal eraill drwy'r arolwg SDdS blynyddol, roedd gennym ddiddordeb mewn dysgu pa gyfran o wasanaethau oedd wedi'i gwblhau yn 2015/16.
Atebodd wyth ymatebydd y cwestiwn hwn. Dywedodd saith fod arolwg SDdS 2015/16 wedi'i gwblhau ar gyfer eu gwasanaeth.
c) Oedran y gwasanaeth
I gael syniad o ba mor sefydledig yw'r gwasanaethau a gynrychiolir yn yr adroddiad hwn, gofynnom am ba mor hir y maent wedi bod yn rhedeg. Cynigiwyd tri opsiwn: Llai na thair blynedd, tair i naw mlynedd, 10 mlynedd neu fwy.
Dywedodd pob ymatebydd fod ei wasanaeth wedi bod yn rhedeg am 10 mlynedd neu fwy.
d) Disgrifiad o'r gwasanaeth
Gofynnom i ddarparwyr roi disgrifiad o'r gwasanaethau cyffredinol y maent yn eu cynnig. Rhoddodd pob un o'r naw ddisgrifiad yn y blwch testun rhydd a ddarparwyd.
Disgrifiodd ymatebwyr amrywiaeth eang o wasanaethau, sydd wedi'u dangos yn y cwmwl geiriau isod. Dangosodd y disgrifiadau fod gwasanaethau yn aml yn dibynnu ar dimau amlddisgyblaethol yn cynnwys clinigwyr, nyrsys, ffisiotherapyddion, therapyddion galwedigaethol, gweithwyr cymdeithasol a chwnselwyr. Roedd rhai disgrifiadau gwasanaeth yn eang. Er enghraifft, 'gofal cleifion mewnol, canolfan ddydd, cymorth cymunedol'. Roedd eraill yn fwy penodol, gan restru hyd at 15 o gydrannau gwasanaeth gwahanol. Disgrifiodd ymatebydd 4 amrywiaeth drawiadol o wasanaethau'n cael eu darparu gan
'Mae'r Tîm Gofal Lliniarol Arbenigol Cymunedol yn darparu arbenigedd gofal lliniarol i bobl â chyflyrau datblygedig a datblygol [...], gan eu cefnogi yn eu cartrefi ac mewn ysbytai cymunedol gyda'r nod o ddarparu'r gofal cywir, mewn lle sydd yn unol â ffafriaeth y claf o ran lleoliad gofal, yn unol ag anghenion, heb ei gyfyngu gan ddiagnosis.'
(Ymatebydd wyth)
dîm o weithwyr proffesiynol yn yr hosbis a'r gymuned ehangach:
'Cymorth cymunedol a arweinir gan ymgynghorydd ym mhreswylfa arferol y claf, e.e. ei gartref ei hun, cartref nyrsio/preswyl, byw â chymorth ac ati. Canolfan ddydd ar y safle yn yr hosbis sy'n cynnig amrywiaeth o raglenni grŵp a chymorth un-i-un gan dîm amlddisgyblaethol. Gwasanaeth cleifion allanol a arweinir gan nyrs. Hosbis yn y Cartref yn cynnig gofal dros nos a gofal seibiant yn ystod y dydd. Cymorth GLlA i ddwy ysbyty, cymorth profedigaeth i berthnasau pobl yr oedd yr hosbis yn gwybod amdanynt a phobl nad oedd yr hosbis yn gwybod amdanynt yn y gymuned leol, gan gynnwys gofalu am blant. Gwasanaeth cyfeillio, gwasanaethau addysg ffurfiol ac anffurfiol i weithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill [...]'.
e) Cwmpas gwasanaeth yn ôl ardal
Roeddem am wybod am yr ardal ddaearyddol yr oedd y gwasanaethau a gymerodd ran yn yr arolwg yn ei chwmpasu. Gwnaethom ofyn pa Fyrddau Iechyd Lleol (BILlau) neu Grwpiau Comisiynu Clinigol (GCCau) y mae'r gwasanaethau'n rhan ohonynt. II
Atebodd naw ymatebydd y cwestiwn hwn. Dywedodd yr holl ymatebwyr fod eu gwasanaeth o fewn ffiniau un BILl. Ni ddywedodd yr un ymatebydd ei fod yn gweithio mewn GCC, sy'n awgrymu nad oedd yr un ohonynt yn gweithio ar draws ffiniau BILl neu ffin Cymru/Lloegr. Mae'r gwasanaethau a gynrychiolir yn yr adroddiad hwn wedi'u lleoli mewn chwe o'r saith Bwrdd Iechyd.
f) Nifer y cleifion unigol a gafodd gymorth GLlA
I gael syniad o nifer y cleifion a fanteisiodd ar y gwasanaethau a gynrychiolir yn yr adroddiad hwn yn ystod cyfnod o flwyddyn, gofynnom faint o gleifion unigol yr oeddent wedi'u cefnogi rhwng 1 Ebrill 2015 a 31 Mawrth 2016.
Atebodd saith o'r naw ymatebydd y cwestiwn hwn. Fodd bynnag, roedd y data'n dangos gwahaniaethau mewn arferion cofnodi, a olygai na allai rhai ddarparu data ar gleifion yn unig, tra bod eraill wedi gallu gwneud hynny.
'Heb ei ddiffinio – mae rhai gwasanaethau'n mesur nifer yr ymyriadau yn hytrach nag unigolion oherwydd gweithgareddau grŵp [….]'
Dangosodd gwybodaeth testun rhydd fod o leiaf un darparwr wedi cynnwys aelodau teulu mewn profedigaeth a gefnogwyd yn ogystal â data ar gleifion mewnol ac allanol. Ni chafodd y ffigurau hyn eu torri i lawr, felly ni allai'r data ar y claf unigol gael ei echdynnu. Mae'r ffaith bod data wedi cael ei gofnodi yn ôl statws claf mewnol ac allanol yn awgrymu, mewn rhai achosion unigol, y gallai person fod wedi'i gyfrif ddwywaith.
(Ymatebydd chwech)
Ni atebodd darparwr chwech (gweler y blwch testun) y cwestiwn ond esboniodd na allai wahanu data claf unigol gan fod rhai timau'n cofnodi ymyriadau yn hytrach nag unigolion.
'Defnyddiodd 820 o bobl o leiaf un o'n gwasanaethau. Nid ydym yn gwahaniaethu rhwng 'arbenigol' ac 'anarbenigol'. Byddai'r ffigurau hyn yn cynnwys pobl y benthyciwyd offer iddynt, ynghyd â phobl a gafodd seibiant nos hirdymor neu fewnbwn gan Nyrs Glinigol Arbenigol.'
(Ymatebydd dau)
Am y rhesymau a nodir uchod, ni allem nodi nifer y cleifion unigol a welwyd o fewn yr amserlen a bennwyd.
II Mae yna 207 o Grwpiau Comisiynu Clinigol yn Lloegr sy'n gyrff GIG statudol a arweinir yn glinigol sy'n gyfrifol am gynllunio a chomisiynu gwasanaethau gofal iechyd ar gyfer eu hardal leol. Ceir rhagor o wybodaeth yn: NHS Clinical Commissioners (2017) About CCGs [Ar-lein] Llundain: NHS Clinical Commissioners [Gwelwyd 29 Awst 2017] Ar gael yn: https://www.nhscc.org/ccgs/
5. Comisiynu
Mae'r adran hon yn disgrifio trefniadau comisiynu'r gwasanaethau a gymerodd ran yn yr arolwg.
a) Comisiynu gwasanaeth GLlA cyffredinol
Roedd gennym ddiddordeb mewn gwybod pa gyfran o ddarparwyr gwasanaeth a ymatebodd i'r arolwg oedd wedi'u comisiynu i ddarparu gwasanaethau GLlA yn y gymuned yn gyffredinol, yn ogystal ag i gartrefi gofal yn benodol. Gofynnom a oedd gan y darparwyr gwasanaeth gytundeb neu gontract gyda BILlau neu Awdurdodau Lleol (ALlau) i ddarparu gwasanaethau GLlA cyffredinol.
Atebodd pob un o'r naw darparwr y cwestiwn
hwn. Dywedodd pump fod ganddynt gytundeb neu gontract i gyflenwi gwasanaethau GLlA cyffredinol. Nid oedd hyn yn wir am y pedwar arall.
b) Comisiynu GLlA yn benodol i gartrefi gofal
Gwnaethom ofyn pa fath o gymorth yr oedd darparwyr wedi'u comisiynu i'w ddarparu i gartrefi gofal, gan roi dewis o bedwar opsiwn: Cymorth clinigol, addysg a hyfforddiant, arall neu dim. Gallai ymatebwyr ddewis sawl opsiwn.
Atebwyd y cwestiwn hwn gan bob un o'r pump a ddywedodd eu bod wedi'u comisiynu i gyflenwi gwasanaethau GLlA cyffredinol, a dywedasant eu bod wedi'u comisiynu i gyflenwi rhyw fath o wasanaeth GLlA i gartrefi gofal. Dywedodd pob un o'r pump eu bod wedi'u comisiynu i ddarparu cymorth clinigol ac roedd tri wedi'u comisiynu i ddarparu addysg/hyfforddiant. Dewisodd un darparwr y categori 'arall'.
Mae'r wybodaeth testun rhydd a roddwyd gan ymatebydd pedwar mewn ymateb i'r cwestiwn hwn yn dangos yr amrywiaeth o ffyrdd y caiff darparwyr eu contractio i gyflenwi cymorth GLlA yn y gymuned ac i gartrefi gofal yn benodol:
'Mae cleifion mewn cartref gofal yn cael eu trin yn yr un ffordd â chlaf sy'n byw yn ei gartref ei hun. Mae ganddynt fynediad i'r un gwasanaethau cymunedol, er enghraifft y ganolfan ddydd'
(Ymatebydd saith)
'Mae gennym Gytundeb Lefel Gwasanaeth â Bwrdd Iechyd sy'n ariannu llai nag 20% o'n gwasanaeth cyfan ac nid yw'n cynnwys unrhyw ofynion penodol o ran ein gwasanaeth mewn cartrefi gofal. Mewn cytundeb ar wahân, rydym wedi cael ein comisiynu gan yr un Bwrdd Iechyd i ddarparu gwasanaethau Hosbis yn y Cartref ar draws ardal cyngor bwrdeistref sirol. Mewn cytundebau eraill rydym wedi cael ein comisiynu'n benodol gan Fwrdd Iechyd arall i ddarparu addysg a hyfforddiant GLlA i bob cartref gofal yn ei ardal. Rydym hefyd yn cael ein comisiynu gan Dîm Datblygu'r Gweithlu i ddarparu diwrnodau hyfforddi i Weithwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol.'
Er bod bron hanner y sampl (pedwar ymatebydd) wedi dweud nad oeddent wedi'u comisiynu'n benodol i gyflenwi gwasanaethau i gartrefi gofal, gwnaethant ddefnyddio testun rhydd i esbonio, er gwaethaf hyn, fod cymorth yn cael ei roi'n barod ac yn cael ei lywio gan anghenion y claf. Ysgrifennodd ymatebydd tri:
'Mae ein gwasanaeth ni yn wasanaeth GIG drwyddi draw [...] nid oes unrhyw weithgareddau yn cael eu comisiynu'n benodol. Mae disgwyl i ni ddarparu gwasanaeth GLlA i gleifion yn ein hysbytai a'r gymuned (o fewn dalgylch), gan gynnwys unrhyw breswylwyr Cartref Nyrsio a Chartref Gofal. Derbynnir atgyfeiriadau ar gyfer cleifion ag anghenion gofal lliniarol arbenigol ac sydd wedi cael diagnosis a fydd yn byrhau eu bywydau'n sylweddol neu lle ystyrir bod marwolaeth yn debygol o fewn ychydig ddiwrnodau neu wythnosau. […]'
Esboniodd ymatebydd dau eu bod yn ceisio grantiau i ddarparu mwy o gymorth i gartrefi gofal: 'Nid cymorth CNS fydd hyn, ond cymorth 'gofal diwedd oes' mwy ymarferol.' Mae hyn yn awgrymu eu bod
'Nid yw gwaith cartref gofal yn cael ei gomisiynu'n benodol. Fodd bynnag, mae un o'n Nyrsys Clinigol Arbenigol yn gweithio yn y gymuned ac mae hyn yn cynnwys gwasanaeth i gartrefi gofal ar gyfer tua 25 y cant o'r sir. Mae'r holl gymorth arall naill ai'n cael ei ariannu drwy grant neu glwstwr Meddyg Teulu (prosiectau Blaengynllunio Gofal) neu gan yr elusen (sesiynau hyfforddi). Cawsom [...] grant gan Lywodraeth Cymru, drwy'r Bwrdd Iechyd, ar gyfer addysg o amgylch y ddogfennaeth 'penderfyniadau gofal' newydd – roedd hyn yn cynnwys cartrefi nyrsio yn ogystal â staff ysbyty, cymunedol a hosbis. Mae'r Bwrdd Iechyd hefyd yn ein talu i ddilysu hyfforddiant marwolaeth ddisgwyliedig i Nyrsys Cofrestredig.'
(Ymatebydd dau)
wedi nodi angen am gymorth diwedd oes targedig mewn cartrefi gofal yn eu hardal.
Gallai lleoliad gofal a chymorth wedi'i dargedu at gartrefi gofal fod yn ffactorau pwysig i rai comisiynwyr gwasanaeth eu hystyried, gan fod ffigurau a gyhoeddwyd yn Hydref 2017 yn dangos bod rhwng 10% a 22.6% o bob marwolaeth ar draws y 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru yn digwydd mewn cartref gofal, gyda chyfartaledd o ychydig yn fwy nag 16% yng Nghymru. (7) Er y bydd angen gofal lliniarol cyffredinol yn hytrach nag arbenigol ar gyfran o breswylwyr sy'n marw mewn cartrefi gofal, gall y gyfradd marwolaethau uchel yn y lleoliad hwn fod yn sail i archwiliad o briodolrwydd targedu adnoddau drwy grybwyll lleoliad gofal yn benodol wrth gomisiynu.
c) Contractau a chytundebau ar gyfer gwasanaethau GLlA i gartref gofal
Gwnaethom ofyn pa fath o gontractau neu gytundebau yr oedd gan ddarparwyr ar gyfer y gwasanaethau yr oeddent wedi'u comisiynu i'w darparu i gartrefi gofal, gan roi dewis o bum opsiwn: Cytundeb lefel gwasanaeth, contract safonol y GIG, contract bloc, arall neu heb nodi. Gallai ymatebwyr ddewis sawl opsiwn.
Atebwyd y cwestiwn hwn gan bob un o'r pum ymatebydd a ddywedodd yn flaenorol eu bod wedi'u comisiynu i gyflenwi gwasanaethau GLlA i gartrefi gofal.
'Heb nodi' oedd yr ateb mwyaf cyffredin, gyda thri ymatebydd yn dewis yr opsiwn hwn. Dewiswyd 'cytundeb lefel gwasanaeth' a 'chontract bloc' gan un ymatebydd. Dewiswyd 'arall' ddwywaith.
Defnyddiodd y ddau ddarparwr a ddewisodd y categori 'arall' y blwch testun rhydd a ddarparwyd i ddisgrifio'r math arall o gontract/cytundeb yr oedd ganddynt i ddarparu cymorth GLlA i gartrefi gofal. Disgrifiodd y ddau y contractau a oedd yn bosibl drwy gyllid y Bwrdd Diwedd Oes. Er enghraifft, ysgrifennodd ymatebydd pedwar:
'Mae'r gwaith gydag un Bwrdd Iechyd yn gontract penodol a ddeilliodd o gyllid drwy'r Bwrdd Gofal Diwedd Oes ar gyfer hyfforddiant mewn cartrefi gofal. Nid yw'r gwaith rydym yn ei wneud mewn Bwrdd Iechyd arall gyda chartrefi gofal wedi'i adlewyrchu fel rhan o'r Cytundeb Lefel Gwasanaeth.'
d) Dangosyddion Perfformiad Allweddol ar gyfer gwasanaethau GLlA mewn cartrefi gofal
Roeddem am wybod mwy ynghylch a yw darparwyr yn mesur eu perfformiad mewn perthynas â'r cymorth y maent yn ei roi i gartrefi gofal a phreswylwyr a sut maent yn gwneud hynny.
Gofynnom a oedd ganddynt Ddangosyddion Perfformiad Allweddol (DPAau) ar gyfer eu gwaith gyda chartrefi gofal. III Atebodd pob un o'r ymatebwyr y cwestiwn hwn. Dywedodd dau fod ganddynt DPAau ar gyfer y gwasanaethau y maent yn eu darparu i
gartrefi gofal. Dywedodd saith nad oedd ganddynt rai.
III Mae DPAau yn fertigau sy'n canolbwyntio ar ddimensiynau allweddol o berfformiad a ddefnyddir i fesur pa mor dda mae sefydliadau/gwasanaethau yn perfformio yn erbyn eu nodau ac amcanion strategol. Ceir rhagor o wybodaeth yn: Advanced Performance Institute (2017) What is a Key Performance Indicator (KPI)? UK: Advanced Performance Institute [Ar-lein] [Gwelwyd 21 Mehefin 2017]. Ar gael yn: https://www.ap-institute.com/what-is-a-key-performance-indicator
e) DPAau enghreifftiol ar gyfer gwasanaethau GLlA mewn cartrefi gofal
Gofynnom i ddarparwyr roi enghreifftiau o'u DPAau ar gyfer y gwasanaethau y maent yn eu darparu i gartrefi gofal a phreswylwyr. Rhoddwyd enghreifftiau gan y ddau ddarparwr a ddywedodd fod ganddynt DPAau ar gyfer cymorth cartref gofal.
Arweiniodd dadansoddiad o'r data at godio dwy thema dangosydd perfformiad: 'Allbynnau' a 'Chanlyniadau'.
'Allbynnau' yn ymwneud â'r hyn sy'n cael ei ddarparu, e.e. nifer yr atgyfeiriadau, nifer y cleifion a welwyd, oedd fwyaf cyffredin, gyda saith cyfeiriad. Soniwyd am 'ganlyniadau' sy'n canolbwyntio ar newid mesuradwy yn sgil ymyriad y gwasanaeth, e.e. cleifion yn gallu marw yn eu dewis leoedd, bum gwaith, ac roeddent yn cynnwys canlyniadau a adroddwyd gan y claf.
Mae hyn yn dangos cydbwysedd rhesymol o ran math y mesurau perfformiad, sy'n gadarnhaol, gan fod llenyddiaeth yn awgrymu bod y broses adrodd ar ganlyniadau yn y maes GLlA ar gam cynnar o hyd. (4) Fodd bynnag, mae'r data'n gyfyngedig iawn oherwydd y maint sampl bach, a dylid bod yn ofalus wrth ddehongli'r canfyddiadau hyn.
'Canran y cleifion y cyflawnir eu dewis o fan marw bob blwyddyn, gwelliant sylweddol yn y symptomau corfforol a adroddir, defnydd o'r Llwybr Gofal Integredig ar gyfer gofal diwedd oes, canran y bobl a welwyd y cysylltir â nhw o fewn dau ddiwrnod o'r atgyfeiriad brys cychwynnol, canran y bobl a welwyd y cysylltir â nhw o fewn pum diwrnod o'r atgyfeiriad rheolaidd cychwynnol, canran y bobl sy'n disgrifio eu profiad fel da neu ragorol, canran yr archwiliadau mewnol sy'n cael eu cwblhau'n flynyddol a'r ganran sy'n cydymffurfio ar gyfer cyflwyno adroddiadau i'r Grŵp Gweithredu Gofal Lliniarol a'r Cyngor Gofal Lliniarol Cenedlaethol.'
(Ymatebydd saith)
Dywedodd un o'r ymatebwyr nad oedd y DPAau ar gyfer eu gwaith mewn un bwrdd iechyd wedi'u cytuno'n derfynol a'u bod yn meddu ar eu DPAau eu hunain ar gyfer gwaith mewn bwrdd iechyd arall. Mae hyn yn awgrymu nad yw DPAau ar gyfer gwasanaethau GLlA wedi'u safoni.
f) Nifer y cartrefi gofal a gefnogwyd
I gael syniad o lwyth gwaith darparwyr mewn perthynas â chartrefi gofal, gwnaethom ofyn iddynt sawl cartref gofal y maent yn eu cefnogi. Atebodd saith o'r naw ymatebydd y cwestiwn hwn.
Dangosodd y data fod darparwr yn cefnogi o leiaf 10 a hyd at 50 o gartrefi gofal. Y nifer gyfartalog a gefnogwyd oedd 22, a'r canolrif oedd 15. Fodd bynnag, dylid cymryd gofal wrth ddehongli'r data hwn oherwydd dywedodd dau o'r ymatebwyr fod y ffigurau'n rhai bras.
Dangosodd gwybodaeth testun rhydd gan ddau o'r darparwyr na atebodd y cwestiwn nad oeddent yn gwybod faint o gartrefi gofal yr oedd eu gwasanaeth yn eu cefnogi. Er enghraifft, ysgrifennodd ymatebydd wyth: 'Pob un yn yr ardal rydyn ni'n gweithio ynddi – dwi ddim yn siŵr o'r niferoedd.' Nid oedd y rhesymau dros y bwlch gwybodaeth hwn yn glir – efallai nad oedd y data ar gael i'r unigolion a gwblhaodd yr arolwg neu gallai fod bylchau gwybodaeth ar lefel gwasanaeth.
6. Cymorth clinigol
Mae'r adran hon yn disgrifio'r cymorth clinigol a ddarperir i gartrefi gofal a phreswylwyr gan y gwasanaethau a gymerodd ran yn yr arolwg.
a) Mathau o gymorth clinigol a ddarperir i gartrefi gofal/preswylwyr
Gwnaethom ofyn i ddarparwyr pa fath o gymorth yr oeddent yn ei ddarparu i gartrefi gofal, gan roi dewis o bum opsiwn: Ymweliadau rheolaidd, ymweliadau brys, cyngor dros y ffôn, arall neu dim. Gallai ymatebwyr ddewis sawl opsiwn.
Atebodd pob un o'r naw darparwr y cwestiwn hwn gan ddweud eu bod yn darparu cymorth clinigol. Dywedodd pob un ohonynt eu bod yn cynnig cymorth dros y ffôn, dywedodd chwech eu bod yn cynnig ymweliadau rheolaidd a dywedodd pump eu bod yn cynnig ymweliadau brys.
Dangosodd y data fod pump o'r ymatebwyr yn cynnig cyfuniad o ymweliadau rheolaidd ac ymweliadau brys gyda chyngor dros y ffôn.
Dewiswyd yr opsiwn 'arall' gan bedwar ymatebydd. Nododd eu disgrifiadau testun rhydd y canlynol fel opsiynau 'eraill': addysg, hyfforddiant a lleoliadau, y tu allan i oriau, gwasanaeth Hosbis yn y Cartref, cymorth clinigol arbenigol ar gyfer anghenion gofal lliniarol cymhleth/rheoli symptomau. Dylid felly ystyried creu categorïau ychwanegol os caiff yr arolwg ei ailadrodd yn y dyfodol.
b) Cofnodi cymorth clinigol i gartrefi gofal/preswylwyr
Gwnaethom ofyn i ddarparwyr pa wybodaeth y maent yn ei chofnodi am y cymorth clinigol y maent yn ei roi i gartrefi gofal a phreswylwyr. Atebodd pob un o'r naw ymatebydd y cwestiwn hwn.
Dangosodd y data fod staff GLlA yn cofnodi gwybodaeth am gontractau gyda chleifion a'r cymorth sy'n cael ei gynnig mewn hyd at bum lle. I gyd, nodwyd saith dull adrodd. Roedd y rhain yn cynnwys systemau digidol fel System Gwybodaeth Rhwydweithiau Canser Cymru (CaNISC), Porth Clinigol Cymru (WCP) a systemau mewnol cartrefi gofal. Roedd staff yn cyfrannu at gofnodion papur a oedd yn cael eu cadw gan gartrefi gofal a hosbisau ynghyd â nodiadau achos papur cleifion unigol a chofnodion nyrsys ardal.
'Mae'r holl gofnodion clinigol GLlA yn cael eu cadw yn nodiadau achos papur ac electronig y Bwrdd Iechyd. At hynny, bydd aelodau'r tîm yn dogfennu crynodebau yn nodiadau achos papur Nyrsys Ardal ac yn y nodiadau achos papur a gynhelir gan staff cartrefi nyrsio o fewn y cartrefi. Mae'r broses ar gyfer cadw cofnodion ar gyfer pob claf (yn ei gartref ei hun neu mewn cartref gofal) yn debyg.'
Dim ond un ymatebydd oedd yn defnyddio cofnodion papur yn unig a dim ond dau oedd yn defnyddio dulliau digidol yn unig.
(Ymatebydd tri)
I gyd, soniodd saith o'r naw ymatebydd am gofnodion digidol. Enwodd chwech ohonynt CaNISC yn benodol. Esboniodd ymatebydd naw (gweler y blwch testun) fod CaNISC wedi galluogi rhannu data ymysg darparwyr GLlA ond nad oedd gan staff cartrefi gofal a gofal sylfaenol fynediad i'r system. Roedd y data'n dangos bod pum o'r naw ymatebydd yn defnyddio dulliau cofnodi amrywiol. Gallai hyn, yn rhannol, adlewyrchu'r mynediad cyfyngedig i CaNISC i staff an-GLlA ynghyd â'r defnydd o adnoddau cofnodi gwahanol at ddibenion gwahanol. Er enghraifft, esboniodd ymatebydd saith fod yr holl gysylltiadau wyneb-yn-wyneb yn cael eu cofnodi ar CaNISC tra bod cysylltiadau wyneb-yn-wyneb a ffôn yn cael eu cofnodi yn nodiadau ysgrifenedig yr hosbis.
'Mae'r hosbis yn cadw cofnodion electronig (ar CaNISC) o'r rhesymau dros yr ymweliad; manylion y cymorth clinigol a roddwyd a chynlluniau cleifion. Nid yw cleifion cartref gofal wedi'u rhestru ar wahân, ond maent wedi'u hintegreiddio yn ein cofnodion cymunedol. Mae gwybodaeth CaNISC ar gael i bob gwasanaeth GLlA arall yng Nghymru ond nid yw ar gael i staff cartrefi gofal na gofal sylfaenol. Bydd staff yn mewnbynnu gwybodaeth ar wahân i systemau cartrefi gofal i gefnogi cyfathrebu â staff y cartrefi gofal'
(Ymatebydd pedwar)
Roedd sylwadau ar fath y wybodaeth glinigol sy'n cael ei chofnodi yn tynnu sylw at chwe gweithgaredd gwahanol a ddangosir yn y cwmwl geiriau isod.
c) Nifer y preswylwyr cartrefi gofal a gefnogwyd
I gael syniad o nifer y preswylwyr cartrefi gofal a gefnogwyd gan y gwasanaethau a gynrychiolwyd yn yr adroddiad hwn dros gyfnod o flwyddyn, gofynnom faint o'r cleifion unigol ar eu llwyth achosion rhwng 1 Ebrill 2015 a 31 Mawrth 2016 oedd yn breswylwyr cartrefi gofal. Gwnaethom hefyd ofyn iddynt rannu'r ffigurau rhwng cartrefi preswyl a nyrsio.
Roedd y data a oedd ar gael yn gyfyngedig. Roedd dau o'r naw ymatebydd yn gallu dweud faint o'r cleifion ar eu llwyth achos oedd yn breswylwyr cartrefi gofal. O'r ddau ymateb a roddwyd, nododd un lwyth achos o 50 ar gyfer preswylwyr cartrefi gofal. Gwnaeth y llall ddarparu ffigur atgyfeirio o 53 ar gyfer preswylwyr cartrefi gofal gan wneud sylwadau testun rhydd a oedd yn awgrymu y gallai eu harferion cofnodi ar gyfer cleifion cymunedol eu hatal rhag adnabod preswylwyr cartrefi gofal ar ôl y pwynt atgyfeirio.'53 o atgyfeiriadau newydd. Parhaus – anhysbys gan eu bod wedi'u hintegreiddio â chleifion cymunedol.'
Dangosodd sylwadau testun rhydd gan y rheini na atebodd y cwestiwn nad oedd y wybodaeth gan y rhan fwyaf ohonynt: 'Nid yw'r wybodaeth hon gennym ni mae arna i ofn' neu nad oedd ganddynt fynediad iddi ar adeg cwblhau'r arolwg: 'methu rhoi'r wybodaeth gan nad oes gennym fynediad i'r ffigurau ar hyn o bryd'.
Dim ond un darparwr a roddodd ddadansoddiad yn ôl math y cartref gofal. O'r 50 o breswylwyr cartrefi gofal a gefnogwyd gan Ymatebydd saith, roedd 40 yn byw mewn cartref nyrsio a 10 yn byw mewn cartref preswyl. Dywedodd Ymatebydd pedwar nad oedd math y cartref gofal yn cael ei gofnodi yn ei ffigurau atgyfeirio.
d) Man marw preswylwyr cartrefi gofal
I gael syniad o nifer y marwolaethau preswylwyr cartrefi gofal a gefnogwyd gan y gwasanaethau a gynrychiolir yn yr adroddiad hwn dros gyfnod o flwyddyn, gofynnom faint o'r marwolaethau a gefnogwyd rhwng 1 Ebrill 2015 a 31 Mawrth 2016 oedd yn breswylwyr cartrefi gofal. Gwnaethom hefyd ofyn iddynt ddadansoddi'r ffigurau yn ôl man marw, gan roi pum opsiwn: Preswylfa arferol, cartref gofal arall, ysbyty, hosbis neu leoliad arall.
Fel gyda'r cwestiwn blaenorol, roedd y data a oedd ar gael yn gyfyngedig. Dim ond dau o'r naw ymatebydd posibl a roddodd ateb i'r cwestiwn hwn. Y rhain oedd yr un darparwyr ag a atebodd y cwestiwn blaenorol.
Dywedodd un ymatebydd fod y gwasanaeth wedi cefnogi 50 o farwolaethau. O'r rhain, digwyddodd 41 yn y breswylfa arferol, roedd wyth mewn ysbyty ac un mewn hosbis. Dywedodd yr ymatebydd arall fod 44 o farwolaethau wedi'u cefnogi gan ei wasanaeth yn y cyfnod a roddwyd a bod pob un o'r cleifion wedi marw yn ei breswylfa arferol.
7. Addysg a hyfforddiant
Mae'r adran hon yn disgrifio'r addysg a'r hyfforddiant a ddarperir i gartrefi gofal gan y gwasanaethau a gymerodd ran yn yr arolwg.
Dywedodd 100% o ymatebwyr eu bod yn darparu rhyw fath o addysg neu hyfforddiant i gartrefi gofal
Roedd gennym ddiddordeb mewn gwybod pa gyfran o boblogaeth yr arolwg a ddarparodd addysg a/neu hyfforddiant i gartrefi gofal ac felly gofynnom pa fath o addysg a hyfforddiant ffurfiol ac anffurfiol y maent yn eu darparu. Drwy gyfuno'r data sydd ar gael, gwelwn fod y naw ymatebydd wedi dweud eu bod yn darparu rhyw fath o addysg neu hyfforddiant i gartrefi gofal.
Eglurodd ymatebydd pedwar y dull cydlynol, cydweithredol a ddefnyddir i ddarparu addysg a hyfforddiant yn ei ardal:
'Fel y darparwr GLlA a ffefrir yn [ein hardal], mae gan [yr hosbis] brofiad helaeth o gynnig mewnbwn clinigol ac addysgol i'r 12 o gartrefi ar draws y fwrdeistref. Mae gan staff gontractau anrhydeddus gyda'r [bwrdd iechyd], maent yn gweithio'n agos gyda'u Nyrs Diogelu a Llywodraethu ac maent yn aelodau o'r [...] Grŵp Strategaeth Gofal Lliniarol, gan gynnwys y ffrwd gwaith addysg, sy'n sicrhau bod addysg ar ofal yn cael ei darparu mewn modd cydlynol ac yn gysylltiedig â strategaeth byrddau iechyd cenedlaethol a lleol'.
Mae rhagor o wybodaeth am yr hyfforddiant ffurfiol ac anffurfiol a ddarparwyd i ddilyn.
a) Darparu addysg a hyfforddiant GLlA ffurfiol
Gofynnom i ddarparwyr a oeddent yn darparu addysg ffurfiol i gartrefi gofal. Atebwyd y cwestiwn hwn gan y naw ymatebydd. Dywedodd saith eu bod yn darparu hyfforddiant ffurfiol i gartrefi gofal. Nid oedd y ddau arall yn gwneud hynny.
Rhoddodd pob un o'r saith ymatebydd a ddywedodd eu bod yn cynnig addysg neu hyfforddiant ffurfiol ddisgrifiad. Gweler y cwmwl geiriau a thabl 1 am restr o fathau o addysg/hyfforddiant a chodau amledd.
Roedd rhai darparwyr yn canolbwyntio ar un pwnc, fel hyfforddiant dogfennau penderfyniadau gofal, tra bod eraill yn cynnig cyrsiau amrywiol. Roedd dau ddarparwr yn cynnig cyflwyniad i egwyddorion ac arferion gofal lliniarol. Roedd un yn rhan o gwrs pum diwrnod ehangach.
Roedd dau ddarparwr yn cynnig hyfforddiant yn benodol i glefyd/salwch. Rhoddodd un restr gynhwysfawr yn cynnwys deall canser, clefyd niwronau motor, methiant y galon, clefyd coronaidd cronig a methiant yr arennau. Roedd y ddau ddarparwr yn cynnig hyfforddiant ymwybyddiaeth demensia.
Roedd tri darparwr yn cynnig hyfforddiant cyfathrebu. Roedd y pynciau yn cynnwys cael sgyrsiau anodd, delio â sefyllfaoedd anodd, torri newyddion gwael ac ymateb i drallod. Esboniodd un darparwr fod ei hyfforddiant cyfathrebu yn fyfyriol, yn seiliedig ar brofiadau'r dysgwyr eu hunain o ddelio â chwestiynau anodd.
Dywedodd pedwar ymatebydd eu bod yn cynnig hyfforddiant rheoli symptomau. Roedd un yn cynnig hyfforddiant ar fesurau cysur mewn perthynas â hydradu, y bledren a'r coluddion. Roedd y portffolio hefyd yn cynnwys hyfforddiant gyrwyr chwistrell ar gyfer nyrsys cofrestredig a hyfforddiant ar adnabod claf sy'n gwaethygu, a oedd ar gael i nyrsys cofrestredig ac aelodau eraill o staff.
Roedd pedwar darparwr yn cynnig hyfforddiant ar gefnogi blaengynllunio gofal a gwneud penderfyniadau. Soniwyd yn benodol am Flaengynllunio Gofal, adnoddau/dogfennaeth/canllawiau penderfyniadau gofal a phenderfyniadau 'na cheisier dadebru cardio-anadlol' (DNACPR). Esboniodd ymatebydd pump fod staff cartrefi gofal '[…]weithiau yn ei chael hi'n anodd cynnal cymhwysedd o ran defnyddio'r Ddogfen Penderfyniadau Gofal gan nad ydynt yn ei defnyddio'n rheolaidd ac oherwydd trosiant uchel o staff'.
Dywedodd un darparwr ei fod yn cynnig hyfforddiant staff ar ofal wedi marwolaeth, profedigaeth, lles personol a chadernid.
Dywedodd un darparwr ei fod yn cynnig hyfforddiant pwrpasol yn seiliedig ar yr anghenion a nodwyd gan y cartref gofal ar gais. Dywedodd un arall ei fod yn cynnig lleoliad arfer gyda thîm yr hosbis.
Dywedodd tri ymatebydd eu bod yn darparu hyfforddiant achrededig neu hyfforddiant sy'n gysylltiedig â chyrsiau achrededig. Soniwyd am hyfforddiant y Fframwaith Cymwysterau a Chredydau (FfCCh) (amhenodol) a Sgiliau Cyfathrebu Sage & Thyme.
Soniodd ymatebydd dau am ei ddull o hyfforddi staff cartrefi gofal: '[…]mae ein dull yn un oportiwnistaidd – achub ar unrhyw gyfle am fewnbwn. Fodd bynnag, rydym yn cynnig rhaglen 3 sesiwn benodol drwy'r Rhaglen Datblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol lleol [...]'.
Tabl 1: Math o addysg/hyfforddiant ffurfiol, gan godio amlder
b) Nifer y staff cartref gofal sydd wedi'u haddysgu/hyfforddi yn ffurfiol
Gofynnom i ddarparwyr faint o staff cartref gofal yr oeddent wedi'u haddysgu/hyfforddi yn ffurfiol mewn cyfnod o flwyddyn rhwng 1 Ebrill 2015 a 31 Mawrth 2016.
Atebwyd y cwestiwn hwn gan bob un o'r saith ymatebydd a ddywedodd eu bod yn darparu addysg/hyfforddiant ffurfiol. Fodd bynnag, dywedodd tri nad oedd ganddynt y wybodaeth hon neu eu bod yn ansicr o'r ffigur. Dywedodd pedwerydd ei fod wedi amcangyfrif y ffigur a roddwyd gan nad oedd ei wasanaeth yn cadw data o'r fath. Oherwydd y cyfyngiadau data hyn, dylid cymryd gofal wrth ddehongli'r canfyddiadau canlynol.
'Nid ydym yn cofnodi hyn yn benodol, ond buaswn yn amcangyfrif 80 – 90 mewn digwyddiadau addysgol ffurfiol amrywiol.'
(Ymatebydd dau)
O'r pedwar ymatebydd a roddodd ffigur, roedd nifer y staff a hyfforddwyd yn ffurfiol rhwng 20 a 200. Y cyfartaledd oedd 91 o bobl, a'r canolrif oedd 73.
c) Darparu addysg a hyfforddiant GLlA anffurfiol
Gofynnom i ddarparwyr a oeddent yn darparu addysg anffurfiol i gartrefi gofal. Atebwyd y cwestiwn hwn gan y naw ymatebydd. Dywedodd pob un ei fod yn darparu addysg neu hyfforddiant anffurfiol, gan gynnig disgrifiad.
Disgrifiodd yr ymatebwyr yr addysg anffurfiol fel 'ad hoc', 'yn cael ei arwain gan anghenion' ac 'yn gysylltiedig ag arfer'.
Defnyddiwyd nifer o ddulliau i ddarparu addysg/hyfforddiant anffurfiol. Roedd y rhain yn cynnwys cymorth ar y safle ar gyfer hyfforddiant yn gysylltiedig ag arfer a chymorth yn gysylltiedig â phreswylwyr unigol. Er enghraifft, dywedwyd bod cymorth ffôn yn helpu i hwyluso penderfyniadau (Gweler y blwch testun).
'Yn anffurfiol drwy linell gyngor ffôn ar gyfer problemau penodol – yn aml yn fwrdd seinio i staff sy'n gwneud penderfyniadau ynghylch cynnal gofal ym mhreswylfa arferol yr unigolyn.'
Roedd ymatebydd un wedi defnyddio parth dysgu, a oedd yn cynnwys adnoddau digidol a phapur. Fodd bynnag, dywedodd yn
(Ymatebydd chwech)
ddiweddarach, 'er bod y parth dysgu wedi'i hysbysebu yn helaeth, gan gynnwys pecynnau ac ymweliadau i gartrefi nyrsio unigol, ni chafodd y cyfleuster ei ddefnyddio gan staff cartref gofal'.
Disgrifiodd ymatebydd pedwar sut mae'r gwasanaeth wedi chwalu rhwystrau i addysg yn y cartref gofal drwy ddull 'ffurfiol o anffurfiol', 'dysgu cyfun':
'Ar ôl cydnabod yr anawsterau y gall cartrefi gofal eu cael yn rhyddhau staff i fynychu cyrsiau allanol a'r problemau sy'n gysylltiedig â darparu addysg i weithlu â throsiant uchel o staff, rydym hefyd yn darparu addysg anffurfiol gan ddefnyddio dull dysgu cyfun yn seiliedig ar bedair egwyddor: 1. ychydig yn aml; sy'n hwyluso presenoldeb rheolaidd, yn darparu ar gyfer gweithlu â throsiant uchel o staff ac yn "ffurfiol o anffurfiol". 2. Canolbwyntio ar ofal lliniarol cyffredinol; sgiliau cyfathrebu; cydnabod marwolaeth; rheoli symptomau; adnodd penderfyniadau gofal a blaengynllunio. 3. Yn canolbwyntio ar y claf ac yn fyfyriol. 4. Perchnogaeth gan staff cartrefi gofal, dod o hyd i nyrsys cyswllt ym mhob cartref, amcanion dysgu yn cael eu pennu gan staff y cartref gofal, "blwch adnoddau" yn cael ei gynnal gan y cartref gofal. Rydym hefyd yn cynnal cyfarfodydd Nyrsys Cyswllt chwarterol ar gyfer Nyrsys Ardal, Nyrsys Ysbyty a staff cartref gofal yn ogystal ag addysg anffurfiol a ddarperir fesul achos.'
I gyd, nodwyd naw math o hyfforddiant anffurfiol. Nodwyd Blaengynllunio Gofal, cymorth dogfen/adnodd penderfyniadau gofal a rheoli symptomau ddwywaith yr un. Gweler tabl 2 isod am restr lawn o addysg anffurfiol wedi'i chodio.
Tabl 2: Math o addysg/hyfforddiant anffurfiol gan godio amlder
* Soniwyd am y Rhaglen Chwe Cham mewn perthynas â hyfforddiant anffurfiol yn unig. Ni chafodd ei thrafod gan unrhyw ddarparwr mewn perthynas â hyfforddiant ffurfiol.
d) Nifer y staff cartref gofal sydd wedi'u haddysgu/hyfforddi yn anffurfiol
Gofynnom i ddarparwyr faint o staff cartref gofal yr oeddent wedi'u haddysgu/hyfforddi yn anffurfiol mewn cyfnod o flwyddyn rhwng 1 Ebrill 2015 a 31 Mawrth 2016.
Atebwyd y cwestiwn hwn gan bob un o'r naw ymatebydd a ddywedodd eu bod yn darparu addysg/hyfforddiant anffurfiol. Fodd bynnag, dywedodd pump nad oedd y wybodaeth hon yn cael ei chofnodi neu nad oedd ganddynt fynediad iddi ar adeg cwblhau'r arolwg. Oherwydd y cyfyngiadau data hyn, dylid cymryd gofal wrth ddehongli'r canfyddiadau canlynol.
O'r pedwar ymatebydd a roddodd ffigur, roedd nifer y staff a hyfforddwyd yn anffurfiol rhwng 20 a 50. Y cyfartaledd oedd 34 o bobl, a'r canolrif oedd 33.
8. Cydweithredu ac arfer gorau
Mae'r adran hon yn disgrifio perthnasau gwaith rhwng darparwyr GLlA a chartrefi gofal o bersbectif gwasanaeth cyfranogol. Mae'n amlinellu heriau a ffactorau galluogi ar gyfer darparu GLlA i gartrefi gofal/preswylwyr ac yn rhoi enghreifftiau o arfer gorau a rennir gyda darparwyr drwy'r arolwg.
a) Graddio'r berthynas â'r cartref gofal
Graddio'r berthynas â chartrefi gofal
Gofynnom i ddarparwyr raddio eu perthnasau gwaith gyda'r gymuned cartref gofal. Roedd dewis o bum opsiwn yn amrywio o 'da iawn' i 'gwael iawn'. Atebodd pob un o'r naw ymatebydd y cwestiwn hwn.
Roedd y graddau a roddwyd yn gadarnhaol ar y cyfan gyda saith o'r naw darparwr yn dweud bod ganddynt berthynas waith dda neu dda iawn gyda'r gymuned cartref gofal. Dywedodd un fod y berthynas yn foddhaol, a dywedodd un fod y berthynas yn wael. Ni ddewisodd neb yr opsiwn gwael iawn.
b) Disgrifiad o berthnasau gwaith gyda chartrefi gofal
Gwahoddwyd darparwyr i ddisgrifio eu perthnasau gyda'r gymuned cartref gofal. Manteisiodd chwech o'r naw ymatebydd ar y cyfle hwn.
Disgrifiodd yr ymatebwyr berthnasau gwaith cadarnhaol gyda chartrefi gofal yn ogystal â rhai o'r tensiynau a heriau.
Ysgrifennodd dau ymatebydd am bwysigrwydd cyswllt rheolaidd ar gyfer datblygu a chynnal perthnasau gyda chartrefi gofal. Roedd amser yn ffactor hefyd, gydag un ymatebydd yn dweud bod perthnasau â staff cartrefi gofal wedi'u hadeiladu dros nifer o flynyddoedd.
Roedd dau ddarparwr yn cydnabod y gallent fod yn cefnogi mwy o gartrefi gofal er bod eu perthnasau â chartrefi gofal yn dda. Er enghraifft, ysgrifennodd ymatebydd chwech: 'mae ein perthynas â'r nifer fach o gartrefi gofal rydym mewn cyswllt â nhw yn rheolaidd yn dda, ond gallem wella drwy gefnogi mwy o gartrefi gofal'.
Roedd ymatebydd dau (gweler y blwch testun) yn llawn canmoliaeth i agweddau a sgiliau rhai aelodau o staff cartrefi gofal. Cafodd hyn ei gydbwyso gyda sylwadau am y tensiynau posibl a achosir gan agweddau rhai aelodau o staff cartrefi gofal ynghylch cymryd risg a'u canfyddiad
'Mae'r perthnasau sydd gennym yn dda, ond nid ydynt yn eang iawn eto. Rydym wedi datblygu diddordeb mewn cymorth i gartrefi gofal drwy ein hyfforddiant. Crëwyd argraff fawr arnom gan y dalent nad ydym yn manteisio arni a'r brwdfrydedd a welom. Cawsom hefyd ein taro gan ba mor ddrwgdybus y mae rhai cartrefi gofal o'r byd tu allan. Maent yn gyndyn i gymryd risgiau ac yn ofn cerydd gan deuluoedd ac yn arbennig y GIG, sydd â rôl reoleiddiol yn eu tyb nhw. E.e. 'Dwi ddim yn meddwl y gallem ddilysu - ni fyddai'r Bwrdd Iechyd yn gadael i ni wneud hynny'. Maent hefyd wedi'u hynysu o sectorau eraill a'i gilydd. Rydym yn awyddus i'w cefnogi a gwella eu delwedd.'
(Ymatebydd dau)
o gerydd gan deuluoedd ac asiantaethau allanol, yn arbennig y GIG.
Dywedodd ymatebydd pedwar fod yr awydd i ffurfio perthnasau weithiau'n unochrog a bod agweddau uwch aelodau o staff cartrefi gofal at ofal lliniarol yn gallu rhwystro datblygiad perthnasau gwaith cadarnhaol a chyfyngu ar fynediad i gymorth GLlA i'w preswylwyr:
'Ar y cyfan mae'n dda iawn, gan fod yr hosbis wedi adeiladu perthnasau gwaith gyda staff dros nifer o flynyddoedd. Fodd bynnag, yn anochel, mae'r berthynas â rhai cartrefi gofal yn well nag eraill – mae yna un cartref yn 'ein hardal', er enghraifft, lle mae gan uwch aelodau o staff bryderon hirdymor ynghylch gofal lliniarol, sydd wedi'u gwreiddio yn eu cefndir diwylliannol. Er gwaethaf pob ymdrech i drafod ac addysgu, mae'r arweinwyr wedi parhau i wrthod mewnbwn, ac mae'r nifer o atgyfeiriadau at GLlA yn parhau'n isel.'
Mae sylwadau testun rhydd gan Ymatebydd saith yn awgrymu, mewn rhai achosion, y gall tensiynau mewn perthnasau fod o ganlyniad i anghytuno rhwng staff cartrefi gofal a darparwyr GLlA ynghylch y lleoliad gofal cywir i breswylwyr:
'I ddechrau mae llawer o gartrefi preswyl yn cynnig cefnogi cleifion/preswylwyr gyda gofal diwedd oes, ond pan fydd y preswylydd yn cyrraedd y pwynt hwn maent yn gwrthod ei gefnogi er gwaethaf mewnbwn Nyrsys Clinigol Arbenigol a Nyrsys Ardal. Mae hyn yn aml yn arwain at anfon claf i ofal acíwt a marwolaeth mewn ysbyty, yn groes i ffafriaeth y claf o ran lleoliad marwolaeth.'
c) Heriau a rhwystrau i ddarparu cymorth GLlA i gartrefi gofal
Gofynnom i ddarparwyr beth oedd y prif heriau a rhwystrau i ddarparu cymorth clinigol, addysg/hyfforddiant neu gymorth arall i gartrefi gofal yn eu barn nhw. Atebodd pob un o'r naw ymatebydd y cwestiwn hwn. Gweler tabl 3 am restr lawn o heriau wedi'u codio.
I. Adnoddau
Drwy godio'r testun rhydd, gwelwyd bod yr heriau a'r rhwystrau a nodwyd gan yr ymatebwyr yn gysylltiedig yn bennaf â chyfyngiadau staffio, amser a chyllid ar gyfer cartrefi gofal a thimau GLlA. Roedd effaith y cyfyngiadau hyn, yn ôl disgrifiadau'r darparwyr, yn gysylltiedig yn bennaf â darparu neu ymgysylltu ag addysg a hyfforddiant.
II. Staffio ac amser
'Trosiant staff cartrefi gofal' oedd yr her y soniwyd amdani fwyaf o ran cefnogi cartrefi gofal (5 cyfeiriad). Tybiwyd bod trosiant staff uchel a 'lefelau/prinder staff cartref gofal' (2 gyfeiriad) yn cyfyngu ar gyfleoedd staff cartrefi gofal i fynychu hyfforddiant. Nodwyd yn benodol fod 'rhyddhau staff cartref gofal ar gyfer hyfforddiant' a 'dim digon o amser astudio ar gyfer staff cartref gofal' yn ffactorau cyfyngol. Dywedodd ymatebydd pump fod y trosiant uchel o staff mewn cartrefi gofal wedi cael effaith ar gymhwysedd a datblygiad addysgol.
Tybiwyd bod problemau staffio mewn timau GLlA, gan gynnwys prinder staff a throsiant staff, yn effeithio ar lefel a math y cymorth a gynigir i gartrefi gofal. Dywedodd ymatebydd naw nad oedd gan y tîm GLlA ddigon o amser. Disgrifiodd ymatebydd tri yr heriau staffio y mae ei wasanaeth yn eu hwynebu yn fanylach:
'Dwi'n meddwl bod y prif broblemau y daethom ar eu traws oherwydd natur grwydrol staff yn y sector gofal cartref […].'
(Ymatebydd un)
'Dim digon o staff yn y Tîm Gofal Lliniarol Arbenigol. Rydym yn gweithio gyda niferoedd isel o Nyrsys Clinigol Arbenigol oherwydd salwch hirdymor [...] felly rydym wedi gorfod blaenoriaethu'r llwyth gwaith clinigol dros weithgareddau fel addysg ac archwilio [...].'
Aeth ymlaen i ddisgrifio anawsterau yn dod o hyd i ddirprwyon sydd wedi'u hyfforddi'n addas i gyflenwi yn ystod absenoldeb hirdymor o fewn cyllideb, sydd wedi effeithio ar lefelau staffio'r tîm meddygaeth liniarol arbenigol.
III. Cyllid
Dywedodd pedwar darparwr fod 'diffyg cyllid/comisiynu ar gyfer addysg/hyfforddiant cartrefi gofal' yn her.
Dywedodd ymatebydd pump fod diffyg comisiynu wedi effeithio ar ddarpariaeth addysg y gwasanaeth: 'Nid oes gwasanaethau wedi'u comisiynu, sy'n effeithio ar gysondeb a rheoleidd-dra datblygiad addysgol a hyfforddiant.' Esboniodd ymatebydd dau sut mae cyfyngiadau cyllidebol cartrefi gofal wedi dylanwadu ar sut maent yn darparu addysg/hyfforddiant:
'Drwy ein prosiectau Blaengynllunio Gofal, rydym wedi dysgu hyn: Mae cyllidebau'n dynn. Os oes gennych uchelgais i ddarparu cymorth i bawb, rhaid i chi fod yn barod i gynnal sesiynau byrion amrywiol i grwpiau bach iawn, ar y safle. Fodd bynnag, mae anfon staff oddi ar y safle ac i gwrdd â chydweithwyr o gartrefi eraill yn gynhyrchiol iawn. Mae brwdfrydedd unigolion yn hanfodol i lwyddiant a gallai'r rhain fod yn bobl eithaf ifanc yn y maes – gallai fod angen dulliau gweithredu ailadroddus.'
IV. Datblygu, rheoli a chynnal perthnasau
Gwnaeth darparwyr rai sylwadau ynghylch sut y gallai diwylliant, prosesau penderfynu a llwybrau cyfathrebu cartrefi gofal fod yn rhwystr i gymorth gan dimau GLlA.
Ysgrifennodd ymatebydd dau am anawsterau yn ymgysylltu â chartrefi gofal, bod dulliau ymgysylltu weithiau'n llwyddo a weithiau'n methu, a sut y gallai perthynas bresennol lefel-isel hyd yn oed, fel benthyg offer, ei gwneud hi'n haws cyflwyno cymorth arall.
'Weithiau rydym yn ceisio cysylltu am fisoedd ar y tro, ac yna'n llwyddo am ddim rheswm amlwg. Mae'n haws cyflwyno cymorth i gartrefi y mae gennych berthynas â nhw yn barod am ryw reswm, e.e. os ydych wedi benthyca gwely proffilio neu gadair olwyn iddynt, neu gynnal sesiynau CT ar gyfer preswylydd.'
(Ymatebydd dau)
Dywedodd un ymatebydd nad oedd gwybodaeth am ei wasanaeth GLlA yn cael ei rhaeadru i aelodau eraill o staff yn y cartref gofal ar ôl ymgysylltu'n llwyddiannus â rheolwyr y cartref: 'Roedd yr holl wybodaeth yn cael ei rhoi i reolwyr cartrefi gofal am yr hyn roedd yr hosbis yn ei gynnig, ac roedd ymweliadau'n cael eu cynnal, ond dydw i ddim yn credu bod y wybodaeth hon wedi'i lledaenu'n gyson.'
Esboniodd ymatebydd pedwar fod prosesau penderfynu canolog ar gyfer cartrefi grŵp mawr yn cyfyngu ymatebion i faterion lleol. Nodwyd gwahaniaethau diwylliannol fel her hefyd.
Tabl 3: heriau i ddarparu cymorth GLlA i gartrefi gofal, gan godio amlder fesul math
d) Ffactorau galluogi cymorth GLlA mewn cartrefi gofal
Gofynnom i ddarparwyr ddweud wrthym sut y gallai'r heriau a'r rhwystrau yr oeddent wedi'u nodi gael eu lleihau neu eu goresgyn. Atebodd wyth o'r naw ymatebydd y cwestiwn hwn. Gweler tabl 4 am restr o ffactorau galluogi wedi'u codio.
I. Cyllid
'Mwy o gyllid' oedd y ffactor galluogi a gafodd ei godio fwyaf (4 cyfeiriad). Disgrifiodd ymatebydd dau angen am gyllid hirdymor sylweddol ac amserlenni adrodd cysylltiedig sy'n cefnogi datblygiad perthnasau: 'Mae angen grantiau ariannol mawr, hirdymor arnom a fydd yn darparu digon o amser ac adnoddau i adeiladu perthnasau mewn ffyrdd bach cyn bod 'allbynnau' yn cael eu ceisio'n ddidrugaredd.' Cynigiodd ymatebydd chwech y gallai gwelliannau gael eu gwneud drwy fuddsoddi ar y cyd.
Awgrymodd darparwyr eraill fod gwasanaethau GLlA wedi'u comisiynu ac addysg/hyfforddiant wedi'u hariannu yn ffactorau galluogi. Awgrymodd ymatebydd naw y gallai hyfforddiant wedi'i ariannu hefyd fod yn orfodol. Ailadroddwyd hyn gan ymatebydd saith mewn sylw diweddarach a ddangosir yn y blwch testun.
II. Staffio
Cynigiodd dau ddarparwr y byddai staff GLlA ychwanegol â chyfrifoldeb am weithio gyda chartrefi gofal yn hwyluso cymorth gwell. Ysgrifennodd ymatebydd tri: '[...] yn ddelfrydol byddai yna swydd bwrpasol / sesiynau wedi'u hariannu i gynnig addysg mewn cartrefi gofal [...]'. Esboniodd hefyd y gallai'r straen ar y tîm GLlA gael ei leihau gyda 'thîm GLlA wedi'i staffio'n llawn, [...] adnoddau ar gyfer cyflenwi'n briodol dros absenoldeb hirdymor o'r tîm GLlA a chymorth gweinyddol wedi'i ariannu.'
Cynigiodd ymatebydd pump y gallai addysg a hyfforddiant helpu i gadw staff cartrefi nyrsio: 'Ymrwymiad i ddatblygu sgiliau a chymwysterau staff ar bob lefel mewn cartrefi nyrsio sector preifat er mwyn mynd i'r afael â'r her o gadw staff.'
III. Addysg/hyfforddiant hygyrch
Tybiwyd bod 'addysg/hyfforddiant hygyrch' (2 gyfeiriad) yn helpu o ran adeiladu perthnasau a goresgyn rhai o'r heriau a nodwyd o ran ymgysylltu ag addysg a hyfforddiant. Disgrifiodd ymatebydd saith addysg gyda'r nos ac yn gynnar yn y bore 'y mae'r cartrefi gofal mwy rhagweithiol wedi'i chroesawu'. Ailadroddodd ymatebydd pedwar fanteision ei ddull dysgu cyfun o ran hyfforddiant ar gyfer gweithlu cartrefi gofal â throsiant uchel.
'Dylai'r modiwlau gofal lliniarol sy'n cael eu cynnig yn ein hardal fod yn orfodol i staff Cartrefi Gofal. Byddai hyn yn sicrhau gofal diwedd oes gwell i'w holl breswylwyr, nid dim ond y rhai sy'n cael eu hatgyfeirio i'r tîm gofal lliniarol cymunedol.'
(Ymatebydd saith)
Dywedwyd bod y dull hwn yn darparu ychydig o hyfforddiant yn aml, a bod yr hyfforddiant yn ffurfiol o anffurfiol. Mae'n canolbwyntio ar ofal lliniarol cyffredinol, yn canolbwyntio ar y claf, ac yn fyfyriol. (Gweler adran 7c am y dyfyniad llawn).
IV. Dull cymorth
Awgrymodd dau ddarparwyr y gallai'r ffordd y mae timau GLlA yn cefnogi cartrefi gofal gael ei gwella. Cynigiodd ymatebydd naw 'fwy o amser anffurfiol ar gyfer timau GLlA' ac ysgrifennodd ymatebydd dau 'mae angen prosiect arnom sy'n mynd â ni i mewn i gartrefi gofal mewn ffordd anfygythiol, yn rheolaidd.' Awgrymwyd cynnig cymorth ymarferol y mae cartrefi gofal yn ei werthfawrogi hefyd, fel benthyg offer am ddim.
Tabl 4: Ffactorau galluogi i ddarparu cymorth GLlA i gartrefi gofal, gan godio amledd fesul math
e) Arfer gorau mewn cymorth GLlA i gartrefi gofal
Gofynnom i ddarparwyr rannu unrhyw enghreifftiau hysbys o arfer gorau/arloesol mewn cymorth GLlA i gartrefi gofal. Manteisiodd chwech o'r naw ymatebydd ar y cyfle hwn.
I. Addysg/hyfforddiant
Gwnaeth dau ddarparwr sôn am addysg/hyfforddiant hygyrch fel arfer da. Ailbwysleisiwyd pwysigrwydd yr amseru a'r dull gweithredu cywir o ran addysgu fel y trafodwyd yn yr adran flaenorol. Soniodd un ymatebydd am y rhaglen hyfforddi Chwe Cham at Lwyddiant yng ngogledd Cymru fel enghraifft o fenter sydd wedi ymgysylltu'n llwyddiannus â chartrefi gofal. Dywedwyd bod y rhaglen, a redwyd gyda thua 40 o gartrefi gofal, wedi mwynhau '[...] presenoldeb da ac ymrwymiad cartrefi gofal, a chafodd ei gwerthuso'n dda.'
II. Cymorth Blaengynllunio Gofal
Rhannwyd dwy enghraifft o arfer gorau mewn Blaengynllunio Gofal (BG). Tynnwyd sylw at brosiect BG clwstwr a redodd ddigwyddiadau ymwybyddiaeth BG mewn cartrefi gofal gyda sesiynau dilynol a hwylusodd BG (neu ddogfennau budd gorau) i unigolion fel prosiect o ddiddordeb. Tynnwyd sylw at gymorth 'amhrisiadwy' Nyrsys Clinigol Arbenigol BG hefyd.
III. Cyfarfodydd amlddisgyblaethol ac archwiliad diwedd oes
Nodwyd cyfarfodydd amlddisgyblaethol rhwng staff GLlA cymunedol, staff cartrefi nyrsio a meddygon teulu i adnabod preswylwyr sy'n dod at gam diwedd oes eu gofal fel arfer da gan un darparwr. Nododd un arall fod archwiliad diwedd oes ar gyfer cartrefi gofal yn arfer da, ac awgrymodd y dylai hyn gael ei wneud fesul cartref ac y dylai'r canlyniadau, fel gwybodaeth am sicrhau'r lleoliad marw a ffefrir, gael eu rannu â chartrefi gofal.
9. Casgliad
Er bod y sampl o ymatebwyr i'r arolwg Cymreig yn fach, roedd ymrwymiad arbennig darparwyr i gynnig cymorth GLlA o ansawdd uchel i breswylwyr cartrefi gofal yn amlwg. Mae'r wybodaeth a'r safbwyntiau a rannwyd drwy'r adroddiad hwn yn gip ar y cymorth GLlA a ddarperir mewn lleoliadau cartrefi gofal yng Nghymru.
Roedd cyfyngiadau ar y data meintiol a gyflenwyd; fodd bynnag, helpodd sylwadau testun rhydd i nodi gwendidau yn y data a gasglwyd mewn perthynas â chefnogi preswylwyr a staff cartrefi gofal, a allai ddylanwadu ar welliannau yn y dyfodol. Mae sylwadau ysgrifenedig darparwyr wedi gwella ein dealltwriaeth o'r heriau a'r ffactorau galluogi posibl o ran darparu cymorth o ansawdd uchel o bersbectif darparwr GLlA.
Nid yw rhai o'r heriau a nodwyd yn newydd, ac mae eraill, fel cadw staff cartrefi gofal, yn endemig o broblem ehangach o lawer yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol. Fodd bynnag, gallai fod angen ymchwilio'n fanylach i broblemau lefelau staffio GLlA yng Nghymru a'r effaith y mae hyn yn ei chael ar ddarparu gwasanaeth.
Yn y dyfodol, gallai dull gweithredu ansoddol manylach, fel cyfweliadau wyneb yn wyneb neu dros y ffôn, helpu i ymgysylltu â grŵp ehangach o ddarparwyr GLlA ac arwain at lefel uwch fyth o wybodaeth gyd-destunol gyfoethog.
Fodd bynnag, ni ellir casglu argymhellion o'r data a roddwyd gan y sampl fechan o ddarparwyr Cymreig ar ei phen ei hun. Mae'r themâu a nodwyd yn nata Cymru yn adlewyrchu ac yn ategu canlyniadau sampl fwy o lawer o ddarparwyr GLlA yn Lloegr, a gasglwyd ar yr un pryd drwy'r un arolwg. (8) Dylai'r argymhellion canlynol felly gael eu hystyried yng nghyd-destun polisi, comisiynu a gwasanaeth Cymru.
10. Argymhellion
- Dylai Darparwyr GLlA gyfuno i asesu ymarferoldeb sefydlu dull unedig o gasglu data a fydd yn galluogi meintioli, adrodd ar a deall y lefel o gymorth a ddarperir i gartrefi gofal a phreswylwyr.
- Dylai comisiynwyr dargedu cyllid a chymorth GLlA at gartrefi gofal a phreswylwyr drwy nodi'r lleoliad gofal hwn mewn contractau a chytundebau lle y bo'n briodol.
- Dylai comisiynwyr a darparwyr adolygu mesurau perfformiad gwasanaeth GLlA i sicrhau, lle y bo'n briodol, fod canlyniadau a adroddir gan y claf a'r gofalwr yn cael eu cynnwys.
- Dylai darparwyr GLlA, comisiynwyr a chartrefi gofal gydweithio i godi ymwybyddiaeth a chyflawni cymwyseddau craidd. Dylent benderfynu ar y ffordd orau o ddarparu addysg a hyfforddiant i fodloni anghenion staff cartrefi gofal gan ystyried heriau lleol.
- Dylai Grwpiau Comisiynu Clinigol ac Awdurdodau Lleol ystyried eu rôl fel comisiynwyr gwasanaethau o ran annog cartrefi gofal i ymgysylltu ag addysg a hyfforddiant GLlA. Gallai hyn gynnwys gweithio gyda'i gilydd a gyda pherchnogion a rheolwyr cartrefi gofal i ystyried pa mor ymarferol yw gwella sut mae cartrefi gofal yn ymgysylltu â hyfforddiant GLlA drwy nodi'r cymwyseddau craidd gofynnol mewn contractau a chytundebau.
- Mae angen ymchwilio ymhellach gyda staff cartrefi gofal i astudio eu persbectif ar yr heriau a'r ffactorau galluogi i ddarparu cymorth GLlA mewn cartrefi gofal.
11. Cyfeiriadau
1. Swyddfa Ystadegau Gwladol (2017) Overview of the UK population: July 2017 [Ar-lein] Y DU: ONS [Gwelwyd 13 Tachwedd 2017] Ar gael yn: https://www.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/populationandmigration/populationestimates/articles/ov erviewoftheukpopulation/july2017
2. Age UK (2017) Briefing: Health and Care of Older People in England 2017. Y DU: Age UK. Ar gael yn: https://www.ageuk.org.uk/documents/EN-GB/Forprofessionals/Research/The_Health_and_Care_of_Older_People_in_England_2016.pdf?dtrk=true
3. Swyddfa Wyddoniaeth y Llywodraeth (2016) Future of an Ageing Population. Y DU: Crown. Ar gael yn: https://www.gov.uk/government/publications/future-of-an-ageing-population
4. Stats Cymru (2018) CSSIW Services and Places by Setting Type and Year [Ar-lein] Cymru: Llywodraeth Cymru. [Gwelwyd 17 Ionawr 2018] Ar gael yn: https://statswales.gov.wales/Catalogue/Health-and-SocialCare/Services-for-Social-Care-and-Childrens-Day-Care/cssiwservicesandplaces-by-setting-year
5. Swyddfa Ystadegau Gwladol (2018) Nomis official labour market statistics Table DC4210EWla - Communal establishment management and type by sex by age [Ar-lein] Y DU: ONS. [Gwelwyd 18 Ionawr 2018]. Ar gael yn: https://www.nomisweb.co.uk/
6. Public Health England (2017) The role of care homes in end of life care Briefing 2 - Place and cause of death for permanent and temporary residents of care homes. Lloegr: Public Health England. Ar gael yn: http://www.endoflifecare-intelligence.org.uk/resources/publications/carehomes
7. Swyddfa Ystadegau Gwladol (2017) Deaths by place of occurrence, 2016. [Ar-lein] Y DU: ONS. [Gwelwyd 13 Tachwedd
2017]. Ar gael yn:
https://www.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/birthsdeathsandmarriages/deaths/adhocs/007620deaths byplaceofoccurrence2016
8. Newman, A. (2017) Results of a national survey of support to adult care homes in England: A specialist palliative care provider perspective. [Ar-lein] Lloegr: Cyngor Gofal Lliniarol Cenedlaethol. [Gwelwyd 11 Medi 2017]. Ar gael yn: http://endoflifecareambitions.org.uk/results-of-a-national-survey-of-support-to-adult-care-homes-in-england/
9. Care Quality Commission (2017) Care homes [Ar-lein] Lloegr: CQC. [Gwelwyd 21 Mehefin 2017]. Ar gael yn: http://www.cqc.org.uk/what-we-do/services-we-regulate/care-homes
10. Sefydliad Iechyd y Byd (2017) WHO Definition of Palliative Care [Ar-lein] Geneva: WHO. [Gwelwyd 28 Mehefin 2017]. Ar gael yn: http://www.who.int/cancer/palliative/definition/en/
11. Mayring, P. (2000) 'Qualitative Content Analysis'. Forum: Qualitative Social Research Sozialforshung, 1 (2) [Ar-lein]. Ar gael yn: http://www.qualitative-research.net/index.php/fqs/article/view/1089/2385
12. Cymdeithas Meddyginiaeth Liniarol Prydain Fawr ac Iwerddon, Grŵp Cyfeirio Nyrsys Ymgynghorol mewn Gofal Lliniarol, Gofal Canser Marie Curie, Cyngor Gofal Lliniarol Cenedlaethol, Adran Gofal Lliniarol y Gymdeithas Feddygaeth Frenhinol (2012) Commissioning Guidance for Specialist Palliative Care: Helping to deliver commissioning objectives. [Ar-lein] Llundain, Y DU. [Gwelwyd 21 Mehefin 2017]. Ar gael yn: http://www.ncpc.org.uk/publication/commissioning-guidance-specialist-palliative-care-helping-delivercommissioning-objectiv
|
cym_Latn
| 26,876
|
CC-MAIN-2025-08
| 0.972782
|
<urn:uuid:0388e1f9-d3c1-40b3-8414-e4c24d07c911>
|
https://www.annibynwyr.org/image/resources/Eglwysi%20Dementia%20Gyfeillgar/Adran%203.pdf
|
Adran 3:
Patrymau ar gyfer Oedfaon
Bwriad yr adran hon yw cynnig casgliad o batrymau ar gyfer oedfaon addas i rai sy'n byw gyda dementia, eu teuluoedd a'u gofalwyr. Mae rhai oedfaon ar themâu penodol, ac eraill yn dilyn y calendr eglwysig neu'n addas ar gyfer sacrament y Cymun.
Y syniad yw cynnig yr oedfaon hyn i gynulleidfaoedd sydd, efallai, heb weinidog neu sydd ag angen arweiniad. Gellid cynnal oedfa ddementia yn lle'r oedfa arferol ar ambell Sul, neu fel gwasanaeth ychwanegol yn ystod yr wythnos. Gall fod yn ddigwyddiad rheolaidd neu achlysurol, yn dibynnu ar y galw. Byddai'n braf cael plant a phobl ifanc yn bresennol ar adegau, ac rydym yn annog rhoi cyfle i'r gynulleidfa gymryd rhan.
Fe welwch fod sleidiau PowerPoint ar gael i'w lawrlwytho o wefan yr Undeb i gydfynd â rhai oedfaon. Rydym wedi cynnwys wyth oedfa yn y ffeil ei hun, ac mae rhagor ar gael ar y wefan. Rydym yn diolch i'r cyfeillion canlynol (yn nhrefn yr wyddor) am baratoi'r oedfaon hyn ar ein cyfer: Carys Ann, Owain Llˆyr Evans, R. Alun Evans, Gwyn Elfyn Jones, Trefor Jones-Morris, Guto Llywelyn, Hywel Wyn Richards, Robin Wyn Samuel a Mererid Mair Williams.
Beth yw Oedfa Ddementia-gyfeillgar?
Bydd oedfa ddementia-gyfeillgar yn wahanol i'r arfer am ein bod yn ceisio teilwra'r gweithgaredd ar gyfer y cyfeillion hynny sy'n byw gyda dementia. Yn aml iawn bydd rhan helaeth o'r gynulleidfa'n methu canolbwyntio ar un peth am gyfnod hir. Bydd rhai'n dymuno cerdded o gwmpas yn ystod y gwasanaeth, a dylid bod yn barod hefyd am rywrai'n siarad yn uchel o dro i dro. Buan y down ni i dderbyn mai dyna'r drefn gyda'r math yma o oedfa, ac nad oes angen teimlo unrhyw chwithdod.
Y gamp i'r arweinydd yw bod yn gynnes, yn gartrefol, ac yn anffurfiol.
Dylid glynu at emynau poblogaidd, darlleniadau cyfarwydd a myfyrdodau byr, difyr. Gorau oll os oes modd denu'r gynulleidfa i mewn gyda gweithgareddau rhyngweithiol a defnyddio gwrthrych megis cannwyll, blodau neu ddarlun fel canolbwynt i'r addoliad. Mae elfen o ailadrodd bob amser yn syniad da.
Yn sicr, nid dyma'r lle i bregethu'n hirfaith na chyflwyno syniadau astrus neu ddadleuon diwinyddol dwfn. Symlrwydd piau hi bob tro, ac mae modd cyflawni hynny heb fod yn nawddoglyd.
Oedfa Sul y Blodau
[Bydd angen llestr a thusw o flodau]
ARWEINYDD
Heddiw yw Sul y Blodau. Tybed beth yw'ch hoff flodyn chi? Beth am glychau'r gog neu'r briallu? Daffodil neu gennin Pedr? Dyna hoff flodyn pob Cymro neu Gymraes, si ˆwr o fod. 'O nage', medd rhywun, 'fy hoff flodyn i yw'r rhosyn . . . neu'r fioled . . . neu lygad y dydd neu fysedd y c ˆwn neu rug y mynydd.'
Grug y mynydd yn eu blodau, Edrych arnynt hiraeth ddug Am gael aros ar y bryniau Yn yr awel efo'r grug.
Mae gen i dusw o flodau fan hyn, a dwi am eu rhoi nhw mewn llestr. Ond dydw i ddim yn dda iawn am osod blodau. Falle y caf i help gennych chi i wneud sioe dda o ddail a blodau fel y gallwn ni eu gweld ar eu gorau, rhyfeddu at y gwahanol liwiau a mwynhau'r amrywiol arogleuon.
[Dechrau gosod blodyn neu ddau]
O'n i'n dweud wrthych chi nad oeddwn i yn dda iawn am osod blodau. Beth am ganu emyn tra bydd eraill ohonoch chi'n rhoi cynnig arni?
EMYN 391 'Pwy all beidio canu moliant iddo ef?' [Yn ystod y canu gellid annog rhai i osod blodau yn y llestr]
ARWEINYDD
Diolch i chi am eich help. A nawr rwy'n cael help [enwi pwy sy'n darllen] i ddarllen hanesyn o'r Beibl.
DARLLENYDD Mathew 21:1–11
ARWEINYDD
Gadewch i ni ganu eto gytgan yr emyn ganom ni gynnau. Cytgan emyn 391.
[Canu cytgan emyn 391 a dyblu'r canu]
ARWEINYDD
Ie, moliant iddo ef. Moliant i'r Brenin Iesu. Meddyliwch wir! Brenin yn marchogaeth ebol asyn. Crist yn marchogaeth ebol asyn i mewn i'r ddinas. Nid march rhyfel ond ebol asyn – symbol o heddwch.
Ond mae hwyl ddrwg ar Iesu. Mae e, beth bynnag am yr asyn, ar ben ei dennyn. Mae'r cynllunio bwriadol yn ei erbyn, y cynllunio herfeiddiol gan y ddinas fradwrus ar fin cyrraedd ei benllanw. Does dim carped coch i'r Brenin; dim utgyrn yn seinio. Dim ond pobol yn taenu palmwydd a blodau a dail. Pobol yn gweiddi, 'Hosanna i Fab Dafydd. Bendigedig yw'r un sy'n dod yn enw'r Arglwydd. Hosanna yn y goruchaf.'
DARLLENYDD
Ynfydion! Cefais innau f'awr, Yr awr felysa' gaed. Roedd sain 'Hosanna' yn fy nghlust A phalmwydd dan fy nhraed.
ARWEINYDD
Beth am ganu emyn arall? Emyn Elfed.
EMYN 360 'Pwy sy'n dod i Salem dref?'
ARWEINYDD
Emyn Sul y Blodau. Dydd Sul. Dydd cynta'r wythnos, neu'r dydd ola? Pa un yw dydd cynta'r wythnos? Dydd Llun. Dydd Llun yw dydd cynta'r wythnos. Dydd Llun, dydd Mawrth, dydd Mercher, dydd Iau, dydd Gwener, dydd Sadwrn. A pha ddydd sy'n dilyn dydd Sadwrn? Ie, dydd Sul.
Dydd gwisgo dillad gorau. Oeddech chi'n cael dillad newydd i fynd i'r capel?
Hwn yw y sanctaidd ddydd, gorffwysodd Duw o'i waith; a ninnau'n awr, dan wenau Duw, gorffwyswn ar ein taith.
Yr enw ar y dydd o orffwys cysegredig a ddiweddai yr wythnos Iddewig oedd y Saboth. Ystyr 'Saboth' yw 'ymatal', neu 'peidio', ac roedd cysylltiad rhwng cadw'r Saboth a'r lleuad. Hynny yw, dathlu g ˆwyl lleuad lawn oedd y Babyloniaid. Ond gydag amser, ac wrth ffurfio calendr, aeth y cysylltiad rhwng y lleuad a'r Saboth yn llai ac yn llai nes cael ei anwybyddu'n llwyr. Am y berthynas rhwng y Saboth a'r Sul Cristnogol, hwn bellach oedd dydd cynta'r wythnos, Dydd yr Arglwydd.
Gadewch i ni droi at yr Arglwydd mewn gweddi.
DARLLENYDD
Gweddïwn.
Frenin Nef a Daear, daethost ti i Jerwsalem yn marchogaeth ar gefn asyn a dangos dy frenhiniaeth. Gwyddom mai yn ein calonnau yr wyt ti am deyrnasu. Cura ar ddrws ein calonnau, Arglwydd, er mwyn dod i mewn. Dymunwn dy ddilyn i mewn i'r ddinas ac i mewn i'th orfoledd. Dyro i ni'r awydd i wasanaethu'r rhai y mae eu bywydau'n cyffwrdd â'n bywydau ni fel y byddom yn anrhydeddu'n gilydd. Tyred i'th etifeddiaeth drwy'r byd i gyd, a theyrnasa drosto mewn heddwch ac mewn cyfiawnder a chariad. Rhoddwn ddiolch i ti. Dathlwn a dyrchafwn di. Hosanna yn y goruchaf.
Ein Tad . . .
ARWEINYDD
Ffydd fywiol, wreiddiol ar weddi – heb lid,
Ffydd a blodau arni;
Ffydd heb un awr ddiffoddi,
Ffydd gref â i'r nef â ni.
Dyma gloi ein hoedfa gydag un arall o emynau Elfed.
Pwy sy'n dwyn y Brenin adref?
Pwy sy'n caru gweld ei wedd?
Ac wedi canu'r emyn fe gawn ni baned a sgwrs – o ie, a gorffen gosod y blodau.
EMYN 250 'Pwy sy'n dwyn y Brenin adref?'
ARWEINYDD
Y Fendith
Cynorthwya ni i'th ddilyn yn dy wyleidd-dra, dy aberth a'th gariad. A gras fyddo gyda ni oll.
Amen.
(R.A.E.)
Oedfa Gwener y Groglith
[Awgrymir cyflwyno croes fechan o wellt/pren/papur i bawb sy'n bresennol]
INTRADA [darn cyfarwydd, i gyfeiliant unrhyw offeryn]
ARWEINYDD
Croeso i'r oedfa, a hithau'n ddydd Gwener. 'Dydd Gwener! Dydd Gwener!' meddech chi. 'Dydyn ni ddim yn arfer mynd i'r capel neu'r eglwys ar ddydd Gwener. Dydd Sul yw dydd mynd i'r capel neu'r eglwys. Ydych chi'n si ˆwr fod y diwrnod iawn gyda chi?'
Yn berffaith si ˆwr. Ond nid unrhyw ddydd Gwener yw hwn. Dyma'r dydd dwysaf yng nghalendr y Cristion. Dydd Gwener y Groglith. Mae'r Saeson yn ei alw'n 'Good Friday'. Good? Beth sy'n 'good' am ddiwrnod mor ddwys, mor greulon? Efallai mai 'God's Friday' a olygir, fel yn yr Almaeneg Gottes Freitag. Falle'n wir. Ond er ein bod ni'n cyfeirio at rywbeth erchyll a chreulon wrth sôn am Grist yn cael ei groeshoelio, rydyn ni hefyd yn nodi mai ar y dydd hwn y cafodd y byd ei waredu o'i bechod.
Edrychwch ar y symbol o'r groes sydd yn eich llaw. Dyma i chi rai o eiriau Iesu ar y groes.
GWEDDI
[Y lleisiau'n cyfrannu o'u seddau. Dylid cael saib rhwng y lleisiau.]
LLAIS 1 'O Dad, maddau iddynt, oherwydd ni wyddant beth y maent yn ei wneud.'
[Luc 23:34]
Helpa ni, O Dduw, i faddau i eraill. A maddau i'n byd y pethau creulon sy'n digwydd.
LLAIS 2 'Heddiw byddi gyda mi ym Mharadwys.' [Luc 23:43] Diolchwn i ti, O Dad, am y sicrwydd hwn.
LLAIS 3 'Fy Nuw, fy Nuw, pam yr wyt ti wedi fy ngadael?' [Marc 15:34] Helpa ni, O Dduw, yn yr oriau mwyaf tywyll ac unig.
LLAIS 4 'Y mae arnaf syched.' [Ioan 19:28] Helpa ni, O Dad, i sicrhau bwyd a diod i'r newynog a'r sychedig.
LLAIS 5 'Gorffennwyd.' [Ioan 19:30]
Diolch i ti, O Dad, fod Iesu wedi cyflawni'r gwaith y daeth i'r ddaear i'w gyflawni.
[Tawelwch am rai eiliadau]
ARWEINYDD
Roedd croes Crist wedi ei chodi gan y milwyr Rhufeinig ar fryn Calfaria. Dyfed yw awdur emyn rhif 496 yn Caneuon Ffydd. Gadewch i ni ganu'r emyn ar y dôn 'Price'.
EMYN 496 'I Galfaria trof fy wyneb'
ARWEINYDD
Emyn Dyfed ar y dôn 'Price'. Emyn am Iesu'n talu'r pris; y pris am ein pechodau ni. Pan fyddwn ni'n ddrwg mae pris i'w dalu am gael maddeuant. Os oedden ni'n ddrwg yn yr ysgol, fe allen gael ein hanfon allan o'r dosbarth a'n gorfodi i sefyll y tu allan i'r drws. Sgrifennu cant o linellau (ac yn Saesneg fel arfer) 'I must not . . . rhywbeth neu'i gilydd.' Cael ein cadw i mewn ar ôl ysgol, ar ôl i bawb arall fynd adre.
Tybed beth oedd y gosb waetha gawsoch chi? Cael eich anfon i stafell y prifathro, hwyrach. Ac yn y stafell honno roedd 'na gansen. Ie, dwi'n gwybod. Roedd y gansen yn brifo.
Does dim hawl defnyddio'r gansen bellach yn y rhan fwyaf o wledydd Ewrop. Ond bydd ambell un yn ymffrostio, 'Wnaeth hi ddim drwg i mi. Ac fe ddysgais i fy ngwers.'
Bu'n rhaid i Iesu Grist wynebu'r groes. Ar fryn Calfaria gydag ef roedd dwy groes arall, a dau droseddwr arall oedd yn derfysgwyr. Dau bechadur. Ond doedd Iesu ddim ar fai. Roedd Iesu'n ddibechod. Ac mae'r pedair efengyl – Mathew, Marc, Luc ac Ioan – er yn adrodd yr un hanes yn dweud rhai pethau gwahanol i'w gilydd. Dim ond Mathew sy'n sôn am Peilat yn golchi'i ddwylo. Roedd gan Peilat gansen, onid oedd; neu chwip yn hytrach. Gan nad oedd e'n cael Iesu'n euog o
unrhyw gyhuddiad mae'n dweud, 'Fe ddysgaf wers iddo â'r chwip.' Ond roedd y dorf yn bloeddio, 'Croeshoelier ef.'
Dim ond Luc sy'n sôn am rai o eiriau olaf Iesu. Mae Marc yn dweud bod Iesu wedi gwrthod ateb cwestiynau Peilat – 'nid atebodd Iesu ddim mwy'; mae Ioan ar y llaw arall yn sôn am ddeialog rhwng y ddau. Ond yr un yw'r canlyniad. Rhyddhau Barabbas, y dyn drwg, a dedfrydu Iesu, y dyn da, i'w groeshoelio. A hynny'n digwydd ar y dydd Gwener.
Dyw'r Beibl ddim yn dweud 'dydd Gwener'. Ond mae'n dweud bod Iesu wedi atgyfodi ar 'y trydydd dydd,' hynny yw, dydd Sul. Mae emyn rhif 764 hefyd yn sôn am y 'trydydd dydd'.
[Rhywun i ledio'r emyn. Gallai fod yn un o'r lleisiau.]
EMYN 764 'Ni allodd angau du ddal Iesu'n gaeth'
ARWEINYDD
Dyn o'r enw Gwilym ab Elis piau geiriau'r emyn yna. Dyn o ardal y Bala oedd e ac mae wedi'i gladdu ym mynwent Llanycil, ar lan llyn Tegid. Yn yr eglwys yn Llanycil, eglwys Sant Beuno, mae amgueddfa i gofio am daith Mari Jones i'r Bala i brynu Beibl. Dyma sut mae'r Beibl yn adrodd hanes y croeshoelio.
DARLLENYDD Marc 15:33–39 (o unrhyw fersiwn o'r Beibl)
ARWEINYDD
Mae darluniau enwog i'w cael o'r croeshoeliad – Crist yn cario'r groes; Crist ar y groes; corff Crist yn cael ei dynnu oddi ar y groes; y goron ddrain, yr hoelion dur; Jiwdas yn bradychu Iesu; Pedr yn gwadu adnabod Iesu; y milwyr a'r dorf yn gwawdio Iesu; mam yr Iesu wrth droed y groes . . . Sgwn i, pe bai gennych chi'r modd, pa ddarlun o Grist fyddech chi'n ei osod ar wal y gegin? Mae rhai gan arlunwyr enwog o'r canol oesoedd; eraill gan artistiaid modern.
Darluniau du a thywyll yw lluniau'r croeshoelio at ei gilydd. Mae'r llun cynharaf o Grist ar y groes i'w weld yn eglwys gadeiriol Cologne.
Os nad lluniau, beth am yr ardd? Mae'n draddodiad gan rai garddwyr i blannu tatws cynnar ar ddydd Gwener y Groglith. Pa datws fyddech chi'n dewis? Desiree, King Edward, Javelin, Red Thumb, Purple Majesty? Maen nhw o bob lliw ac o bob siâp. A'r syniad o blannu ar ddydd Gwener y Groglith, mae'n debyg, yw bod y llysiau'n cael eu claddu yn y pridd yn y gwanwyn ac yn dwyn ffrwyth yn yr haf. Tatws o'r ardd; pys o'r ardd; ffa a ffrwythau o'r ardd. Does mo'u gwell i'w cael. Ond lle gwahanol iawn oedd gardd Gethsemane. Yno y bu Crist yn gweddïo. Yn yr ardd honno y bradychwyd ef. Yn y fan honno y cafodd ei arestio, ei roi ar brawf ac yna ei groeshoelio.
Dyma [enwi – plentyn os yn bosib, neu berson ifanc] i chwarae darn o gerddoriaeth ar [delyn, ffidil, ffliwt, gitâr, piano] i'n hatgoffa o ddioddefaint Iesu.
EITEM OFFERYNNOL [gan berson ifanc]
ARWEINYDD
[Diolch i'r offerynnwr]
I orffen, fe ganwn ni emyn rhif 505. [Arweinydd yn ledio'r emyn]
EMYN 505 'Mi ganaf tra bo anadl o fewn i'r ffroenau hyn'
Fe soniwyd am yr ardd gynnau. Mae 'na ychydig becynnau o hadau ar y byrddau y gellir eu plannu yr adeg yma o'r flwyddyn. Ewch â nhw efo chi ar bob cyfri. Croeso i chi aros am baned a sgwrs cyn mynd adre.
Nawr fe ddwedwn ni'r fendith efo'n gilydd.
Y FENDITH
Gras ein Harglwydd Iesu Grist, a chariad Duw, a chymdeithas yr Ysbryd Glân a fyddo gyda ni oll o'r awr hon hyd byth. Amen
(R.A.E.)
Oedfa Sul y Pasg
[Awgrymir rhoi wy Pasg bychan i bawb wrth iddynt gyrraedd, neu ffrwyth i'r rhai sy'n dioddef o glefyd y siwgr. Bydd angen cannwyll mewn lle amlwg].
ARWEINYDD
Croeso i oedfa Sul y Pasg. Y peth cyntaf wnawn ni yw cynnau'r gannwyll. Oes rhywun am roi help i oleuo'r gannwyll?
[Dylid cymryd gofal wrth ddewis pwy sydd am danio'r fatsien]
Diolch [enwi pwy bynnag sydd wedi goleuo'r gannwyll]. Mae goleuo cannwyll ar fore Sul y Pasg yn hen hen draddodiad sy'n perthyn i'r ffydd Iddewig. Mae'r fflam yn dynodi 'goleuni'. Iesu ddywedodd wrth ei ddilynwyr, 'Nid yw'r sawl sy'n rhodio yn y tywyllwch yn gwybod lle mae'n mynd. Tra bo'r goleuni gennych, credwch yn y goleuni, ac felly plant y goleuni fyddwch.' [Ioan 12:35, 36]
Ac mae gennych chi wy Pasg i'w fwyta ar ddiwedd y gwasanaeth neu ar ôl mynd adre. Mae'r wyau'n lliwgar. Sawl lliw sydd 'na? – coch, glas, melyn, oren, gwyrdd, porffor – pob math o liwiau. Lliwiau ar y papur lapio ydyn nhw. Pan fyddwch chi'n tynnu'r papur lapio fe welwch chi liw arall: lliw siocled. Dyna blisgyn yr wy.
Yr hyn sy'n digwydd ar ˆwyl y Pasg yw ein bod ni'n torri'r plisgyn ac yn rhyddhau'r hyn sydd y tu mewn i'r plisgyn. Meddyliwch am iâr yn dodwy wy go iawn. Os yw'r iâr yn gori – hynny yw, yn eistedd ar yr wy – mae hi'n gwneud hynny er mwyn cadw'r wy yn gynnes. Oherwydd y tu mewn i'r wy mae'r cyw. Mae hi'n cymryd tair wythnos i'r wy ddeor. A dyna i chi fywyd newydd. Ym myd yr adar mae cyw yn torri drwy'r plisgyn a dyna eto fywyd newydd – bywyd a fydd, ymhen amser, yn gallu hedfan. Mae'n gallu hedfan yn uchel. Mae'n gallu hedfan ymhell.
Symbol yw'r wy o fywyd newydd; gobaith newydd; cyfle newydd. Ac mae hynny'n rhywbeth i fod yn falch ohono. Crist yn cael ei roi ar brawf a'i gael yn euog. Crist yn cael ei groeshoelio a'i ladd. Crist yn cael ei gladdu mewn bedd. Dyna'r plisgyn. Dyna'r carchar. Ond mae Crist yn torri'n rhydd o'i gaethiwed. 'Ni allodd angau du ddal Iesu'n gaeth ddim hwy na'r trydydd dydd; yn rhydd y daeth.' Ac mae hynny'n rheswm i ni ddathlu.
Heddiw yw'r 'trydydd dydd'. Mae'r bedd yn wag. Mae Crist yn fyw!
[Plentyn neu berson ifanc i ledio'r emyn]
EMYN 555 'Heddiw cododd Crist yn fyw, Haleliwia'
ARWEINYDD
Trwy'r byd i gyd – Asia, Affrica, America, Awstralia, Antartica ac Ewrop – mae 'na ddathlu. Mae 'na ddiolch. Mae'r bedd yn wag.
Sut digwyddodd hynny? Mae stori atgyfodiad Crist yn dweud storïau gwahanol. Mae sôn am angylion, un angel, dau angel. Mae rhai'n credu bod corff Crist wedi cael ei ddwyn naill ai gan ei elynion neu gan ei gefnogwyr. Fe fyddai'r gelynion wedi dwyn y corff rhag i'r bedd ddod yn gyrchfan pererinion.
Pe baen nhw wedi dwyn y corff, fe fyddai'r naill ochor a'r llall wedi dangos y corff er mwyn profi mai twyll oedd y cyfan. Ond fedren nhw ddim. Doedd dim corff. Roedd y bedd yn wag.
Yr hyn sy'n bwysig yw nid beth ddigwyddodd. Wyddom ni ddim beth ddigwyddodd. Yr hyn sy'n bwysig yw effaith y bedd gwag. Beth mae hynny'n ei feddwl?
I'n hatgoffa ni, dyma sut mae Marc yn dweud yr hanes.
[Gellid defnyddio'r darlleniadau yn ôl y galw – un neu fwy]
DARLLENYDD 1
Marc 16:1–8
ARWEINYDD
Dyma'r un hanes gan Mathew.
DARLLENYDD 2
Mathew 28:1–8
ARWEINYDD
Dyma'r hanes yn Efengyl Luc.
DARLLENYDD 3
Luc 24:1–12
ARWEINYDD
Ac eto, yr hanes yn Ioan.
DARLLENYDD 4
Ioan 20:1–10
ARWEINYDD
Dwi'n si ˆwr fod yr wyau Pasg 'na gawsoch chi yn flasus. Os leiciwch chi, fe allwch ddechrau eu bwyta nhw nawr. A dyma i chi rywbeth arall blasus; rhywbeth i'w fwynhau.
[Plentyn neu berson ifanc i chwarae darn o gerddoriaeth berthnasol neu ganu, neu ddefnyddio CD neu ffôn i'r un perwyl]
CERDDORIAETH
EMYN 563 'I Dduw bo'r gogoniant'
ARWEINYDD
Mae dwy thema i stori'r Pasg. Mae'r ddwy thema'n crynhoi ystyr G ˆwyl y Pasg. Y thema gyntaf yw'r ymadrodd, 'Mae'r Iesu yn fyw.' 'Crist sy'n byw ynof fi.' [Galatiaid 2:20] Dyw Iesu ddim bellach yn berson o gig a gwaed, wedi ei gyfyngu gan amser. 'Ac yn awr yr wyf fi gyda chwi yn wastad hyd ddiwedd amser.' [Mathew 28:28] Mae Iesu'n gallu cerdded i mewn i ystafell sydd wedi'i chloi; yn gallu cydgerdded gyda ni heb i ni ei adnabod; yn gallu diflannu o'n golwg mewn eiliad. Luc sy'n rhybuddio yn erbyn chwilio am Iesu yn ei fedd. 'Pam yr ydych yn ceisio ymhlith y meirw yr hwn sy'n fyw?' [Luc 24:5] Nid person y gorffennol pell yw Iesu. Mae'n berson y presennol. Ac fe wyddom ni am y profiad o deimlo Iesu'n agos atom ni.
Yr ail thema yw bod Duw yn cyfiawnhau ac achub cam Iesu. Mae'n dweud 'Ie' wrth Iesu a 'Na' wrth y pwerau a'i rhoddodd ar y groes. Nid stori sy'n gorffen and they all lived happily ever after yw stori'r Pasg, ond stori am Dduw yn rhoi'r awdurdod i Iesu ac i'r rhai sy'n ei ddilyn.
'Rhoddwyd i mi,' meddai, 'bob awdurdod yn y nef ac ar y ddaear. Ewch, gan hynny, a gwnewch ddisgyblion o'r holl genhedloedd.' [Mathew 28:18, 19]
Fe gawn ni air o weddi ac yna emyn arall i orffen y gwasanaeth.
GWEDDI
[Gan un arall sy'n bresennol neu gan yr Arweinydd]
O Dduw, ein Tad nefol, moliannwn di am fore'r trydydd dydd, ac am awr fawr buddugoliaeth dy fab ar bechod a bedd. Boed gorfoledd y Pasg yn ein calonnau yn wastadol, drwy Iesu Grist ein Harglwydd a'n dysgodd i weddïo a dweud . . . Ein Tad (cydadrodd Gweddi'r Arglwydd)
EMYN 547 'Mi wn fod fy Mhrynwr yn fyw'
ARWEINYDD
Gadewch i ni ddweud y gras gyda'n gilydd.
Gras ein Harglwydd Iesu Grist, a chariad Duw, a chymdeithas yr Ysbryd Glân a fyddo gyda ni oll o'r awr hon hyd byth. Amen
(R.A.E.)
Oedfa G ˆwyl Ddiolchgarwch
[Y cwmni i eistedd mewn hanner cylch o gwmpas bwrdd gyda lliain gwyn arno]
[Mae delweddau ar PowerPoint ar gael ar wefan yr Undeb i gyd-fynd â'r oedfa hon]
[Dylid trefnu bod amrywiaeth o fwydydd ar y bwrdd yn barod – bara, llysiau amrywiol, bwydydd sych a thuniau o bob math]
O gofio bod pobl sy'n byw gyda dementia weithiau'n treulio oriau lawer yn troi tudalennau llyfrau a chylchgronau, yn gwrando ar y radio neu'n edrych ar deledu, gellid gosod llyfrau a chylchgronau, radio a gliniadur (i gynrychioli teledu) ar y bwrdd yn ogystal.
neu
Tra bod cerddoriaeth bwrpasol yn chwarae yn y cefndir, cael y gynulleidfa i osod eu 'rhoddion diolch' ar y bwrdd wrth iddynt gyrraedd, gan gynnwys llyfrau a chylchgronau.
Yna yr arweinydd i osod radio a gliniadur yn eu lle – neu osod y rheiny ar y bwrdd ymlaen llaw.
ARWEINYDD
EMYN 15 'I Dad y trugareddau i gyd'
GWEDDI
Am iti'n dwyn, O Dad, i'r ddaear hon Y plyga pob credadun ger dy fron; Am na bu tymor, na bu haul erioed, Na lloer na sêr, a fethodd gadw'u hoed. Tywelltaist arnom ni, drueiniaid gwael, Gawodydd dibrin o'th fendithion hael. Seiniwn dy foliant, Salm i'th ogoniant yw y cread gwiw. (Mawl i'r Crëwr, Gwilym R. Jones)
CROESO
Croeso cynnes i'r oedfa. Diolch am eich cwmni a diolch am y rhoddion ar y bwrdd. Efallai nad yw'r ˆwyl ddiolchgarwch mor bwysig heddiw ag y bu flynyddoedd yn ôl, ond mae'r amrywiaeth o bethau sydd ar y bwrdd yn dangos gymaint sydd gyda ni i ddiolch amdano o hyd. Wrth gwrs, mae lle gyda ni i ddiolch bob dydd o'n bywyd, ond mae cynnal oedfa 'ddiolchgarwch' yn gyfle i ni i feddwl gymaint o ddyledwyr ydym ni, ac i gydnabod, y tu cefn i'r cyfan, waith Duw, Creawdwr pob peth. Dyna mae David Charles yn ei wneud yn ein hemyn cyntaf.
EMYN 64 'Tydi sy deilwng oll o'm cân'
CYD-DDARLLEN SALM 100 'Cenwch yn llafar i'r Arglwydd, yr holl ddaear'
DARLLENIADAU Deuteronomium 8:7–14; 17–18
Adnodau o Salm 104
Fy enaid bendithia'r Arglwydd. O Arglwydd fy Nuw, mawr iawn wyt ti; Yr wyt wedi seilio y ddaear ar sylfeini cadarn, ac ni symuda byth.
Yr wyt yn peri i nentydd lifo i'r dyffrynnoedd, ac afonydd rhwng y bryniau.
Maent yn rhoi d ˆwr i'r anifeiliaid gwylltion;
yno mae'r asynnod gwyllt yn torri eu syched.
Yn y coed gerllaw mae'r adar yn gwneud eu nythod ac yn canu.
Rwyt yn anfon glaw ar y bryniau o'r awyr, ac y mae’r ddaear wedi’i llenwi â’th fendithion.
Yr wyt yn gwneud i laswellt dyfu i'r gwartheg a phlanhigion i ddyn eu defnyddio,
er mwyn iddo dyfu ei gnydau a chynhyrchu gwin i’w wneud yn llawen,
olew i godi ei galon, a bara i’w gynnal.
Litani o Ddiolch
Am harddwch dy greadigaeth:
Diolchwn i ti, O Dduw
Am lewyrch yr haul a glendid yr awyr, ac am iechyd i'w mwynhau:
Diolchwn i ti, O Dduw
Am ffurfiau'r mynyddoedd a'r bryniau, am liwiau’r blodau a’r coed,
ac am lygaid i'w gweld a'u mwynhau:
Diolchwn i ti, O Dduw
Am gân yr adar, am fiwsig llais ac offeryn, ac am glustiau i'w clywed:
Diolchwn i ti, O Dduw
Am y rhai sy'n ein caru ac yn gofalu amdanom, am eu cwmni a'u cyfeillgarwch:
Diolchwn i ti, O Dduw
Am deulu a chymdeithas dy eglwys, am fendithion mawl a gweddi:
Diolchwn i ti, O Dduw
Am Iesu Grist ein Harglwydd a'n Gwaredwr, ac am fywydau i’w cysegru iddo mewn cariad a gwasanaeth:
Diolchwn i ti, O Dduw
EMYN 116 'Nef a daear, tir a môr'
SGWRS
Un o'r rhyfeloedd mwyaf enbyd a gwaedlyd a welodd Ewrop oedd y rhyfel a barodd o 1618–1648, y Thirty Years' War. Yng nghanol y brwydro yn Saxony roedd tref gaerog Eilenburg y byddai pobl yn ffoi iddi am ddiogelwch pan ddeuai'r brwydro'n agos.
Un o blant Eilenburg oedd Martin Rinkart, cerddor dawnus a enillodd ysgoloriaeth i ysgol St Thomas, Leipzig, lle cafodd ei hyfforddi'n gantor ac offeiriad.
Yn 1617 cafodd ei benodi'n archddiacon Eilenberg, yn un o bedwar pastor, sef gweinidog, yn ei dref enedigol, ac yno y bu am weddill ei fywyd. Flwyddyn wedi iddo ddychwelyd cychwynnodd y rhyfel, a threuliodd Martin Rinkart hanner ei oes yn s ˆwn y rhyfela.
Yn 1637 cafwyd achos o'r pla yn Eilenberg, a lledodd fel tân gwyllt. Fe ffodd un o'r gweinidogion i ddiogelwch, a bu farw y ddau arall gan adael Martin Rinkart ar ei
ben ei hun. O fewn dim roedd yn cynnal cymaint â hanner cant o angladdau y dydd, a bu farw bron i bum mil o bobl – gan gynnwys ei wraig ei hun.
Yn 1638, yn dilyn y pla, daeth newyn ac yna gwarchae gan filwyr Sweden. Martin Rinkart berswadiodd pennaeth y fyddin i godi'r gwarchae, ac fe wnaeth hynny eilwaith yn 1639.
Ond nid am ei waith arwrol yn ystod y pla ac yn achub y ddinas y cofir amdano heddiw, ond oherwydd un o'i emynau. Emyn 'bwrdd', hynny yw gras bwyd, oedd hwn yn wreiddiol, ond emyn y byddwn ni'n canu cyfieithiad Cymraeg J. Henry Jones ohono ar yr ˆwyl ddiolchgarwch.
Diolchwn oll i Dduw llaw a llais a chalon, cans rhyfeddodau mawr a wnaeth i ni blant dynion: er dyddiau'n mebyd ni a'n cynnar gamre gwan, di-ri yw'r doniau hael a ddaw'n ddi-baid i'n rhan.
Mae tri phennill yr emyn yn fwrlwm o ddiolchgarwch, ac o gofio'r hanes a'r cefndir, mae'n emyn rhyfeddol.
Beth oedd gan Martin Rinkart i ddiolch amdano? Dyna fyddai llawer yn holi. Byw hanner ei oes yn s ˆwn a chanlyniadau rhyfela, gweld colli ei wraig a miloedd eraill i'r pla, gorfod ysgwyddo cynnal angladdau di-ri a cheisio bugeilio'r teuluoedd trallodus; arwain bywyd cyhoeddus Eilenburg yn wyneb bygythiadau byddin Sweden.
Beth oedd yna mewn difri i ysbrydoli emyn o fawl a diolch mor odidog?
Ond methu dirnad cyfrinach ei fywyd yw gofyn cwestiwn felly. Oherwydd g ˆwr o'r un anian â'r Apostol Paul oedd Martin Rinkart, yn diolch nid am bob peth, ond ym mhob peth. Ac mae yna fyd o wahaniaeth.
Mae yna derfyn yn dod i ddiolch am bob peth, ac mae yna lawer o bethau na fyddem ni, na neb arall, yn breuddwydio diolch amdanynt.
Ond mae'r agwedd meddwl a'r ysbryd sy'n diolch ym mhob peth yn ei gwneud hi'n bosib i ni i ddal i wneud, hyd yn oed pan fo'r pethau pwysicaf ac anwylaf yn llithro o'n gafael.
Meddai'r Apostol Paul yn Rhufeiniaid (Rhuf. 5:3–5):
'Heblaw hynny, yr ydym hyd yn oed yn gorfoleddu yn ein gorthrymderau, oherwydd fe wyddom mai o orthrymder y daw'r gallu i ymddal, ac o'r gallu i ymddal y daw rhuddin cymeriad, ac o gymeriad y daw gobaith.'
A dyma obaith na chawn ein siomi ganddo, oherwydd y mae cariad Duw wedi ei dywallt yn ein calonnau trwy'r Ysbryd Glân y mae ef wedi ei roi i ni.
Ac meddai yn y llythyr at y Philipiaid, wrth ddiolch am rodd garedig yr eglwys, (Php. 4:11–13):
'. . . oherwydd yr wyf fi wedi dysgu bod yn fodlon, beth bynnag fy amgylchiadau. Gwn sut i gymryd fy narostwng, a gwn hefyd sut i fod uwchben fy nigon. Ym mhob rhyw amgylchiadau, yr wyf wedi dysgu'r gyfrinach sut i ddygymod, boed â llawnder neu newyn, â helaethrwydd neu brinder. Y mae gennyf gryfder at bob gofyn trwy yr hwn sydd yn fy nerthu i.'
Mae gennym ni gymaint i ddiolch amdano – fel mae'r cyfan sydd ar y bwrdd yn ei ddangos i ni; o ffrwythau a llysiau i gynnyrch cegin a ffatri; i lyfrau a chylchgronau; i radio a theledu a'r holl gyfarpar technolegol sy'n gwneud bywyd gymaint haws; am gartref ac aelwyd, am deulu a thylwyth a ffrindiau; am ofal a thendans yn ôl y galw a'r angen drwy law doctor, nyrs a gofalwr. Diolch yn wir. Ond diolch fwy am yr un sydd yno i roi i ninnau gryfder at bob gofyn, pan fod y bendithion tymhorol a materol, a'r fendith fwyaf un, iechyd, yn llithro o'n gafael. Yr un sydd wedi ein sicrhau nad oes yna ddim, dim oll a grëwyd, a all ein gwahanu ni oddi wrth ei gariad yn Iesu Grist. A dyna'r testun diolch pennaf o bob un.
GWEDDÏWN
Wrth i ni ddathlu ein digonedd a diolch am ein bwyd, clodforwn di, O Dad, am y cyfan a wnaethost ac am yr hyn oll a roddaist i ni.
Am silffoedd sy'n llwythog a chypyrddau sy'n llawn.
Am yr amrywiaeth o fwyd sydd ar gael, am archwaeth iach a'r modd i'w fodloni. Am bopeth a gynrychiolir yn y gwasanaeth diolchgarwch hwn,
Greawdwr a Chynhaliwr pawb, rhown glod a diolch i Ti.
Am y rhai sy'n cynhyrchu a darparu bwyd, ffermwyr a garddwyr sy’n cydweithio gyda Thi mewn harmoni.
Am bawb yn y gadwyn fwyd o gae i ffatri, o fanwerthwyr i ddarparwyr a defnyddwyr, y naill yn dibynnu ar y llall.
Greawdwr a Chynhaliwr pawb, rhown glod a diolch i Ti.
Am ein gwlad ffrwythlon, amrywiol a hardd, sy’n cyflenwi cymaint o’r hyn sydd ei angen arnom –
ein bwyd, ein d ˆwr, adnoddau ar gyfer diwydiant ac ynni –
ac yn cynnig i ni lecynnau i hamddena, ymlacio ac adnewyddu.
Greawdwr a Chynhaliwr pawb, rhown glod a diolch i Ti. Am gymuned yr eglwys a'r gymuned yr ydym yn byw ynddi, am gyfeillion, cymdogion a chydnabod sydd, gyda'u diddordeb, cefnogaeth, cymwynasgarwch a'u gofal, yn cyfoethogi'n bywyd a rhoi i ni flas ar fyw, ac am efengyl gras a Christ ein Gwaredwr a'th gariad diollwng ynddo ef.
Greawdwr a Chynhaliwr pawb, rhown glod a diolch i Ti.
CYDWEDDÏO
Gawn ni uno yn awr yng ngweddi'r Arglwydd:
'Ein Tad . . .'
EMYN 130 'Pob peth, ymhell ac agos'
Y FENDITH
EMYN 15 'I Dad y trugareddau i gyd'
(H.W.R.)
Oedfa ar Thema: Goleuni
[Mae PowerPoint ar gael ar wefan yr Undeb i gyd-fynd â'r oedfa hon]
[Y cwmni i eistedd mewn hanner cylch o gwmpas bwrdd ac arno un gannwyll fawr wen. Angen sicrhau bod y bwrdd a'r gannwyll yn amlwg.
Cerddoriaeth dawel i chwarae yn y cefndir i gyfleu'r syniad o wawr neu olau. Chwarae'r dôn 'Berwyn' drwyddi unwaith neu ddwy].
EMYN 222 'Tyrd atom ni, O Grëwr pob goleuni'
ARWEINYDD
Croeso cynnes i bawb ohonoch chi; mae'n hyfryd eich gweld a chael eich cwmni. Fel y gwelwch chi, mae gyda ni gannwyll wen ar y bwrdd yn y canol, ac yn y funud byddwn yn ei chynnau.
Dod ynghyd i addoli Duw wnaethon ni, ac i foliannu ei enw, ac un ffordd o wneud hynny yw drwy adrodd salm. Dewch i ni ddweud gyda'n gilydd salm a ddysgwyd i ni yn blant, y ganfed salm.
Cyd-ddweud Salm 100
ARWEINYDD
Mae goleuo cannwyll yn hen, hen draddodiad yn yr eglwys, a hynny nid jest er mwyn cael golau, ond fel ffordd i rannu'r neges mai goleuni yw Duw, ac fel arwydd o bresenoldeb Duw gyda'i bobl. Mae'r gannwyll olau yn dweud bod Duw gyda ni bob amser – pa mor dywyll bynnag y mae arnom ambell dro.
[Goleuo'r gannwyll tra bod yr adnodau'n cael eu darllen]
ADNODAU
Yn y dechreuad y creodd Duw y nefoedd a'r ddaear . . . A Duw a ddywedodd, 'Bydded goleuni', a goleuni a fu. A Duw a welodd y goleuni, mai da oedd. (Genesis 1:3–4a; Beibl WM)
Goleuni yw Duw ac nid oes ynddo ef ddim tywyllwch . . . os rhodiwn yn y goleuni, fel y mae ef yn y goleuni, y mae gennym gymundeb â'n gilydd. (1 Ioan 1:5b;7; BCN)
GWEDDI
Am hyfryd olau'r dydd, Dyrchafwn glodydd glân I Ti, O Dduw, – dy ddoniau sydd yn haeddu newydd gân; Am nawdd dy adain gref, Yn nhywyll oriau'r nos, Ein mawl ddyrchafwn hyd y nef I Ti, bob dydd o'n hoes.
Diolch i ti, o Dduw ein Tad, am gyfle i addoli ac i fwynhau cwmni'n gilydd yma nawr, gan gofio hefyd dy fod ti gyda ni ac yn ein cydio ynghyd yn un teulu ynot ti.
Bendithia ein cymdeithas ac arwain ni, drwy dy Ysbryd, i addoli mewn ysbryd a gwirionedd. Clyw ein gweddi yn enw Iesu a'n dysgodd i weddïo drwy ddweud Ein Tad . . .
EMYN
[Bydd angen taflen gyda geiriau'r emyn arni neu ddefnyddio'r PowerPoint]
Ciliodd pob seren draw o’r ffurfafen;
Gwenu mae'r heulwen ar doriad dydd;
Llysiau a blodau, pawb yn dihuno,
Golau sy'n agor
Llygaid y dydd.
Ceiliog yn clochdar, adar yn trydar,
Canant yn gynnar ar doriad dydd;
Dweud maent am neges
gwawr y goleuni, Sôn am ddeffroad bywyd y dydd.
Deuwn i foli Duw pob daioni Am fod goleuni ar doriad dydd; Mwy yw ein moliant am heulwen Iesu, Golau ein bywyd ydyw pob dydd. Carey Jones (Emyn 134, Caniedydd yr Ifanc)
DARLLENIADAU
Yn y dechreuad yr oedd y Gair; yr oedd y Gair gyda Duw, a Duw oedd y Gair.
Yr oedd ef yn y dechreuad gyda Duw.
Daeth pob peth i fod trwyddo ef; hebddo ef ni ddaeth un dim sydd mewn bod.
Ynddo ef yr oedd bywyd, a'r bywyd, goleuni dynion ydoedd.
Y mae'r goleuni yn llewyrchu yn y tywyllwch, ac nid yw'r tywyllwch wedi ei drechu ef.
Ioan 1:1–5 (BCN)
Yna llefarodd Iesu wrthynt eto. 'Myfi yw goleuni'r byd,' meddai. 'Ni fydd neb sy'n fy nghanlyn i byth yn rhodio yn y tywyllwch, ond bydd ganddo oleuni'r bywyd.' Ioan 8:12
Dywedodd Iesu wrthynt, 'Am ychydig amser eto y bydd y goleuni yn eich plith. Rhodiwch tra bo'r goleuni gennych, rhag i'r tywyllwch eich goddiweddyd. Nid yw'r sawl sy'n rhodio yn y tywyllwch yn gwybod lle y mae'n mynd. Tra bo'r goleuni gennych, credwch yn y goleuni, ac felly plant y goleuni fyddwch.' Ioan 12:35–36a
SGWRS
[Os yw'n bosib, ceisiwch gael gafael ar y math o ganhwyllbren 'soser' sydd â dolen arni i'w chario, a chopi mor fawr â phosib o 'Light of the World' Holman Hunt, neu ddelwedd o'r darlun ar PowerPoint]
Mae'n mynd yn dipyn bach o banig yn ein tˆy ni pan fydd y trydan yn methu – nid oherwydd ofn y tywyllwch, ond oherwydd methu dod o hyd i'r canhwyllau a'r matsys.
Yng nghyfnod plentyndod ac ieuenctid llawer ohonom, roedd y gannwyll a'r lamp olew a'r matsys wrth law o hyd, a ninnau'n cario canhwyllbren tebyg i hwn i arwain y ffordd i'r gwely.
A dyna wahaniaeth mae un gannwyll fach yn gallu'i wneud.
Mae yna ddihareb o Tsieina sy'n dweud, 'Gall un gannwyll alltudio'r nos'.
Wel, yng nghyfnod ein plentyndod, cyn bod trydan yn ein cartrefi, roedd lle i ddiolch gyda ni i gyd am y gannwyll a'i golau.
Darlun enwog, a chyfarwydd iawn ar un adeg, yw darlun Holman Hunt o Iesu Grist yn sefyll yn curo ar ddrws â'i law dde, gyda llusern a channwyll ynddi yn ei law chwith. Teitl y darlun yw 'Light of the World' neu 'Goleuni'r Byd'.
[Dangos copi o'r darlun]
Mae yna hanes diddorol i'r darlun. Yn ôl Holman Hunt ei hun, fe'i paentiodd 'ar orchymyn dwyfol,' hynny yw roedd yn credu ar ei galon bod Duw am iddo greu'r darlun, ac mae'r un gwreiddiol yng nghapel Coleg Keble, Rhydychen. Yna fe baentiodd Hunt ail fersiwn – un llai, sydd yn oriel gelf dinas Manceinion.
Daeth y darlun yn enwog iawn a phobl yn tyrru i'w weld yn Rhydychen. Ond am fod y coleg yn codi tâl ar bobl oedd am ei weld, fe baentiodd Holman Hunt drydydd fersiwn llawn maint a aeth ar daith o gwmpas y byd o 1905 hyd 1907, ac a gyflwynwyd wedyn i gadeirlan Sant Paul yn Llundain.
Mae'r darlun yn seiliedig ar eiriau o Lyfr y Datguddiad:
Wele, yr wyf yn sefyll wrth y drws ac yn curo; os clyw rhywun fy llais ac agor y drws, dof i mewn ato a swperaf gydag ef, ac yntau gyda minnau.
Mae yna bethau diddorol iawn i sylwi arnynt yn y darlun; mae'r drws wedi'i orchuddio gan iorwg – hynny yw, does neb wedi ei agor ers amser; does yna ddim dolen na chlicied i'w gweld ar y drws – dim ond o'r tu fewn y gellid ei agor – ond y peth trawiadol yw nad o'r llusern yn unig y mae'r golau'n tywynnu, ond o ffigwr Iesu ei hun.
A dyna oedd Holman Hunt am i bawb oedd yn edrych ar y darlun ei weld a'i ddeall, mai Iesu ei hun yw goleuni'r byd.
Mae geiriau Iesu'n goleuo ffordd bywyd – 'llusern yw dy air i'm troed a llewyrch i'm llwybr.'
Mae gweithredoedd Iesu yn rhai golau, glân – ac yn gweddnewid bywyd pawb.
Ond Iesu ei hun yw'r goleuni, a pa faint bynnag yw'r tywyllwch, pan ei bod yn fagddu arnom, yn ei gwmni ef mae yn olau.
Meddai Elfed yn ei emyn cyfarwydd, 'Mae yn olau ond cael gweld dy wyneb di'.
Byddai Holman Hunt, a llawer un arall, yn dweud, 'Mae yn olau ond im gael dy gwmni di'. Ac o gael ei gwmni, ein braint ni yw rhannu'r golau i oleuo'r ffordd i eraill.
Yng ngeiriau Paul:
Tywyllwch oeddech chwi gynt, ond yn awr goleuni ydych yn yr Arglwydd. Byddwch fyw fel plant goleuni, oherwydd gwelir ffrwyth y goleuni ym mhob daioni a chyfiawnder a gwirionedd. Gwnewch yn si ˆwr beth sy'n gymeradwy gan yr Arglwydd.
(Effesiaid 5:8–10)
GWEDDI
O Dduw ein Tad, diolch i ti am fendith goleuni ac am fedru gweld golau'r haul, y lleuad a'r sêr, a'r harddwch y mae eu goleuni hwy yn ei ddangos i ni yn dy fyd rhyfeddol. Cofiwn am y rhai y mae eu byd yn dywyll am na allant weld nag awyr las na chwmwl, na lliwiau'r coed na'r blodau, na gwên plentyn nac wynebau anwyliaid. Ond, fel y gwyddom ein Tad, i lawer o bobl sy'n gallu gweld mae'n byd yn un tywyll iawn. Fe gofiwn am y rhai sydd yn nhywyllwch rhyfel a thrais, tlodi a newyn, salwch ac afiechyd, galar a hiraeth. Diolch i ti am bawb sy'n ceisio goleuo'u sefyllfa; y gweithwyr mudiadau dyngarol sy'n rhannu bwyd ac yn helpu ceiswyr lloches, y rhai sy'n rhedeg banciau bwyd, y nyrsys a'r doctoriaid a gweithwyr y gwasanaeth iechyd, gofalwyr cartrefi gofal ac aelwydydd.
Diolch am y consýrn, y gofal a'r tendans sy'n goleuo bywydau llawer ac, fe gredwn, yn fynegiant o dosturi, consýrn a chariad yr Iesu.
Rho dy fendith ar bawb sy'n trio gwneud ein byd yn decach a goleuach byd, ac agor ein llygaid i weld o'r newydd yr un sydd o hyd yn Oleuni'r Byd, Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
EMYN 774 'Mi glywais lais yr Iesu'n dweud'
Y FENDITH
Dduw y goleuni, nid yw’r tywyllwch yn dywyllwch i ti.
Llewyrcha yn ein tywyllwch oleuni bywyd.
Lle bynnag y mae'n dywyll, boed i'th oleuni di ddod â gobaith ac iachâd.
Llewyrcha yn ein tywyllwch oleuni ein bywyd,
'fel bo golau cariad Iesu yn disgleirio dros y byd'. Amen.
(H.W.R.)
Oedfa ar Thema: Dwylo
[Pawb i eistedd mewn hanner cylch o gwmpas bwrdd]
[Gosod llun neu ddelwedd o 'Praying Hands', Albrecht Dürer, ar y bwrdd yng ngolwg pawb. Mae PowerPoint ar gael ar wefan yr Undeb i gyd-fynd â'r oedfa hon.]
ARWEINYDD
EMYN 788 'O Dduw ein Tad' (Penillion 1 a 2 yn unig)
Curwch ddwylo, yr holl bobloedd; rhowch wrogaeth i Dduw â chaneuon gorfoledd.
Oherwydd y mae'r ARGLWYDD, y Goruchaf, yn ofnadwy, yn frenin mawr dros yr holl ddaear.
(Salm 47:1–2)
Ond tydi, O ARGLWYDD, yw ein tad; ni yw'r clai a thi yw'r crochenydd; gwaith dy ddwylo ydym i gyd. (Eseia 64:8)
Ond yr wyf yn ymddiried ynot ti, ARGLWYDD, ac yn dweud, 'Ti yw fy Nuw.'
Y mae f'amserau yn dy law di . . .
(Salm 31:14–15a)
CROESO
Croeso cynnes iawn i bob un ohonoch chi i'r oedfa. Mae'n dda eich gweld a chael eich cwmni. Un o'r pethe cyntaf fyddwn yn wneud wrth gwrdd â'n gilydd yw codi llaw ac ysgwyd dwylo neu gofleidio, a'r defnydd syml hynny o'n dwylo'n cyfleu gymaint; yn arwydd o groeso a chyfeillgarwch a pherthynas rhyngom ni a'n gilydd.
Yn yr oedfa heddiw, rydyn ni'n mynd i feddwl am bwysigrwydd dwylo yn ein hanes ni i gyd.
Mae'r salmydd yn galw arnom ni i guro dwylo mewn mawl i Dduw.
Mae'r salmydd hefyd yn Salm 8 yn rhyfeddu at waith dwylo Duw, ac yn rhyfeddu fwy ei fod yn ein cofio ni bob un a'n gwneud yn bartneriaid iddo yn ei fyd.
Gadewch i ni gydadrodd y salm yn awr.
Cydadrodd Salm 8 'Arglwydd ein Iôr ni, mor ardderchog yw dy enw ar yr holl ddaear'
Beth am i ni ddilyn yr arfer a ddysgwyd i ni yn ein plentyndod, a rhoi'n dwylo ynghyd wrth i ni gydweddïo yn awr?
GWEDDI
Diolch i ti, O Dduw ein Tad, am y cyfle i gwrdd â'n gilydd unwaith eto.
Estyn dy law atom yn awr, yw'n gweddi, i fendithio'n cymdeithas, i arwain ein haddoliad ac i gysgodi drosom yn dy gariad.
Gofynnwn hyn yn enw Iesu a'n dysgodd i weddïo drwy ddweud gyda'n gilydd, 'Ein Tad . . .'
Gweddi'r Arglwydd
EMYN 372 'Dwylo ffeind oedd dwylo Iesu ym mhob man'
DARLLENIADAU
Daeth dyn gwahanglwyfus ato ac erfyn arno ar ei liniau a dweud, 'Os mynni, gelli fy nglanhau.'
A chan dosturio, estynnodd ef ei law a chyffwrdd ag ef a dweud wrtho, 'Yr wyf yn mynnu, glanhaer di.' Ymadawodd y gwahanglwyf ag ef ar unwaith, a glanhawyd ef.
(Marc 1:40–42)
Daethant i Bethsaida. A dyma hwy'n dod â dyn dall ato, ac yn erfyn arno i gyffwrdd ag ef.
Gafaelodd yn llaw'r dyn dall a mynd ag ef allan o'r pentref, ac wedi poeri ar ei lygaid rhoes ei ddwylo arno a gofynnodd iddo, 'A elli di weld rhywbeth?' Edrychodd i fyny, ac meddai, 'Yr wyf yn gweld pobl, maent yn edrych fel coed yn cerdded oddi amgylch.'
Yna rhoes ei ddwylo drachefn ar ei lygaid ef. Craffodd yntau, ac adferwyd ef; yr oedd yn gweld popeth yn eglur o bell. (Marc 8:22–26)
Pan ddaeth i dˆy Pedr, gwelodd Iesu ei fam-yng-nghyfraith ef yn gorwedd yn wael dan dwymyn. Fe gyffyrddodd â'i llaw, a gadawodd y dwymyn hi, ac fe gododd a dechrau gweini arno. Gyda'r nos, daethant â llawer oedd wedi eu meddiannu gan gythreuliaid ato, ac fe fwriodd allan yr ysbrydion â'i air, ac iacháu pawb oedd yn glaf; fel y cyflawnid y gair a lefarwyd trwy Eseia'r proffwyd: 'Ef a gymerodd ein gwendidau ac a ddug ymaith ein clefydau.' (Math. 8:14–17)
Yr oeddent yn dod â phlant ato, iddo gyffwrdd â hwy. Ceryddodd y disgyblion hwy, ond pan welodd Iesu hyn aeth yn ddig, a dywedodd wrthynt, 'Gadewch i'r plant ddod ataf fi; peidiwch â'u rhwystro, oherwydd i rai fel hwy y mae teyrnas Dduw yn perthyn. Yn wir, rwy'n dweud wrthych, pwy bynnag nad yw'n derbyn teyrnas Dduw yn null plentyn, nid â byth i mewn iddi.' A chymerodd hwy yn ei freichiau a'u bendithio, gan roi ei ddwylo arnynt. (Marc 10:13–16)
SGWRS
Rydyn ni i gyd yn gyfarwydd â'r darlun neu'r ddelwedd o ddwylo mewn ystum gweddi. 'A Study for the hands of an Apostle' yw'r enw swyddogol ar y darlun gwreiddiol, ond ers blynyddoedd lawer fe ddaeth i gael ei adnabod fel 'Praying Hands' – Dwylo mewn ystum gweddi.
Meddyliwch am ein defnydd ni o'n dwylo; chwifio ac ysgwyd dwylo i gyfarch, curo dwylo mewn cymeradwyaeth; estyn dwylo i wasanaethu; agor dwylo i helpu a gofalu, i gofleidio a chwtsio.
Meddyliwch am y dwylo yr ydyn ni'n dibynnu arnyn nhw'n feunyddiol; dwylo'r amaethwyr a'r garddwyr i gynhyrchu bwyd; dwylo'r morwyr a'r gyrwyr sy'n cludo nwyddau ar draws y byd; dwylo'r siopwyr a'r gwerthwyr nwyddau o bob math; dwylo'r adeiladwyr, yn benseiri a chynllunwyr; yn seiri coed a maen; yn drydanwyr a phlymwyr; dwylo'r rhai sy'n cyfoethogi'n bywyd drwy eu creadigrwydd, yn feirdd a llenorion a dramodwyr, yn actorion a pherfformwyr ar lwyfan a theledu; a'r cwmni hynny sydd wedi cysegru eu dwylo i'n gwasanaethu mewn meddygfa ac ysbyty, yn ddoctoriaid a nyrsys, ffisiotherapyddion a fferyllwyr, glanhawyr a chludwyr, a holl weithwyr amrywiol y gwasanaeth iechyd.
Lle fydden ni heb waith a gwasanaeth dwylo?
Yn y gyfrol Ysgrifau yr Hanner Bardd a enillodd y Fedal Ryddiaith i'r Prifardd Dafydd Rowlands yn eisteddfod Hwlffordd yn 1972, teitl un o'r ysgrifau yw 'Y Ddau Grwt'. Roedd yr awdur ar ei ffordd i'r coleg yng Nghaerfyrddin yn ei gar un bore, ac yng nghyffiniau Gelli Aur gwelodd ddau grwt yn symud i ddiogelwch erchwyn y ffordd wrth iddo frysio heibio. Welodd e erioed mohonyn nhw wedyn, ond roedd y cipolwg ohonynt wedi aros yn hir yn y cof:
Roedd y naill yn gafael yn llaw y llall, y mwyaf yn gafael yn llaw y lleiaf, y naill yn gofalu am y llall . . . am wn i nid y dwylo ei hun a afaelodd ynof yn gymaint â'r cydiad dwylo, plethu clòs y bysedd, symbol y berthynas rhwng dau, cwlwm y gofal . . . Er mai plant oeddent, bodau bychain yng ngwawr eu byw, roedd yno yn eu dwylo gynhesrwydd y berthynas sy'n llenwi gwacter pob unigrwydd a chyfannu tristwch bob bwlch.
Mae yna lu o hanesion yn yr Efengylau am Iesu'n estyn ei law at bobl. Pob math o bobl dan bob math o anghenion ac amgylchiadau – hyd yn oed y gwahangleifion, y cwmni esgymun yn nyddiau'r Iesu. Nid un i gadw draw o neb nac unrhyw gwmni oedd Iesu Grist.
Mae gan Elfed emyn sy'n sôn am hynny; efallai y byddwch yn ei gofio o ddyddiau Caniedydd Newydd yr Ysgol Sul (141) a Caniedydd yr Ifanc (65).
Yr Iesu a gerddai o amgylch y wlad, Ei air yn oleuni, Ei law'n dwyn iachâd; Ar wneuthur daioni i bawb roedd ei fryd – A heddiw Efe yw Gwaredwr y byd.
Yng ngwledd y briodas y d ˆwr droai'n win;
Ei gysur gyfrannai i'r llwythog a'r blin;
Pob poen a phob dolur, pob ofn a phob braw
A giliai dan dyner gyffyrddiad ei law.
Bydda i'n hoffi meddwl nad dim ond estyn ei law a chyffwrdd y gwahanol rai a ddaeth ar ei ofyn wnaeth Iesu. Mae Mathew a Marc yn dweud iddo gymryd plant i'w freichiau a'u cofleidio. Rwy'n ei weld felly gyda phobl hefyd; yn rhoi braich am ysgwydd, yn cofleidio, yn cwtsio ambell un, ac yn ei ddwylo, i ddyfynnu Dafydd Rowlands, 'gynhesrwydd y berthynas sy'n llenwi gwacter pob unigrwydd a chyfannu tristwch bob bwlch'.
Alla i ddim meddwl am Iesu ond fel un felly. Mae peth mor syml â chyffyrddiad llaw yn gallu dweud a golygu cymaint.
Rydym ni i gyd yn gwybod am werth dwylo. Ein dwylo ein hunain, a dwylo pobl eraill. Ac ar hyd ein hoes rydyn ni wedi dibynnu ar waith dwylo sydd wedi troi'n fendith i ni.
Alla i ddim chwaith beidio â meddwl mai felly y mae Iesu am i'n dwylo ninnau fod.
GWEDDI
O Dduw ein Tad, derbyn ein diolch yn awr am fendithion y dydd yma, bendith cartref clyd a chysurus,
bendith bwyd a dillad a chysuron bywyd, bendith cwmni a gofal anwyliaid, ffrindiau a gofalwyr,
yn fwy na dim, bendith yr iechyd sydd wedi caniatáu i ni fod yma gyda'n gilydd.
Diolch am gael rhannu, unwaith eto, yr hanesion am Iesu yn defnyddio'i ddwylo i estyn mewn bendith at eraill, i roi golwg i’r dall a chlyw i’r byddar ac iechyd i’r claf,
i dderbyn plant bychain, i groesawu'r unig a'r trist, i roi i’r anghenus a’r tlawd.
Diolchwn i ti am bawb sydd heddiw yn dilyn Iesu drwy estyn llaw at eraill dan bob math o amgylchiadau, a'u cyffyrddiad yn troi'n fendith i rai o'r mwyaf anghenus o dy blant di.
Fe gofiwn, ein Tad, mai ein dwylo ni yw dy ddwylo di yn ein byd heddiw, ac o'u rhoi i ti, fe all ein dwylo ninnau, fel dwylo Iesu gynt, fod yn gyfrwng bendith i eraill. Gweddïwn am dy fendith ar ddwylo caredig, cymwynasgar a gwasanaethgar lle bynnag y maent yn parhau gwaith yr Iesu ac yn amlygu dy gariad di. Clyw ein gweddi yn ei enw a'i haeddiant Ef. Amen
EMYN 758 'Pan fwyf yn teimlo'n unig lawer awr'
Y FENDITH
(H.W.R.)
Oedfa ar Thema: Adnabod
ARWEINYDD
[Cyfarch a chroesawu pob un]
Fy enw i yw [dweud eich enw] a fi sy'n arwain yr oedfa heddiw.
Mae enw'n bwysig, on'd yw e? Ein rhieni roddodd ein henwau arnom, ac maen nhw wedi bod gyda ni erioed. Wrth ein henwau mae'r bobl sydd agosaf atom yn ein hadnabod, a ninnau wrth gwrs yn eu hadnabod hwythau wrth eu henwau.
Yn Stori'r Creu yn Llyfr Genesis, mae Duw yn caniatáu i Adda roi enw ar yr holl greaduriaid roedd Duw wedi eu creu, ac wrth yr enw hwnnw y byddant yn cael eu hadnabod. Mae'r salmydd hefyd yn dweud am Dduw, 'Yr wyf yn adnabod holl adar yr awyr, ac eiddo fi holl greaduriaid y maes.' (Salm 50:11)
Dywedodd Iesu wrth ei ddisgyblion, 'Oni werthir pum aderyn y to am ddwy geiniog? Eto nid yw un ohonynt yn angof gan Dduw. Yn wir, y mae hyd yn oed pob blewyn o wallt eich pen wedi ei rifo. Peidiwch ag ofni; yr ydych yn werth mwy na llawer o adar y to.' (Luc 12: 6–7).
Mae Duw yn ein hadnabod ni. Fe ganwn ni emyn sy'n sôn am hyn. Emyn roeddem ni'n ei ganu pan oeddem yn blant, ond mae yna wirionedd pwysig ynddo i bob un ohonom wrth feddwl am Dduw a'i berthynas â ni.
EMYN 157 'Mae'r Arglwydd yn cofio y dryw yn y drain'
[Awgrymir canu'r ddau bennill cyntaf a'r cytgan]
ARWEINYDD
Mae'r penillion yn sôn am berthynas Duw gyda'i holl greaduriaid a'i ofal amdanynt, ac mae'r cytgan yn ein hatgoffa am faint ei ofal drosom ni.
Beth am ganu'r cytgan unwaith eto?
Rhown foliant i Dduw am ein cadw ninnau'n fyw, am fwyd ac am ddillad moliannwn ein Duw; rhown foliant i Dduw am ein cadw ninnau'n fyw, am fwyd ac am ddillad moliannwn, moliannwn ein Duw.
Fe wrandawn ni nawr ar salm sy'n dweud am ddyfnder adnabyddiaeth Duw ohonom.
Salm 139 yw hi, ac fe fydd [dweud yr enw] yn darllen y salm i ni.
Mae'n werth clywed y frawddeg olaf yna unwaith eto,
'Yr wyt yn fy adnabod mor dda.'
Mae Duw yn gwybod ac yn deall y cyfan amdanom, ond nid rhywbeth i'w ofni yw hyn. 'Duw cariad yw,' medd yr adnod gyfarwydd, ac mewn cariad y mae Duw yn ymwneud â ni bob amser.
Gadewch i ni ganu emyn arall, lle mae Elfed yn sôn am yr hyn y mae adnabyddiaeth Duw ohonom yn ei olygu i ni.
EMYN 208 'Yr Arglwydd a feddwl amdanaf'
ARWEINYDD
Stori o'r Testament Newydd gawn ni nesaf, gyda [dweud yr enw] yn ei darllen i ni.
DARLLENIAD LUC 10: 38–42 'Yng nghartref Martha a Mair'
ARWEINYDD
Mae'r stori'n ein cyflwyno ni i rai o ffrindiau agosaf Iesu, sef Martha a Mair, oedd yn byw ym mhentref Bethania, heb fod yn bell o Jerwsalem. Roedd ganddyn nhw frawd hefyd 'ndoedd, sef Lasarus.
Mae'r ffaith fod Iesu'n galw yno ac yn aros gyda hwy yn dangos yr agosrwydd oedd rhyngddyn nhw, ac mae sawl stori arall am berthynas Iesu â'r teulu'n cadarnhau hyn.
Rydym i gyd wedi clywed y stori am Mair yn dangos ei hoffter hi o Iesu drwy dywallt ennaint gwerthfawr drosto a sychu ei draed â'i gwallt. A beth am y tro hwnnw pan gymerwyd Lasarus yn ddifrifol wael? Fe anfonodd ei chwiorydd neges at Iesu, 'Y mae dy gyfaill, Syr, yma'n wael.' Er bod Iesu'n gwybod ei fod yn peryglu ei fywyd, mae'n mynnu mynd i Fethania atynt, a phan ddeallodd fod Lasarus wedi marw roedd ef 'o dan deimlad dwys'. Oes, mae digon o dystiolaeth fod Iesu a theulu Bethania yn agos iawn at ei gilydd.
Peth braf yw cael ffrindiau agos. Pobl rydym yn meddwl y byd ohonynt, a'r cyfeillgarwch sydd rhyngom yn cyfoethogi ein bywydau'n fawr. Rhai sy'n ein hadnabod yn dda ac yn fawr eu gofal ohonom.
Gadewch i ni aros am funud a meddwl am y bobl hynny sy'n bwysig yn ein bywydau ni [munud neu ddau o dawelwch]. Diolchwn amdanynt mewn gweddi.
GWEDDÏWN
Dduw ein Tad, rydym am ddiolch i ti am y cyfeillion sydd gennym, a phob perthynas o gariad ac ymddiriedaeth sydd rhyngon ni ag eraill.
Diolch am bobl sy'n ein hadnabod ni'n dda, yn gwybod am ein rhagoriaethau a’n gwendidau,
ac yn fawr eu cariad tuag atom drwy'r cyfan.
Diolch am rhai y gallwn ni ddibynnu arnynt i ddeall
i gydymdeimlo
i gefnogi
i helpu
i rannu cwmni
i ofalu.
Diolch am bob un sy'n dangos cyfeillgarwch Iesu ac sy'n gyfrwng i'th gyfeillgarwch dwyfol di. Amen
ARWEINYDD
Dewch yn ôl at y stori. Gwelwn fod y ddwy chwaer yn ymateb i ymweliad Iesu mewn ffyrdd gwahanol. Mae Mair yn credu mai'r ffordd orau i ddangos ei chroeso a'i hoffter o Iesu yw treulio cymaint o amser ag y gall hi yn ei gwmni. Dod i'w adnabod yn well drwy eistedd, gwrando a dysgu.
Mae Martha, ar y llaw arall, yn credu mai paratoi ar gyfer Iesu yw'r ffordd orau i ddangos cyfeillgarwch. Dyna'r ffordd i wneud i Iesu deimlo ei fod yn cael croeso. Mwy na hynny, dydi Martha ddim yn gallu deall pam nad yw Mair yn gweld pethau yn yr un ffordd, ac mae'n ymbil ar Iesu i roi st ˆwr i'w chwaer am beidio â helpu.
Rwy'n hoffi'r ffordd mae cyfieithiad beibl.net yn dweud fod Iesu'n cyfarch Martha – 'Martha annwyl'. Onid yw'n dweud y cwbl am ei berthynas â hi a'i adnabyddiaeth ohoni? Mae Iesu'n mynd yn ei flaen, 'rwyt ti'n poeni ac yn cynhyrfu am y pethau yna i gyd', ond nid beirniadaeth na cherydd yw hyn. Dyma un sy'n adnabod ac yn deall natur y person mae'n siarad â hi, fel y mae'n adnabod ac yn deall pob un ohonom, ac mae'n delio â ni gyda'r un tynerwch ac anwyldeb ag a ddangoswyd tuag at Martha.
Yn y salm a ddarllenwyd, mae'r salmydd yn dweud, 'yr wyt wedi deall fy meddwl o bell . . . ac yr wyt yn gyfarwydd â'm holl ffyrdd.'
Sylwch, 'Fy holl ffyrdd'. Mae hynny'n ddiddorol, oherwydd mae ffyrdd pob un ohonom yn gallu amrywio. Mae'r emynydd yn sôn am 'rhodio'r llwybr cul', ac weithiau daw hynny'n rhwydd. Ond y mae'r un mor rhwydd hefyd i grwydro oddi ar y ffordd; i golli'n ffordd; i gymryd y ffordd anghywir; i gyrraedd croesffordd; i ddod i ben y ffordd ac yn y blaen. Ond pa ffordd bynnag rydym yn cael ein hunain arni, mae Iesu'n deall ac yn ein cyfeirio ni'n ôl mewn cariad ato ef a'i ffordd ef. Fel mae'n gwneud fan hyn gyda Martha.
Roedd Martha wedi ei llethu gan y tasgau roedd hi'n teimlo bod yn rhaid iddi hi eu gwneud er mwyn croesawu Iesu. Mae'n si ˆwr ein bod ni gyd yn gwybod am y profiad yna. Cymaint i'w wneud, a chyn lleied o amser i'w wneud e! Cyfrifoldebau, dyletswyddau, galwadau, gofalon, pryderon yn pentyrru yn ein bywyd, a ninnau ddim yn gwybod ble i ddechrau delio â nhw.
Ar adegau felly mae Iesu, yr un sy'n ein hadnabod, yn ein cyfarch yn annwyl ac yn dyner gan dawelu ein hofnau a'n gwahodd i rannu cwmni gydag ef.
Fel y dywedodd un tro wrth ei ddisgyblion, 'Dewch ataf fi, bawb sy'n flinedig ac yn llwythog, ac fe roddaf fi orffwystra i chwi. Cymerwch fy iau arnoch a dysgwch gennyf, oherwydd addfwyn ydwyf a gostyngedig o galon, ac fe gewch orffwystra i'ch eneidiau. Y mae fy iau i yn hawdd ei dwyn, a'm baich i yn ysgafn.'
GWEDDÏWN
O Dduw, cyflwynwn i ti bob un heddiw sy'n dyheu am dawelwch meddwl:
pob un sydd mewn pryder a gofid;
pob un sy'n drist ac yn teimlo'n ddigalon;
pob un sydd dan bwysau gwaith a'u cyfrifoldebau'n pwyso'n drwm arnynt;
pob un sy'n teimlo cywilydd ac euogrwydd;
pob un sydd mewn gwendid, llesgedd a phoen;
O Dduw, amgylchyna hwy â'th gariad a rho iddynt fendith dy dangnefedd.
Yn enw Iesu, yr un a ddysgodd ei ddisgyblion i weddïo drwy ddweud,
Ein Tad . . .
EMYN 320 'Iesu, Iesu, rwyt ti'n ddigon'
Y FENDITH
Arglwydd Iesu, rho dy fendith arnom a chadw ni yn wastad yn llawenydd dy bresenoldeb ac yng nghwlwm dy gyfeillgarwch Amen.
(R.W.S.)
Dwy Oedfa Gymun Gartref
(A) 'Y Mawr a'r Bach'
[Gellid sgwrsio am ychydig wrth osod yr elfennau. Y ffordd hawsaf i ddechrau ydi trwy wahodd pawb i gydweddïo Gweddi'r Arglwydd, neu fe allai un o'r cwmni ddarllen emyn (er enghraifft 653; 305; 312 neu 49). Wedi hynny, darllen o'r ysgrythur.]
DARLLENIAD 1 Corinthiaid 11:23–26 a Mathew 6:25–34
[Gellid darllen y myfyrdod hwn wedyn]
MYFYRDOD
Am y gair hwnnw o eiddo Iesu, 'Ond ceisiwch yn gyntaf deyrnas Dduw a'i gyfiawnder ef, a rhoir y pethau hyn i gyd yn ychwaneg i chwi,' dywedir fod ffurf arall arno'n cael ei ddefnyddio gan yr Eglwys Fore. Dyma fe: 'Gofynnwch am y mawr, a'r manion a ychwanegir i chwi.'
Erbyn meddwl, mae'r ffurf honno'n gwneud cyfiawnder llawn â'r pwynt dan sylw gan Iesu yn ychydig adnodau olaf y chweched bennod o Efengyl Mathew. Cyferbynnu Teyrnas Dduw a'i gyfiawnder ef y mae Iesu, â gofynion materol bywyd, 'Beth yr ydym i'w fwyta?' neu 'Beth yr ydym i'w yfed?' neu 'Beth yr ydym i'w wisgo?'.
Iesu fyddai'r olaf i ddweud bod yn rhaid dewis rhwng y ddau; rhwng yr ysbrydol a'r materol.
Mewn byd fel hwn, nid oes ystyr i ddewis felly. Na, nid mater o ddewis ydyw, ond mater o benderfynu beth sy'n fawr, ac felly'n hawlio'r flaenoriaeth, a beth sydd, mewn cymhariaeth, yn fach. Gwyliwch, meddai, rhag gwneud y mawr yn fach, a'r bach yn fawr. 'Gofynnwch am y mawr, a'r manion a ychwanegir i chwi.'
Mae i'r ffurf arall yma neges arbennig ar gyfer ein dyddiau ni. Aethom ati i geisio cyfrif am bob mawredd, ei esbonio'n dwt, a'r diwedd fu ei fychanu. Peidiodd y
mawr â bod yn fawr, ac i nifer fawr o bobl nid yw bywyd drwyddo i gyd yn ddim ond casgliad o fanion. Pentyrru manion yw'r unig uchder sy'n bosibl. Rhaid dysgu eto: 'Gofynnwch am y mawr, a'r manion a ychwanegir i chwi.' Wrth siarad am Deyrnas Dduw, y peth mwyaf a wnaeth Iesu oedd, nid ei ddiffinio, nid ei mesur, nid cyfrif amdani, ond cyfleu ei mawredd bendigedig; a pheri i ti a minnau dorri allan i ganu:
O! uchder heb ei faint,
O! ddyfnder heb ddim rhi',
O! led a hyd heb fath
Yw'n hiachawdwriaeth ni.
[Yna, cyn rhannu'r bara, gwahodd pawb i gydweddïo, ac yna un o'r cwmni i ddarllen y weddi isod]
GWEDDI DROS Y BARA
Arglwydd Iesu, ein Gwaredwr a'n brenin, diolch am fendithion a phosibiliadau'r ychydig funudau hyn wrth dy fwrdd, yng nghwmni'n gilydd.
Diolch i ti y cawn ddod atat yn ein tristwch a'n gofid, a derbyn cysur a chymorth.
Diolch i ti y cawn ddod atat yn wan ein ffydd ac yn isel ein hysbryd, a derbyn dy nerth i'n gwneud yn gryf.
Diolch i ti y cawn ddod atat yn ein llawenydd, a derbyn dy fendith a'th arweiniad.
Diolch i ti y cawn ddod atat yn fud i wrando dy lais yn llefaru wrthym.
[Dosbarthu'r bara, ac yna dweud:]
Cymerodd Iesu fara, ac wedi diolch i Dduw amdano, fe'i torrodd a dweud, 'Hwn yw fy nghorff a dorrir er eich mwyn chi, cymerwch a bwytewch er cof amdanaf . . .'
[Cyfranogi o'r bara]
[Cyn rhannu'r gwin, gwahodd pawb i gydweddïo, ac yna un o'r cwmni i ddarllen y weddi ganlynol:]
GWEDDI DROS Y GWIN
Arglwydd Iesu, ein gwaredwr a'n brenin, diolchwn i ti am dy gariad a'th ras ac am y breintiau a ddaw i ni o'th fywyd a'th angau drud:
Daethost yn dlawd er mwyn i ni gael ein gwneud yn gyfoethog.
Cefaist dy eni i deyrnas Herod er mwyn i ni gael ein geni o'r newydd i deyrnas Dduw. Yr oeddet heb le i roi dy ben i lawr er mwyn i ni gael meddiannu'r lle a baratoist ar ein cyfer.
Yfaist o gwpan ein gofidiau er mwyn i ni gael yfed o gwpan dy lawenydd di.
Gwisgaist goron o ddrain er mwyn i ni gael gwisgo coron gogoniant.
Cefaist dy ddyrchafu ar groes er mwyn i ni gael ein dyrchafu i'th orsedd di.
Atgyfodaist er mwyn i ni yn awr ac yn y diwedd gael ein huno â thi ym mhresenoldeb y Tad.
Am y cyfan a wnaethost drosom, derbyn ein diolch.
[Dosbarthu'r gwin, ac yna dweud:]
Cymerodd Iesu gwpan a thywallt gwin iddo a dweud, 'Y cwpan hwn yw'r cyfamod newydd yn fy ngwaed i; yfwch bawb o hwn . . .'
[Cyfranogi o'r gwin]
[Wedi eiliad neu ddwy o dawelwch, cyhoeddi'r fendith]
Y FENDITH
O! Dduw, awdur a rhoddwr pob daioni, cymorth ni drwy dy Ysbryd i dyfu'n fwy tebyg i Iesu Grist, ein Harglwydd byw.
Amen.
(O.Ll.E.)
(B) 'A Swperaf Gydag Ef . . .'
[Gellid sgwrsio am ychydig wrth osod yr elfennau. Y ffordd hawsaf i ddechrau ydi trwy wahodd pawb i gydweddïo Gweddi'r Arglwydd, neu fe allai un o'r cwmni ddarllen emyn (er enghraifft 653; 305; 312 neu 49). Wedi hynny, darllen o'r ysgrythur.]
DARLLENIAD 1 Corinthiaid 11:23–26 a Datguddiad 3:20 a 21
[Gellid darllen y myfyrdod hwn wedyn]
MYFYRDOD
'Os agorir y drws,' meddai Iesu, 'mi ddof i mewn, ac a swperaf gydag ef . . .' Swper, sylwch, nid brecwast. Ar adeg brecwast mae holl ofalon y dydd o flaen pobol. Nid cinio chwaith. Ar adeg cinio, awr fach yn unig sydd i ginio. Swper – yr amser hwnnw o'r diwrnod pan fo person wedi cefnu ar waith a strach y dydd, a chyfle wedi dod bellach i ymlacio'n dawel braf, gyda siawns am sgwrs gall, galon wrth galon.
Fe wyddom i gyd am y profiad hyfryd o gael cyfaill neu gyfeillion draw am swper; dw i wrth fy modd â'r siarad sy'n digwydd ar ôl swper – pawb yn ddedwydd yn y goleuni bendigedig sy'n tywynnu mor gynnes rhwng cyfeillion.
Profiad felly yw bod gydag Iesu . . . 'Os agorir y drws,' meddai, 'mi ddof i mewn, ac a swperaf gydag ef . . .'
[Yna, cyn rhannu'r bara, gwahodd pawb i gydweddïo, ac yna un o'r cwmni i ddarllen y weddi isod]
GWEDDI DROS Y BARA
Gyda'r bara hwn, cymorth ni, Arglwydd, i glywed dy guriad, i wrando dy lais, ac i agor drysau ein bywyd i ti gael dod i mewn a thrigo ynom. Amen
[Dosbarthu'r bara, ac yna dweud:]
Cymerodd Iesu fara, ac wedi diolch i Dduw amdano, fe'i torrodd a dweud, 'Hwn yw fy nghorff a dorrir er eich mwyn chwi; cymerwch a bwytewch er cof amdanaf . . .'
[Cyfranogi o'r bara]
[Cyn rhannu'r gwin, gwahodd pawb i gydweddïo, ac yna un o'r cwmni i ddarllen y weddi isod]
GWEDDI DROS Y GWIN
Gyda'r cwpan hwn, o fewn ystafell ddirgel ein calon, neilltuwn fan i gyfarfod â thi, Arglwydd. Tyrd atom, a gwna'r ystafell honno'n deml, ein calon yn allor, a'r munudau hyn yn offrwm o weddi i ti. Amen
[Dosbarthu'r gwin, ac yna dweud:]
Cymerodd Iesu gwpan a thywallt gwin iddo a dweud, 'Y cwpan hwn yw'r cyfamod newydd yn fy ngwaed i; yfwch bawb o hwn . . .'
[Cyfranogi o'r gwin] [Wedi eiliad neu ddwy o dawelwch, cyhoeddi'r fendith]
Y FENDITH
Boed fy nghalon iti'n demel Boed fy nghalon iti'n nyth, Ac o fewn y drigfan yma Aros, Iesu, aros byth. Amen
(O.Ll.E.)
|
cym_Latn
| 24,063
|
CC-MAIN-2025-08
| 1.000004
|
<urn:uuid:822362e0-e9a7-46d7-8624-9e0722303a9b>
|
https://senedd.cymru/media/21ejt2pv/guide_to_the_stages_of_public_bills_and_acts-cym.pdf
| "Canllaw i'r cyfnodau craffu ar gyfer Biliau Cyhoeddus\n\nCanllaw i'r cyfnodau craffu ar gyfer Bilia(...TRUNCATED)
|
cym_Latn
| 18,148
|
CC-MAIN-2022-33
| 0.999959
|
<urn:uuid:ca747ac8-ef5d-40ef-90fb-320eaecbcdaa>
|
https://qualificationswales.org/media/3329/adroddiad-blynyddol-ar-gydraddoldeb-2018.pdf
| "\n\nCynnwys\n\nCyflwyniad\n\nMae Cymwysterau Cymru yn rheoleiddio cymwysterau, ac eithrio graddau, (...TRUNCATED)
|
cym_Latn
| 13,182
|
CC-MAIN-2019-04
| 0.999951
|
<urn:uuid:a027e242-980b-4915-888f-742dc48a3cc4>
| "https://llyw.cymru/sites/default/files/publications/2019-05/cod-ymarfer-ar-weithredu-swyddogaethau-(...TRUNCATED)
| "Gwarcheidiaeth Arbennig\n\nCod Ymarfer ar weithredu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn cy(...TRUNCATED)
|
cym_Latn
| 44,811
|
CC-MAIN-2021-49
| 1.000004
|
<urn:uuid:bcb29270-0569-4f25-9dc1-50a201cd4158>
|
https://www.gov.wales/docs/cssiw/report/inspection_reports/10594_c_180816_w.pdf
| "Adroddiad Arolygu ar gyfer\n\nGwasanaeth Maethu Gwynedd\n\nCyfadran Gofal Swyddfa'r Cyngor Penrallt(...TRUNCATED)
|
cym_Latn
| 16,045
|
CC-MAIN-2024-22
| 1.000004
|
<urn:uuid:3eceb431-40f5-4fc8-9b48-808809a7726c>
| "https://busnes.senedd.cymru/Data/WelshCommittee578/20020313/Agenda/Cofnod%20y%20Trafodion%20Clwyr%2(...TRUNCATED)
| "Cynulliad Cenedlaethol Cymru Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig\n\nThe National Assembly fo(...TRUNCATED)
|
cym_Latn
| 118,397
|
CC-MAIN-2022-21
| 0.966471
|
<urn:uuid:36648bf8-31ba-425d-bcc5-92e48768e4a6>
| "https://consult.justice.gov.uk/homeoffice-moj/domestic-abuse-consultation/supporting_documents/Tran(...TRUNCATED)
| "Trawsnewid yr Ymateb i Gam-drin Domestig\n\nYmgynghoriad y Llywodraeth (fersiwn llawn)\n\nTrawsnewi(...TRUNCATED)
|
cym_Latn
| 81,322
|
CC-MAIN-2018-51
| 0.999971
|
<urn:uuid:a6a1ee86-9ff9-466c-b9bd-dfe262c94e5d>
| "https://www.citizensadvice.org.uk/Global/Migrated_Documents/corporate/wales-annual-report-welsh-14.(...TRUNCATED)
| "Cyngor Ar Bopeth Cymru\n\nAdolygiad blynyddol\n\n2013 14\n\nYng Nghymru 2013/14\n\n337,000\n\no fat(...TRUNCATED)
|
cym_Latn
| 16,583
|
CC-MAIN-2021-17
| 1.000002
|
End of preview. Expand
in Data Studio
README.md exists but content is empty.
- Downloads last month
- 5